Cofiwch anfon e-bost at Childcaretraining@wrexham.gov.uk i sicrhau bod lle ar y cwrs cyn talu.

Manylion y cwrs: Y theori ar gyfer darnau rhydd - bydd y cwrs hwn yn edrych ar y theori o ddarnau rhydd a deall sut y gallan nhw wella cyfleoedd plant i chwarae. Byddwn yn edrych ar ystod o rannau rhydd, lle i ddod o hyd iddyn nhw a sut i asesu risg yn effeithiol wrth eu defnyddio a’u gweithredu nhw.  

Nodau: 

  • Archwilio pam mae plant yn mwynhau cymryd risgiau 
  • Pwysigrwydd caniatáu i blant gymryd risgiau

Canlyniadau: 

  • Dysgu sut i gynnal asesiadau risgiau a manteision ac asesiadau risgiau a manteision deinamig.
  • Magu hyder wrth gefnogi cyfleoedd chwarae cyffrous.
     

Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Mehefin, 20245
Amser: 6pm - 8pm
Lleoliad: Canolfan Ragoriaeth Rhiwabon, Llwyn Stanley, Rhiwabon, Wrecsam, LL14 6AH
Hyfforddwr: Tîm Chwarae CBSW
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd 
Cost: £10

Archebu

Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.

Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.