Meddwl am astudio’n lleol?

Mae amrywiaeth helaeth o gyrsiau busnes wedi’u hachredu ar gael:

Mae yno hefyd nifer fawr o ddarparwyr hyfforddiant yn y sector preifat (dolen gyswllt allanol) sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau yn y maes, gan gynnwys Find Courses sy’n eich galluogi i chwilio ar-lein am gyrsiau llawn amser a rhan amser (dolen gyswllt allanol).

Ydych chi’n gymwys i gael grant addysgol?

Mae copi o’r cyfeirlyfr Grantiau Addysgol ar gael yn Llyfrgell Wrecsam ac mae’n cynnwys mwy na mil o wahanol ffynonellau cyllid. Galwch heibio Llyfrgell Wrecsam am fwy o wybodaeth ac i ddefnyddio’r cyfeirlyfr.

Wedi dechrau cwrs busnes yn barod?

 Mae Llyfrgelloedd Wrecsam yn cynnig mynediad at amrywiaeth o lyfrau a gwerslyfrau busnes a fedrai fod yn ddefnyddiol. Mae modd i fyfyrwyr fenthyg y rhan helaeth o’r rheiny am gyfnod estynedig o 13 o wythnosau.