Gall offer teleofal gefnogi unigolion i aros yn y cartref, i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol cyn hired â phosib. Mae’r offer wedi ei gysylltu â chanolfan ymateb 24/7 i sicrhau y gellir rhoi cefnogaeth fel bo angen. 

I gael mwy o wybodaeth am Teleofal gan gynnwys ffioedd a sut i wneud cais, darllenwch eich tudalen Teleofal.

Offer teleofal a fydd yn cael ei ystyried wrth asesu pobl sydd â nam gwybyddol 

Perygl o grwydro i ffwrdd o’r cartref

Synwyryddion drws

Mae’r rhain yn ddefnyddiol i fonitro diogelwch dinasyddion sydd â nam gwybyddol a allai fod yn debygol o adael eu cartref am gyfnodau estynedig, yn ystod y dydd neu’r nos, gan roi eu hunain mewn perygl.  

Dyfais System Leoli Fyd-eang (GPS)

Gall teulu/ffrindiau/gofalwyr olrhain dyfais GPS i wybod ble mae rhywun os ydynt yn poeni am eu diogelwch. Gall hyn sicrhau y gallant ddychwelyd adref yn sydyn ac yn ddiogel.

Rheoli meddyginiaeth

Atgoffa i gymryd meddyginiaeth

Gellir recordio negeseuon i atgoffa ynglŷn â chymryd meddyginiaeth i’w chwarae’n ddyddiol ar amseroedd penodol trwy’r uned teleofal.

Pivotell

Mae hwn yn flwch dosbarthu tabledi yn awtomatig, mae’n atgoffa pobl trwy larwm a golau yn fflachio, pryd i gymryd eu meddyginiaeth. Bydd yn dosbarthu’r dos cywir ar yr amser cywir o’r dydd/nos.

Risg uchel o syrthio

Synhwyrydd syrthio

Canfod pan fo rhywun yn syrthio’n galed ac yn codi’r larwm yn awtomatig ar gyfer rhywun na fyddai’n gallu pwyso botwm ar y gadwyn pan fo angen cymorth.

Synhwyrydd gwely

Pad pwysau sy’n gallu canfod os yw rhywun yn y gwely. Gall hyn godi larwm yn awtomatig pan fo rhywun allan o’r gwely er mwyn gallu darparu cefnogaeth. (Bydd angen amseroedd patrymau gyda’r nos arferol.)

System Just Checking

Mae’r system hon yn system monitro gweithgarwch ar gyfer y cartref.  Mae’n system unigol nad yw’n gysylltiedig â chanolfan ymateb ac fel arfer wedi ei gosod mewn cartref am 3-4 wythnos. Mae’r system yn helpu i ddeall symudiadau unigolyn yn y cartref, yn aml pan fônt yn byw ar eu pen eu hunain. Mae tystiolaeth a gasglwyd o’r gwaith monitro hwn yn helpu i sicrhau fod offer teleofal priodol yn cael ei osod a gall helpu i adnabod unrhyw anghenion gofal a chymorth pellach.

Cysylltwch a ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth Teleofal, e-bostiwch telecare@wrexham.gov.uk.