Gwiriadau diogelwch

Rydym yn gwasanaethu cyfarpar nwy yn ein heiddo bob blwyddyn - mae’r gyfraith yn mynnu hynny. Er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau mae angen i ni wneud yn siŵr bod pibellau, cyfarpar a, pan fydd yn berthnasol, ffliwiau yn cael eu gwirio i gadarnhau eu bod yn ddiogel, o leiaf unwaith bob 12 mis.

Rydym hefyd yn gyfrifol am gynnal gwiriad diogelwch nwy blynyddol ym mhob eiddo sydd â chyflenwad nwy. Bydd peirianwyr gwasanaethu nwy yn galw ac yn cynnal gwiriad diogelwch ar bob cyfarpar unwaith bob blwyddyn - mae hyn yn cynnwys gwirio eich cyfarpar chi eich hun (byddwn yn dweud wrthych os byddwn yn canfod unrhyw rai nad ydynt yn ddiogel yn ystod y gwiriad hwn, ond chi fydd yn gyfrifol am drefnu i atgyweirio’r cyfarpar neu brynu rhai newydd).

Pryd bynnag y bo’n bosibl byddwn yn rhoi o leiaf 24 o rybudd i chi ac yn gwneud apwyntiad gyda chi.

Beth ddylwn ei wneud os wyf yn credu bod nwy yn gollwng?

Os ydych yn amau bod nwy yn gollwng dylech droi’r cyfarpar i ffwrdd a’r cyflenwad nwy yn y mesurydd os yn bosibl, a galw’r rhif argyfwng Nwy Cenedlaethol ar unwaith (mae’n rhif am ddim ac mae ar gael 24 awr y dydd).

Dylech ond defnyddio ffôn symudol i’w galw pan fyddwch y tu allan i’ch eiddo (neu gofynnwch i gael defnyddio ffôn llinell dir eiddo arall). Y rhif argyfwng Nwy Cenedlaethol yw 0800 111 999. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw gallwch gysylltu â 0800 371 787 ar minicom neu ffôn testun.

Os ydych yn credu fod nwy yn gollwng...

  • peidiwch byth â throi unrhyw beth trydanol yn eich eiddo i ffwrdd neu ymlaen – gallai wreichioni ac achosi ffrwydrad (peidiwch â defnyddio switsys golau a chyfarpar megis ffonau symudol, ffonau llinell dir, intercoms neu systemau mynediad drws a chlychau drws)
  • diffoddwch unrhyw danau, fflamau noeth a sigaréts oherwydd gallent achosi ffrwydrad hefyd
  • agorwch ffenestri a drysau er mwyn galluogi’r nwy i ddianc, a gadael awyr iach i mewn
  • gadewch yr eiddo cyn gynted ag y gallwch ac aros y tu allan i’r peiriannydd nwy gyrraedd

Os ydych yn amau bod carbon monocsid yn gollwng dylech ddilyn y cyfarwyddiadau hyn, ond efallai y bydd angen sylw meddygol arnoch hefyd.

Ar ôl i beiriannydd Nwy Cenedlaethol gyrraedd, byddant yn ceisio canfod tarddiad y gollyngiad ac yn cynnal atgyweiriadau ar unwaith os gellir eu gwneud yn rhwydd.

Os bydd angen llawer mwy o waith byddant yn capio’r cyflenwad sy’n dod i mewn. Yna dylech gysylltu â ni i roi gwybod am y gwaith atgyweirio a byddant yn gwneud yr atgyweiriadau cyn gynted â phosibl.

Gwenwyn carbon monocsid

Gall carbon monocsid gael ei greu gan gyfarpar nwy sydd wedi’u gosod yn wael, neu rai nad ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw’n iawn neu os nad oes digon o awyriad.

Ni allwch flasu nac arogli carbon monocsid ond gall fod yn angheuol. Gall hyd yn oed symiau bach arwain at broblemau iechyd amrywiol, gan gynnwys niwed i'r ymennydd.

Darllenwch am symptomau gwenwyn carbon monocsid ar wefan y GIG (dolen gyswllt allanol).

Os ydych yn amau bod carbon monocsid yn gollwng dylech ddilyn ein cyfarwyddiadau uchod ar gyfer gollyngiad nwy, ond efallai y bydd angen i chi gael sylw meddygol hefyd.

Arwyddion perygl nwy

Gallai eich cyfarpar nwy fod yn anniogel os byddwch yn sylwi ar...

  • Fflam felen neu oren yn hytrach na glas
  • Golau peilot sy’n diffodd drwy’r amser
  • Unrhyw ran o’r cyfarpar sydd wedi troi’n ddu neu frown, neu’n dangos arwyddion o losgiad
  • Arwyddion o huddygl, arogl huddyglyd neu lwydaidd
  • Mwy o anwedd ar y ffenestri

Gall unrhyw gyfarpar nwy (er enghraifft tanau, gwresogyddion, boeleri gwres canolog, gwresogyddion dŵr neu boptai) nad ydynt yn ddiogel ollwng carbon monocsid.

Osgoi perygl

Dylech bob amser sicrhau nad yw cyfarpar nwy wedi’u gorchuddio ac ni ddylech fyth adael cyfarpar nwy os ydych yn credu nad yw’n gweithio’n iawn. Dylech sicrhau nad yw’r canlynol wedi’u rhwystro/gorchuddio...

  • tyllau aer
  • rhwyllau aer neu frics aer sefydlog
  • ffliwiau allanol