Os ydych chi’n ystyried sefydlu eich busnes eich hun yn Wrecsam, gallwch gael mynediad at gymorth busnes diduedd a chyfrinachol, am ddim, gan ein Tîm Busnes a Buddsoddi.  

Rydym ni’n deall bod dechrau eich busnes eich hun yn gallu bod yn broses gyffrous ond brawychus. Gall ein tîm profiadol o swyddogion cefnogi busnes gynnig arweiniad a’ch cyfeirio at gymorth pellach os oes angen. 

Mae ein canllaw buddsoddi hefyd yn amlygu pam y gallai Wrecsam fod yn lle delfrydol i’ch busnes.

Cyflwyno ymholiad

Gofynnwch am wybodaeth i’ch helpu â sefydlu eich busnes, neu gallwch drefnu apwyntiad. 

Dechrau rŵan

Sut allwn ni eich helpu chi i ddechrau busnes

Fel trosolwg byr, gall ein cymorth a’n adnoddau eich helpu chi i: 

  • Sefydlu eich busnes yn gynt
  • Llunio cynlluniau busnes a marchnata y gallwch eu defnyddio i gael cyllid 
  • Ymchwilio i’ch marchnad yn drylwyr, gan nodi tueddiadau allweddol yn y farchnad, rhagolygon y dyfodol a phroffiliau defnyddwyr 
  • Adnabod ac ymchwilio i’ch cystadleuaeth yn lleol
  • Dod o hyd i gyflenwyr 
  • Marchnata eich busnes
  • Dod o hyd i gyfleoedd rhwydweithio lleol, digwyddiadau a gweithdai – gallwch hefyd ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi’) i gael y wybodaeth ddiweddaraf 
  • Cyflogi staff 
  • Ymchwilio i statws credyd cyflenwyr a chwmnïau rydych chi am weithio gyda nhw
  • Nodi unrhyw grantiau / cyllid perthnasol 
  • Nodi unrhyw reoliadau neu drwyddedau perthnasol  
  • Gwarchod eich eiddo deallusol
  • Gwneud penderfyniadau busnes hyddysg 

Gadewch i ni gael gwared â’r ansicrwydd ynghlwm â phenderfyniadau mae angen i chi eu gwneud drwy roi gwybodaeth gywir a pherthnasol i chi. 

Gwasanaethau ac adnoddau arbenigol ar gyfer busnesau newydd

Canllawiau ar ddechrau a rhedeg busnes

Gallwn ddarparu canllawiau sefydlu ar gyfer mathau penodol o fusnesau, yn amlinellu: 

  • unrhyw gymwysterau gorfodol sydd eu hangen ar eich busnes 
  • unrhyw drwyddedau y byddai eu hangen  
  • rheoliadau i fod yn ymwybodol ohonynt 
  • ffyrdd posibl o hyrwyddo  

I wneud cais am wybodaeth i’ch helpu i ddechrau eich busnes, gallwch lenwi ein ffurflen ymholiad.

Pecyn Sefydlu 

Gallwch hefyd wneud cais am becyn sefydlu busnes, sy’n cynnwys: 

Canllawiau 
  • Cyflwyniad i reoliadau busnes wrth ddechrau busnes
  • Dewis y strwythur cyfreithiol cywir 
  • Cysylltiadau gorfodol ar gyfer busnesau newydd 
  • Cyflwyniad i Dreth, Yswiriant Gwladol a TAW 
  • Llunio cynllun busnes 
  • Dewis enwau ar fusnesau a chwmnïau
  • Yswiriant ar gyfer busnes
  • Proffilio eich cynulleidfa darged 
Rhestr Wirio 
  • Ymchwil i’r farchnad ar gyfer busnes newydd 
  • Rhedeg busnes o adref 

Taflenni ffeithiau 

Mae amrywiaeth eang o daflenni ffeithiau busnes (dolen gyswllt allanol) ar gael hefyd. Llenwch ein ffurflen ymholiadau gan nodi cyfeirnod a theitl pob taflen ffeithiau sydd o ddiddordeb, hyd at uchafswm o 10.

Ymchwil y farchnad – gan gynnwys adroddiadau IBIS World

Pan fyddwch yn dechrau busnes o’r newydd mae’n bwysig deall a fydd digon o alw am eich gwasanaethau / cynnyrch - cyn buddsoddi unrhyw arian i lansio eich menter.

