Os ydych chi neu rywun sy’n annwyl i chi wedi cael diagnosis o ddementia, gall fod yn gyfnod unig ac ynysig iawn.
Yn Wrecsam mae llawer iawn o gymorth ar gael, a bydd y wybodaeth a’r dolenni isod yn eich arwain chi tuag at grwpiau a gwasanaethau sydd ar gael i chi yn y fwrdeistref sirol.
Rhosllanerchrugog a phentrefi sy’n deall dementia
Gyda chymorth gan wirfoddolwyr, mae Cyngor Cymuned Rhos ac Asiant Cymunedol Rhos wedi ffurfio grŵp gweithredu er mwyn gwneud Rhos, Johnstown a Phonciau yn bentrefi sy’n deall dementia.
Mae pentrefi sy’n deall dementia yn lleoliadau lle mae trigolion a busnesau yn deall dementia, yn trin y rhai sy’n byw gyda dementia mewn ffordd barchus ac yn eu cefnogi nhw.
Os hoffech wybod mwy, neu os hoffech gyfrannu tag at y cynllunio, anfonwch e-bost at Rhoscommunityagent@gmail.com neu ffoniwch 07851 798630.
Grŵp Celf Ffrindiau Dementia Wrecsam
Grŵp celf am ddim ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
Canu Er Lles Yr Ymennydd
Mae’r grŵp hwn yn agored i unrhyw un sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Mae am ddim i fynychu, ac nid oes angen llais canu gwych arnoch. Byddwch yn canu amrywiaeth o ganeuon ac yn dysgu rhai caneuon hwyliog i gynhesu’r llais, oll mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
Atgofion - Cinio a Chymorth Dementia
Ar ddydd Iau cyntaf bob mis, ymwelwch a Chaffi Happy Hedgehog i gael cinio mewn amgylchedd cefnogol. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 354933.
Cymorth Therapi Galwedigaethol
Mae’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn gweithio gyda phlant ac oedolion i gynnig asesiadau gweithredol i gefnogi pobl sydd ag anableddau a salwch cronig i barhau i fod yn annibynnol am gyhyd â bo modd ac i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw fel unigolion yn unol â’u canlyniadau lles.
Sesiynau galw heibio Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn y Ganolfan Les
Taith Ni (Ymddiriedolaeth y Gofalwyr)
Caffi Gofalwyr Di-dâl
Ar ddydd Mawrth cyntaf bob mis, 12-1pm, dewch draw i’r Ganolfan Les, Adeiladau’r Goron, Wrecsam.
Gallwch gael sgwrs anffurfiol, cwrdd â chyfoedion eraill sy’n cydbwyso gofalu gyda gwaith a bydd GOGDdC yno i helpu gofalwyr di-dâl gyda chyngor cyfrinachol dros baned.
Grŵp Llywio Wrecsam sy’n Deall Dementia
Grŵp bach ymroddedig gyda’r nod o gyflawni statws sy’n deall dementia.
Llwybr Cymorth Cof
Dyma derm ymbarél ar gyfer y bartneriaeth rhwng pedwar sefydliad (GOGDdC, Cymdeithas Alzheimer, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr a Chynnal Gofalwyr) er mwyn cefnogi pobl gyda dementia, eu gofalwyr, teulu neu ffrindiau. Mae cymorth cyn ac ar ôl diagnosis, cymorth ysbyty preswyl a chanolfannau dementia.
Gellir cael mynediad at gymorth trwy atgyfeiriad gan y meddyg teulu neu weithwyr gofal iechyd eraill, atgyfeirio eich hunain neu trwy Ymddiriedolaeth y Gofalwyr.
Cymdeithas Alzheimer
Atgyfeirio eich hunain
Llinell Gymraeg 03300 947400
Llinell Saesneg 03331 503456
Ymddiriedolaeth y Gofalwyr
01492 542212
GOGDDC
01352 752525
Cynnal Gofalwyr
01248 370797 (Yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn)
Protocol Herbert
Pan fydd person yn mynd ar goll, mae'n brofiad gofidus i deulu a ffrindiau a gall fod hyd yn oed yn fwy gofidus os oes gan yr unigolyn coll ddementia.
Ffurflen yw Protocol Herbert y mae gofalwyr, aelodau o’r teulu neu ffrindiau yn gallu ei llenwi i helpu’r heddlu i chwilio am bobl â dementia sy’n mynd ar goll. Mae cael y wybodaeth hon yn barod i’w darparu yn gallu arbed gofid ac amser. Mae’r ffurflen yn cynnwys rhestr o wybodaeth i helpu’r heddlu, gan gynnwys:
- Meddyginiaeth ofynnol
- Rhifau ffôn symudol
- Lleoedd y daethpwyd o hyd iddo/iddi yn y gorffennol
- Ffotograff diweddar
Ffurflen PDF ac mae’r holl wybodaeth i’w gweld ar wefan Heddlu Gogledd Cymru (dolen gyswllt allanol).
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch commissioning@wrexham.gov.uk.
Gwarchodwr Popty (dyfais diffodd popty)
Mae dyfais diffodd popty yn torri’r pŵer i’r popty er mwyn atal tân. Yn dibynnu ar y brand, mae rhai’n gallu synhwyro gwres neu gyfuniad o wres a tharth (mwg a stêm) a synhwyro presenoldeb dynol.
