Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn rhoi cymorth i’r sector gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Os ydych chi’n ddarparwr gofal plant, gall ein swyddogion gofal plant roi gwybodaeth a chyngor i chi am:

  • Ddechrau busnes, datblygu a chymorth
  • Cynllunio camau gweithredu a materion cynaliadwyedd
  • Cyllid gofal plant
  • Cymorth cynhwysiant (i blant sydd ag anghenion arbennig ac anableddau)
  • Hyfforddiant a chymwysterau i staff
  • Gwella ansawdd a hunanwerthuso
  • Materion cofrestru â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Cofrestru i ddarparu’r Cynnig Gofal Plant i Gymru

Os ydych chi’n ddarparwr gofal plant sy’n gweithio yn Wrecsam, gallwch ymgeisio i ddarparu Cynnig Gofal Plant Cymru (bydd angen i chi fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru’n gyntaf).

Sut mae’r gofal plant yn cael ei ddarparu drwy’r cynnig?

Yn ystod y tymor, fel darparwr gofal plant, gallwch ddarparu hyd at 20 awr o ofal plant wedi’i ariannu bob wythnos i rai 3 mlwydd oed sy’n gymwys i gael Addysg Gynnar, a 17.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu bob wythnos i blant 3 a 4 oed sy’n gymwys i gael Addysg Feithrin yn y Cyfnod Sylfaen. Gall plant gael y cyllid am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Os nad ydych chi’n darparu gofal gwyliau, gall y rhiant/gofalwr ddefnyddio’r cyllid ar gyfer yr wythnosau gwyliau mewn lleoliad gofal plant arall.

Gall plant gael hyd at 9 wythnos o 30 awr o ofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae hyn yn cael ei gyfrifo pro-rata.

Sut mae’r cynnig yn cael ei ariannu?

Mae’r cynnig yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Y gyfradd ar gyfer y cynnig yw £4.50 yr awr ar gyfer pob math o ddarpariaeth ac mae’n cael ei dalu’n fisol yn uniongyrchol i’ch lleoliad.

Cyllid i Gefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae yna gyllid pellach ar gael i blant gydag anghenion ychwanegol sy’n manteisio ar y Cynnig Gofal Plant. Gall y cyllid hwn gael ei ddefnyddio at amrywiaeth o ddibenion i alluogi’r plentyn i gael darpariaeth gofal plant, fel cadeiriau neu gyfarpar chwarae wedi’u haddasu, adnoddau eraill neu hyfforddi staff. Gallai fod hefyd i aelod ychwanegol o staff roi cymorth i’r plentyn.

Dylid cyflwyno ceisiadau i’r Panel Seibiant Anabledd a Gofal Plant.

Sut gallaf i gofrestru fy lleoliad gofal plant?

Gallwch gofrestru i dderbyn plant o Wrecsam, yn ogystal ag o siroedd eraill Cymru (er bod angen cais ar wahân ar gyfer pob sir).

Os hoffech chi gofrestru i ddarparu’r Cynnig Gofal Plant, neu os oes arnoch angen help neu wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Tîm Gofal Plant yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam trwy anfon e-bost at childcareteam@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 292094.

Cymorth ariannol sydd ar gael i leoliadau gofal plant

Asesiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o Ddigonolrwydd Gofal Plant

Mae gennym ni ddyletswydd statudol dan Ddeddf Gofal Plant 2006 i sicrhau, i raddau ymarferol resymol, bod digon o ofal i blant er mwyn bodloni gofynion rhieni/gofalwyr sy’n gweithio, neu rieni/gofalwyr sydd mewn addysg neu’n derbyn hyfforddiant a fydd yn arwain at waith.

Rhan allweddol o’r ddyletswydd hon yw’r angen i gwblhau Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant pob pum mlynedd, sy’n asesu’r cyflenwad o, a’r galw am ofal plant yn ardal yr awdurdod lleol.  Amcan yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant yw dod o hyd i fylchau yn narpariaeth gofal plant a phennu camau i gau’r bylchau hyn i geisio cael gofal plant ‘digonol’ ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae argymhellion o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant a’r adolygiadau blynyddol dilynol yn cael eu defnyddio i ddatblygu cynllun gweithredu, sy’n manylu ar ba gamau y byddwn ni (a’n partneriaid) yn eu cymryd i gyflawni ein dyletswydd statudol.