Gallwn gynnig mynediad at amrywiaeth o adroddiadau ymchwil y farchnad arweiniol, sy’n cynnwys llawer o sectorau a diddordebau. 

Gallwn ddarparu ymchwil a fydd yn ddefnyddiol wrth lunio cynllun busnes neu gefnogi cais am gyllid, megis: 

  • tueddiadau presennol a rhai a ragwelir ar gyfer y dyfodol o fewn sectorau marchnad penodol 
  • data demograffig lleol 
  • ystadegau am gwsmeriaid  
  • tueddiadau twristiaeth 

IBIS World yw’r darparwr mwyaf nodedig o ymchwil i'r farchnad sydd ar gael am ddim trwom ni – mae’n un o ffynonellau mwyaf toreithiog y DU o wybodaeth am fusnes a diwydiant. Mae eu hadroddiadau, sydd fel arfer yn costio tua £500 i’w prynu, ar gael am ddim trwy ein gwasanaeth. Maent yn darparu ymchwil annibynnol, cywir, cynhwysfawr a chyfredol ar gannoedd o sectorau marchnad y DU.  

Trosolwg o feysydd sy’n cael eu dadansoddi mewn adroddiadau:

Perfformiad y diwydiant

  • Ysgogyddion allanol allweddol
  • Perfformiad presennol
  • Rhagolygon y diwydiant
  • Cylched bywyd y diwydiant

Cynnyrch a marchnadoedd

  • Cadwyn gyflenwi
  • Cynnyrch a gwasanaethau
  • Penderfynyddion galw

Cystadleuaeth

  • Ffactorau llwyddiant allweddol
  • Meincnodau strwythur costau
  • Sylfaen cystadleuaeth
  • Rhwystrau rhag mynediad

Ystadegau allweddol

  • Data am y diwydiant
  • Newid blynyddol
  • Cymarebau allweddol

Gallwch lenwi ein ffurflen ymholiadau os hoffech i ni argymell adroddiadau neu ddata sy’n gysylltiedig â’ch syniad busnes. 

Marchnata eich busnes yn effeithiol

Yn aml iawn, denu cleientiaid a gwerthiant yw un o’r heriau mwyaf wrth sefydlu busnes newydd. 

Rydym yn cynnig cymorth marchnata i’ch helpu i: 

Gallwn hefyd roi gwybod i chi am gyfleoedd masnachu mewn digwyddiadau / marchnadoedd, yn ogystal â gweminarau a gwasanaethau cymorth eraill, a allai eich helpu i godi proffil eich busnes ar-lein.

Llenwch ein ffurflen ymholiadau i wneud cais am gymorth marchnata ac awgrymiadau ar gyfer eich busnes.

Templedi ar gyfer dogfennau / polisïau enghreifftiol

Rydym ni’n gallu darparu mynediad am ddim i fwy na 1,000 o ddogfennau busnes cyfredol y gallwch chi eu haddasu o gronfa ddata fusnes ‘Tips and Advice’ Indicator – FL Memo (dolen gyswllt allanol)

Mae’r pynciau’n cynnwys cyfraith cyflogaeth, diogelwch tân, AD, iechyd a diogelwch, rhestrau gwirio ar gyfer busnes, rheoli cyllid a chyfrifeg.  

Mae’r holl ddogfennau wedi’u hysgrifennu’n gryno ac mewn iaith syml ac maent yn barod i’w defnyddio ar unwaith.

Mae rhai o’r modelau polisïau / dogfennau mwyaf poblogaidd yn cynnwys:

Amodau a thelerau gwerthiant

  • Amodau a thelerau gwerthu i ddefnyddiwr
  • Amodau a thelerau gwerthu o fusnes i fusnes 
  • Amodau a thelerau ar gyfer darparu gwasanaethau i gwsmeriaid busnes
  • Amodau a thelerau ar-lein – gwerthu gwasanaethau i ddefnyddiwr 
  • Amodau a thelerau ar-lein – busnes i ddefnyddiwr – contract gwerthu nwyddau  
  • Cytundeb gwerthu nwyddau

