Diogelwch trydan

Gellir osgoi’r rhan fwyaf o ddamweiniau sy’n cynnwys trydan os byddwch yn dilyn y rheolau canlynol...

  • ni ddylech byth weirio mwy nac un cyfarpar i un plwg dylech ond defnyddio addaswyr ar gyfer eitemau â llwyth isel, er enghraifft lampau bwrdd, radios a chlociau larwm
  • dylech ond defnyddio addaswyr ar gyfer eitemau â llwyth isel, er enghraifft lampau bwrdd, radios a chlociau larwm
  • peidiwch â mynd ag unrhyw gyfarpar trydan i’r ystafell ymolchi
  • peidiwch byth â chyffwrdd unrhyw gyfarpar trydan gyda dwylo gwlyb
  • dylech bob amser dynnu plwg cyfarpar pan na fyddwch yn ei ddefnyddio
  • peidiwch byth â gosod fflecs i gyfarpar trydan o dan garped oherwydd ni fyddwch yn gwybod pan fydd y fflecs yn treulio
  • dylech adnewyddu fflecsys sydd wedi treulio yn brydlon
  • gwnewch yn siŵr bod gan bob cyfarpar y ffiws cywir yn y plwg
  • peidiwch â rhwystro’r uned defnyddiwr (bocs ffiwsys) – efallai y bydd angen mynediad cyflym a rhwydd ato arnom mewn argyfwng
  • dylech osod torrwr cyswllt i soced y plwg wrth ddefnyddio unrhyw gyfarpar neu beiriannau y tu allan er enghraifft torwyr gwrychoedd, torwyr lawnt neu strimer

Diogelwch tanwydd solet

Dylech ond defnyddio tanwydd cymeradwy sy’n addas ar gyfer eich cyfarpar (gall gwerthwyr glo roi cyngor i chi ar ba danwydd sy’n addas), a phan fydd yn bosibl dylech ddefnyddio ‘tanwydd di-fwg’.

Ni argymhellir y defnydd o olosg petrolewm a gallai arwain at ddifrod i’r cyfarpar ac efallai y bydd angen i chi dalu tâl atgyweirio.

Dylech ddefnyddio gwarchodwr tân bob amser o amgylch plant, neu pan fyddwch yn gadael y tân heb oruchwyliaeth.

Gall dŵr poeth fynd yn boeth iawn, yn arbennig pan fydd y rheiddiaduron gwres canolog i ffwrdd.  Mae’n well peidio defnyddio’r gwresogydd trochi pan fydd y tân yn llosgi.

Gwnewch yn siŵr nad yw’r fent awyr yn y wal wedi’i rwystro bob amser.  Dylid glanhau eich simnai bob chwe mis.  Os ydych yn credu bod angen ysgubo eich simnai am nad yw wedi’i wneud ers cryn amser yna gallwch gysylltu â ni i’n hysbysu ynglŷn â’r atgyweiriad.