Yn y cyfeiriadur hwn fe welwch y rhaglen hyfforddi a drefnwyd rhwng Ebrill a Gorffennaf 2025.
Mae hwn yn gyfeiriadur hyfforddi 6 mis a bydd cyfeiriadur 6 mis pellach yn cael ei gyhoeddi gyda chyrsiau ychwanegol, gan gynnwys Cymorth Cyntaf Gorfodol a Diogelu. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn, neu unwaith y bydd yr holl gyrsiau isod yn llawn.
Gweithdrefnau cyrsiau hyfforddi
Sylwch:
- I archebu lle ar ein hyfforddiant, mae’n rhaid i’r holl fonitro gan y Tîm Gofal Plant o’r cyllid sy’n cael ei dderbyn fod wedi’i ddiweddaru. Mae’n cynnwys Grant Cyfalaf Bach a Chyllid Gofal Plant yr Enfys.
- Mae costau a dyddiadau cyrsiau ar gael yn y cyfeiriadur hyfforddiant .
- Rydym yn rhoi cymhorthdal sylweddol ar gyfer hyfforddiant sy’n y cyfeiriadur.
- Cyn archebu lle ar y cwrs, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen cynnwys y cwrs ac yn siŵr y bydd y cwrs yn bodloni eich anghenion hyfforddi a’ch bod yn gallu bodloni’r gofynion mynediad.
- Os yw’r ffurflen archebu yn cael ei chwblhau gan gyflogwr yn hytrach na’r ymgeisydd a enwyd, yna cyfrifoldeb y cyflogwr yw sicrhau bod yr ymgeisydd yn addas ar gyfer y cwrs a bod gwybodaeth y cwrs yn cael ei rhannu gyda’r ymgeisydd.
- 2 aelod o staff yn unig sy’n cael archebu lle ar bob cwrs. Os hoffech chi archebu lle ar gwrs i fwy o aelodau o staff, gofynnwch i’r staff gael eu rhoi ar ein rhestr aros. Os oes lleoedd ar gael, byddwn ni’n cysylltu â chi i gynnig lle i chi.
- Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein. Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb.
- Wrth archebu lle ar y cyrsiau canlynol, os na wneir taliad o fewn 5 diwrnod gwaith, byddwch chi’n colli’r lle ar y cwrs.
- Mae'r cyrsiau yn boblogaidd iawn felly cofiwch archebu mewn da bryd. Bydd archebu lle yn digwydd ar sail y cyntaf i’r felin ac yn amodol ar dderbyn taliad.
- Byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â newidiadau i'r cyfeiriadur, cyrsiau newydd ac unrhyw newidiadau i'r cyrsiau a gynlluniwyd drwy E-fwletinau a’n tudalen Facebook. Os nad ydych eisoes yn derbyn yr e-fwletinau hyn, bydd yn rhaid i chi gofrestru.
Archebu cwrs hyfforddi
Mae’r cyrsiau canlynol yn gymysgedd o hyfforddiant personol ac ar-lein drwy Zoom. Gweler cyrsiau unigol am wybodaeth bellach.
Yn ddarostyngedig i’r galw a’r nifer sy’n cymryd rhan, efallai y byddwn yn ychwanegu at y cyrsiau hyn o dro i dro. Bydd diweddariadau yn cael eu hanfon yn yr e-fwletinau misol ac ar ein tudalen Facebook.