Cyffredinol

  • Hawlfraint (ar ddyluniadau wedi’u creu ar gyfer eich busnes / cwmni)
  • Cytundeb cyfrinachedd (wrth ganiatáu i drydydd parti gael mynediad at wybodaeth neu ddata eich busnes)
  • Llythyr cyfrinachedd (dewis llai ffurfiol na chytundeb cyfrinachedd, fel arfer yn cael ei ffurfio yn ystod camau cynnar unrhyw drafodaethau)
  • Hysbysiad preifatrwydd GDPR
  • Cytundeb is-gontractio 
  • Templed anfoneb
  • Llythyr atgoffa am anfoneb
  • Templed asesiad risg
  • Archwiliad asesiad risg
  • Ffurflen gais cyfrif credyd (ar gyfer cwsmeriaid sy’n gofyn am gyfleuster credyd)
  • Llythyr yn cadarnhau archeb ar lafar
  • Llythyr dim contract (mewn ymateb i honiad am gontract ar lafar)
  • Gwarant bersonol i dalu (ar gyfer cwsmeriaid posib' gydag enw drwg)
  • Partneriaethau
  • Cytundeb partneriaeth
  • Cytundeb partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig

Llenwch ein ffurflen ymholiadau os hoffech wneud cais am unrhyw un o’r templedi o’r rhestr uchod neu wneud cais am restr o’r holl dempledi a pholisïau enghreifftiol sydd ar gael y gellir eu darparu (hyd at 10 y mis). 
 

Adroddiadau a sgôr credyd Experian am ddim

Gwarchodwch eich menter rhag gweithio gyda busnesau sydd â sgôr credyd wael.

Bydd adroddiadau credyd gan Experian yn cynnig tawelwch meddwl i chi, p’un a hoffech chi: 

  • ymchwilio a oes gan fusnes y modd i dalu am unrhyw nwyddau/gwasanaethau y gofynnwyd i chi eu darparu 
  • diogelu eich hun rhag dechrau busnes gydag unrhyw gyflenwyr mewn sefyllfa ariannol wael 
  • ymchwilio i ddarpar bartneriaid busnes cyn llofnodi contract 

Dyma’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiadau: 

  • Crynodeb cyffredinol o’r cwmni
  • Dadansoddiadau ariannol a gwybodaeth am risg
  • Manylion y perchnogion a’r cyfarwyddwyr
  • Newidiadau i derfyn credyd a sgôr credyd misol  
  • Gwybodaeth am berfformiad talu llawer o gwmnïau 

Mae adroddiadau ar gael am unrhyw gwmni cyfyngedig yn y DU, ac mae adroddiadau mwy cryno hefyd ar gael am lawer o unig fasnachwyr.

Llenwch ein ffurflen ymholiad i ofyn am adroddiad credyd, gan ddarparu enw’r cwmni neu fusnes ac, os gallwch chi, eu swyddfa gofrestredig / cyfeiriad masnachu a’u gwefan.

Cyfleoedd i rwydweithio

Gallwch ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi’) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau busnes, fforymau a chyfarfodydd rhwydweithio sydd ar ddod.

Chwilio am grantiau a chyllid

Mae grantiau’n cynnig cyllid nad oes angen ei dalu’n ôl a gallent eich helpu i:

  • Ddechrau busnes
  • Ehangu eich busnes 
  • Marchnata a hyrwyddo eich busnes 
  • Adnewyddu / datblygu safle
  • Recriwtio staff
  • Hyfforddi eich gweithlu

Gallwn roi gwybod i chi am gynlluniau grant lleol, rhanbarthol a chenedlaethol y gallech fod yn gymwys i’w derbyn. Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth am ddarparwyr cyfalaf menter, benthyciadau, platfformau cymheiriaid a chystadlaethau gyda gwobrau ariannol. 

Gallwch wneud cais am chwiliad argaeledd cyllido trwy lenwi ein ffurflen ymholiadau, i nodi ffynonellau cyllid posibl. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn seiliedig ar gynlluniau cyllid a restrwyd sy’n agored ar gyfer cais ar gronfeydd data cyllid trydydd parti. 

Gallwch hefyd ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gyfleoedd am gyllid.

Llyfrgell fusnes

Mae amrywiaeth o lyfrau ar gael gan Lyfrgelloedd Wrecsam am nifer o bynciau busnes (ar gyfer busnesau newydd a rhai sydd wedi’u sefydlu). 

Gallwch bori drwy gatalog Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam ar-lein (dolen gyswllt allanol) i chwilio am lyfrau sydd o ddiddordeb neu o gymorth.

Gallwch ddysgu sut i ymaelodi â’r llyfrgell a defnyddio’r gwasanaeth ar y tudalennau llyfrgell.