Gwneud cais ar-lein 

Dechreuwch rŵan

Cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim

Mae eich plentyn yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru) os ydych chi neu eich plentyn yn derbyn y canlynol... 

  • Cymhorthdal Incwm (CI)*
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (IBJSA)*
  • Cefnogir o dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999.
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (IR)
  • Credyd Treth Plant - cyn belled nad oes gennych hawl i Gredyd Treth Gwaith gyda chyfanswm incwm blynyddol o dan y terfyn a osodwyd gan CThEM
  • Elfen Warantedig o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Treth Gwaith ‘rhedeg allan’ - y taliad a gaiff rhywun am bedair wythnos arall ar ôl rhoi'r gorau i fod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith.
  • Credyd Cynhwysol - os ydych yn gweithio mae rhaid i chi ennill llai nag £7,400 y flwyddyn (£616.67 y mis) i fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.

Amddiffyniad wrth bonito

Os ydym wedi clyfarnu Prydau Ysgol Am Ddim, mae rhaid i ni adolygu cymhwysedd yn flynyddol.

Os ydym yn nodi bod eich amgylchiadau wedi newid ac nad yw eich plentyn bellach yn gymwys o dan y prif gynllun, byddant dal yn gymwys i gael prydau am ddim o dan y cynllun amddiffyniad wrth bonito.

Mae'r cynllun hwn yn golygu gallwch eith plentyn derbyn prydau am ddim o dan reol wrth bontio hyd at Ragfyr 31, 2023 neu tan ddiwedd cyfnod addysg bresennol.

Os ydych eich plentyn yn derbyn prydau am ddim o dan amddiffyniad wrth bontio, bydd hyn yn golygu ni fyddwn yn gymwys am bethau eraill fel y Grant Hanfodion Ysgol.

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

Mae gan yr holl ddisgyblion ysgol gynradd ym mlynyddoedd 3 – 6 hawl i’r Cynllun Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.   

Er mwyn i’ch plentyn gael eu prydau ysgol am ddim bydd angen i chi archebu yn defnyddio gwefan ParentPay (dolen gyswllt allanol). Mae rhagor o wybodaeth ar gael am gofrestru gyda ParentPay ar ein tudalen ‘Talu am brydau ysgol’.

Os ydych chi ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau, mae’n dal yn bwysig eich bod yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim (ar ddechrau’r dudalen hon) ar gyfer eich plentyn. Mae hyn oherwydd os ydych chi’n gymwys am brydau ysgol am ddim gall olygu: 

  • bod rhagor o gymorth ariannol ar gael i chi (yn cynnwys y Grant Hanfodion Ysgol, gwersi cerddoriaeth a thripiau ysgol) 
  • cynnydd mewn cyllid i ysgol eich plentyn