Gwneud cais ar-lein

Dechreuwch rŵan

Mae Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru ar gael i helpu gyda chostau gwisg ysgol a phethau eraill i blant ysgol o deuluoedd ag incwm isel. 

Swm grant

Mae’r grant wedi’i gynyddu fel bod plant sy’n dechrau ym mlwyddyn 7 yn cael £200 a phlant ym mhob blwyddyn ysgol arall, o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11, yn cael £125.

Cymhwyster

Mae unrhyw blentyn sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n mynychu’r ysgol yn Wrecsam, ac sydd yn y grwpiau blwyddyn canlynol yn gymwys i gael y grant:

  • Yn cychwyn yn y dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd
  • Yn cychwyn blynyddoedd ysgol 1 i 11
  • Mewn ysgol arbennig, adnodd anghenion arbennig neu uned gyfeirio disgyblion ac yn 4 i 15 oed 

Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal yn gymwys hefyd, waeth beth yw eu statws o ran prydau ysgol am ddim.

  • Ni fydd plant sy’n cael prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau amddiffyn wrth bontio yn gymwys.
  • Ni fydd plant sydd yn y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 6, ac sy'n derbyn prydau bwyd o dan y cynnig cyffredinol yn unig, yn gymwys. 

Beth os fydd eich amgylchiadau’n newid?

Sylwch os yw eich amgylchiadau wedi newid yn ystod y 12 mis diwethaf, efallai y bydd angen i chi ail-wneud cais am brydau ysgol am ddim yn gyntaf.  Ar ôl i chi gael cadarnhad o'ch cymhwysedd, yna gallwch chi wneud cais am y grant.

Ar gyfer beth gellir defnyddio’r grant?

Gallwch ddefnyddio’r grant i dalu costau:

  • gwisg ysgol
  • dillad chwaraeon ysgol
  • gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach, er enghraifft chwaraeon, sgowtiaid a geidiau
  • offer, fel bag ysgol a deunydd ysgrifennu
  • offer ysgol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, fel dylunio a thechnoleg
  • offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dillad sy’n dal dŵr ar gyfer dysgu yn yr awyr agored
  • gliniadur neu ddyfais tabled

Sut fydda i’n cael yr arian?

Telir y grant drwy drosglwyddiad BACS yn syth i’ch cyfrif banc.

Mwy o gwestiynau

Anfonwch e-bost i uniformgrant@wrexham.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau am y grant.