Gallwch ddewis cyflogi eich cynorthwy-ydd personol eich hun (neu sawl cynorthwy-ydd personol) i ddarparu eich gofal a chymorth taliad uniongyrchol i chi.

Cyfrifo tâl salwch

Dylai eich cwmni cyflogau allu cyfrifo tâl salwch yn ôl yr angen, fodd bynnag, os ydych angen ei gyfrifo eich hun, edrychwch ar y tudalennau gwe canlynol am arweiniad:

Cyfrifo gwyliau blynyddol

Crynodeb o’ch cyfrifoldebau 

Fel cyflogwr, mae gennych chi gyfrifoldeb llawn am eich cynorthwy-ydd personol o dan y gyfraith gyflogaeth. Mae hyn yn golygu y dylech:

  • fod ag yswiriant atebolrwydd cyflogwyr rhag ofn y bydd unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau tra bydd eich cynorthwy-ydd personol ar ddyletswydd.
  • bod â chontract mewn lle gyda’ch cynorthwy-ydd personol. 
  • cael gwasanaeth cyflogau sy’n gallu talu eich cynorthwy-ydd personol bob mis, gan roi ystyriaeth i unrhyw ofynion CThEF (megis treth ac yswiriant gwladol). 
  • cwblhau gwiriad uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer eich cynorthwyydd personol.

Pa gyfradd gallaf dalu fy nghynorthwy-ydd personol? 

Y gyfradd rydym ni’n eich talu chi’r awr i gyflogi cynorthwy-ydd personol yw £14.39 ar gyfer 2023-24. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd eich cynorthwy-ydd personol yn cael y swm llawn hwn yr awr. 

Bydd arnoch angen cadw rhan o’r gyfradd er mwyn talu costau cyflogau ac yswiriant. Mae’r cyfraddau tâl ar gyfer eich cynorthwy-ydd personol fel arfer oddeutu 20% yn is na’r gyfradd sy’n cael ei thalu i chi yn uniongyrchol; yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol eich hun. 

Pwy allaf ei gyflogi fel cynorthwy-ydd personol? 

Gallwch gyflogi sawl cynorthwy-ydd personol i ddarparu’r cymorth rydych chi ei angen yn ôl yr asesiad.

Os ydych yn cyhoeddi hysbyseb swydd ar gyfer y rôl, gallwch gyflogi rhywun sy’n ymateb i’r hysbyseb yn benodol. Gallwch hefyd recriwtio aelod o’r teulu neu ffrind fel cynorthwy-ydd personol. 

Dylech gadw mewn cof unrhyw faterion posibl os ydych yn cyflogi rhywun y mae gennych eisoes berthynas â nhw, megis os oes unrhyw angen am gamau disgyblu neu bryderon diogelu. 

Hyfforddiant

Gall eich cynorthwy-ydd personol gael mynediad at gyrsiau eDdysgu am ddim drwy ein Tîm Datblygu’r Gweithlu. 

I gael mynediad i’r hyfforddiant hwn, dylech chi, neu eich cynorthwy-ydd personol, anfon e-bost at workforcedevelopment@wrexham.gov.uk gyda’r manylion canlynol:

  • enw llawn eich cynorthwy-ydd personol
  • cyfeiriad e-bost eich cynorthwy-ydd personol
  • rhif yswiriant gwladol eich cynorthwy-ydd personol

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i greu cyfrif eDdysgu am ddim eich cynorthwy-ydd personol. 
 

Cysylltwch â’n Tîm Taliadau Uniongyrchol 

E-bost: directpayments@wrexham.gov.uk

Dolenni perthnasol