Os ydych yn darparu gofal di-dâl i rywun sydd methu ag ymdopi heb eich cefnogaeth oherwydd salwch, anabledd a phroblemau iechyd meddwl neu ddibyniaeth, rydych chi felly yn ofalwr di-dâl. Gall yr unigolyn yr ydych yn ei gefnogi fod yn aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog. 

Mae llawer o wybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i chi fel gofalwr di-dâl. 

Asesiad o anghenion gofalwr 

Os ydych yn gofalu am rywun, gallwch gael asesiad i weld beth all helpu i wneud eich bywyd yn haws. Gelwir hyn yn ‘asesiad gofalwr’, a bydd yn cynnwys ‘sgwrs beth sy’n bwysig’ - gallwch gael rhagor o wybodaeth am beth mae’r dull hwn yn ei olygu ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru (dolen gyswllt allanol)

Mae gennych hawl yn gyfreithiol i gael asesiad o anghenion gofalwr gwaeth beth yw:

  • maint neu fath o ofal yr ydych yn ei ddarparu, eich modd ariannol, neu lefel y gefnogaeth yr ydych ei angen
  • os ydych yn byw gyda’r unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt neu beidio 

Os ydych yn rhannu cyfrifoldebau gofalu gyda rhywun arall, gan gynnwys plentyn dan 18, mae gan bob un ohonoch yr hawl i gael asesiad eich hun. 

Mae’r asesiad yn gyfle i drafod pa gefnogaeth neu wasanaethau yr ydych efallai eu hangen i’ch helpu yn eich rôl gofalu. 

Gallwch ddod o hyd i beth mae asesiad gofalwr yn ei gynnwys a sut y gallwch baratoi ar wefan Gofalwyr y DU (dolen gyswllt allanol) 

Gofyn am asesiad gofalwr

Os ydych eisiau asesiad, cysylltwch â NEWCIS - Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (dolen gyswllt allanol) neu cofrestrwch gyda NEWCIS fel gofalwr di-dâl (dolen gyswllt allanol)

Cynllun seibiant

Mae ‘Pontio’r Bwlch’ yn gynllun seibiant sydd yn eich darparu gyda chyfnod byr o seibiant o’r rôl gofalu. Gallai seibiant byr o’ch rôl gofalu gynnwys mynychu apwyntiad personol, digwyddiad NEWCIS neu gymdeithasu gyda ffrindiau.

Hyfforddiant a gweithgareddau

Gweithio gydag ystod o sefydliadau, mae NEWCIS yn cynnal rhaglen hyfforddi mewn pedwar maes allweddol: 

  • sgiliau ymarferol
  • cymorth emosiynol
  • gweithgareddau hamdden/ hobi
  • cefnogaeth gyda chyflogaeth

Mae rhai sesiynau wedi’u hanelu at ofalwyr yn cael ychydig o amser iddyn nhw eu hunain gan gymryd rhan mewn gweithgaredd pleserus. Mae eraill wedi’u hanelu at ofalwyr yn dysgu sgiliau newydd a all wneud bywyd yn haws. 

Gwasanaethau cymorth a chyngor 

Gofalwyr sy’n oedolion

Mae NEWCIS (Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru) yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl yn Wrecsam ar ein rhan. 

Mae NEWCIS yn cynnig ystod o wasanaethau wedi’u teilwra i fodloni anghenion unigol ac yn gallu eich hysbysu am eich hawliau fel gofalwr di-dâl. 

Mae gwasanaethau yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol, cynllun seibiant sydd wedi ennill gwobrau, asesiadau o anghenion gofalwyr, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cefnogi cyfoedion, Meddyg Teulu, cymorth ysbyty.

Gofalwyr ifanc

Mae Gofalwyr Ifanc WCS yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth emosiynol i ofalwyr ifanc a gofalwyr oedolion ifanc hyd at 18 oed ar draws Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych. Mae hyn yn cynnwys cymorth un-i-un, teithiau a grwpiau, hyfforddiant ac addysg. 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â info@wcdyc.org.uk.

Mwy o wybodaeth

Taliadau uniongyrchol

Os yw rhywun yn cael asesiad gan y gwasanaethau cymdeithasol a’i fod wedi dangos eu bod yn gymwys i gael gofal a chymorth cael taliad uniongyrchol. Mae hyn yn golygu bod yr unigolyn yn cael arian i sefydlu gwasanaethau eu hunain, yn hytrach na’r gefnogaeth yn cael ei ddarparu gan y gwasanaethau cymdeithasol. Gellir defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am Cynorthwy-ydd Personol - felly gall fod yn bosibl i’r unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt i’ch recriwtio chi fel Cynorthwy-ydd Personol.

Gall gofalwyr drefnu bod yr unigolyn maen nhw’n gofalu amdano yn aros adref gyda chefnogaeth taliad uniongyrchol hefyd, er mwyn iddynt gael seibiant.