Gan fod 50% o danau yn cychwyn yn y gegin, gall gwarchodwyr popty fod yn arwyddocaol wrth atal tân. Maent wedi’u llunio ar gyfer pob math o lety. Maent yn sicrhau bod trigolion yn gallu coginio yn y modd arferol, gan gadw eu hunain yn ddiogel. Maent yn arbennig o werthfawr i gadw pobl hŷn a diamddiffyn a phobl sy’n byw â Dementia yn ddiogel rhag tân wrth goginio.
Efallai y bydd gennych hawl i gael un o’r dyfeisiau hyn yn eich cartref. E-bostiwch commissioning@wrexham.gov.uk.
Radio ‘Music for dementia’
Mae cerddoriaeth yn gysylltwr hyfryd sy’n gallu dod â phobl at ei gilydd yn y presennol. Gall fywiogi, symbylu a galluogi pobl sy’n byw â dementia i fynegi eu hunain yn greadigol trwy ymgysylltiad cerddorol.
Mae gwaith ymchwil - a phrofiadau bywyd go iawn - yn dangos y gall cerddoriaeth leihau symptomau gofidus dementia megis cynnwrf, dihidrwydd a gorbryder.
Grym mewn gwybodaeth
Mae’r llyfryn ‘Grym mewn gwybodaeth’ (dolen gyswllt allanol) yn rhoi awgrymiadau defnyddiol a allai helpu i wneud bywyd ychydig yn haws ar ôl cael diagnosis.
Crëwyd y llyfryn ar y cyd rhwng y grwpiau canlynol yn y rhwydwaith Prosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia (DEEP) - Addysgwyr Caban Prifysgol Bangor, DEEP Unedig Dwyfor a Meirionnydd a Fuse & Muse yn Abertawe.
Antur Dementia
Mae Dementia Adventure digwyddiadau (dolen gyswllt allanol) yn meddwl am dementia mewn ffordd wahanol. Rydym yn edrych ar beth mae pobl yn gallu ei wneud, nid beth maent yn methu ei wneud. Rydym yn credu gyda’r gefnogaeth gywir, gall pawb gyda dementia fynd allan i’r awyr agored, profi buddion lles natur a mwynhau bywydau mwy gweithgar a llawn.
Rydym yn cynnig:
- gwyliau â chymorth (dolen gyswllt allanol)
- hyfforddiant dementia ar gyfer teulu a ffrindiau (dolen gyswllt allanol)
- hyfforddiant dementia ar gweithwyr proffesiynol a sefydliadau (dolen gyswllt allanol)
Gallwch ddod o hyd i fwy ar dudalen we Dementia Adventure (dolen gyswllt allanol) neu ffonio 01245 237548.
The Rainbow Foundation
Mae’r Rainbow Foundation yn ddarparwr cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia yn eu cartrefi eu hunain, yn y gymuned ac yn eu canolfannau cyfleoedd dydd. Maent hefyd yn darparu cludiant a bwyd i amrywiol leoliadau ac mae ganddynt ganolfannau yn Marchwiail, Llannerch Banna a’r Waun.
Mae’r Rainbow Foundation yn cynnig ystod o weithgareddau a gwasanaethau, gan gynnwys:
Rydym yn cynnig mynediad i gyfleoedd newydd, dysgu, hybu iechyd ac rydym yn cefnogi ein cleientiaid a’u gofalwyr drwy gyfnodau anodd. Mae ein grwpiau ac amgylchedd cymdeithasol yn mynd i’r afael ag unigrwydd yn effeithiol, gwella gwydnwch a galluogi gwneud cysylltiadau ystyrlon.
Pa un a ydych yn edrych am ganolbwynt cymunedol i wneud ffrindiau newydd neu’n chwilio am strwythur a chymorth yn ystod y dydd, mae ein gwasanaeth cyfleoedd dydd yn gallu helpu i ddarparu cyswllt cymdeithasol ystyrlon mewn amgylchedd saff a diogel.
Darperir drwy gyfuniad o therapi siarad a gwasanaethau cyfeirio, mae eich Rhagnodwr Cymdeithasol yn gallu eich helpu i ddod i delerau gyda diagnosis dementia i chi eich hun neu anwylyd, a chynnig cefnogaeth wrth i chi lywio’r camau nesaf.
Bydd cynllunio gofal o flaen llaw fel rhan o’r rhaglen Cymru Angerddol yn eich cefnogi wrth i chi gynllunio ac adolygu eich anghenion gofal yn y dyfodol a gwneud penderfyniadau hysbys am eich gofynion gofal. Mae hyn yn eich cynnwys chi, y rhai agos atoch a’ch darparwyr gofal nawr ac yn y dyfodol.
Grŵp Hel Atgofion Rhos
Ymunwch â ni yn Llyfrgell Rhos i:
- Rannu eich atgofion
- Hel atgofion gyda llyfrau
- Roi cynnig ar weithgareddau newydd
- Gyfarfod a sgwrsio gydag eraill
Rydym yn cyfarfod ar drydydd dydd Gwener y mis, 11am - 12 canol dydd. Rydym yn croesawu unigolion, teuluoedd a gofalwyr. Bydd lluniaeth ar gael am ddim.
Ffoniwch Michelle ar 07851 798630 am fwy o fanylion.
Llyfrgell Rhos
Ffordd y Tywysog
Rhos
Wrecsam
LL14 1AB