Gallwch ddewis cyflogi eich cynorthwy-ydd personol eich hun (neu sawl cynorthwy-ydd personol) i ddarparu eich gofal a chymorth taliad uniongyrchol i chi.

Recriwtio cynorthwy-ydd personol

Gall ein Tîm Taliadau Uniongyrchol roi arweiniad i chi os oes arnoch angen unrhyw gymorth â’r broses recriwtio. 

Beth ddylech chi ei wneud i ddod o hyd i ymgeiswyr addas

  • Ysgrifennu swydd-ddisgrifiad a / neu fanylion y swydd yn cynnwys pa dasgau y disgwylir i’r cynorthwy-ydd personol eu cwblhau. 
  • Ysgrifennu hysbyseb swydd (ar y cam hwn yn y broses ni ddylid nodi pwy ydych chi, na lle’r ydych yn byw). 
  • Cyfweld ymgeiswyr posibl
  • Ysgrifennu contract cyflogaeth sy’n cynnwys:
    • Cyfradd gyflog
    • Beth fydd rolau a chyfrifoldebau’r cynorthwy-ydd personol
    • Beth fydd eich rolau a chyfrifoldebau chi fel cyflogwr
    • Pa hyfforddiant fydd ei angen
    • Trefniadau gwyliau blynyddol, absenoldeb salwch, ac absenoldeb heb ei gynllunio
    • Cyfnodau rhybudd

Dylech allu gwneud cais am ddogfennau templed contract gan eich cwmni yswiriant y gellir eu diweddaru i weddu eich anghenion.

Sut allaf hysbysebu’r swydd? 

Gallwch hysbysebu swydd wag ar wefan Gofalwn Cymru.

Yna, gallwch hyrwyddo’r swydd wag eich hun. Gallech wneud hyn drwy’r cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook) a thrwy ysgolion neu ganolfannau cymunedol lleol.

Gall ein Tîm Taliadau Uniongyrchol eich helpu i osod yr hysbyseb swydd cychwynnol, a chyfrifo’r raddfa gyflog ar gyfer eich cynorthwy-ydd personol. 

Beth i’w ystyried wrth drefnu cyfweliad

Rydym yn argymell:

  • eich bod yn gofyn am eirdaon o swyddi blaenorol.
  • nad ydych yn cyfweld unrhyw gynorthwywyr personol posib yn eich cartref, (gallech ddewis caffi neu ganolfan gymunedol leol yn lle).
  • nad ydych yn cyfweld unrhyw un ar eich pen eich hun, os yn bosibl. 
  • eich bod yn paratoi rhestr o gwestiynau i’w gofyn  

Trefnu gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

Dylech wneud cais am wiriad uwch y GDG gyda gwiriad rhestr (rhestrau) a rwystrwyd cyn  i unrhyw gynorthwy-ydd personol rydych yn ei gyflogi ddechrau yn y swydd.

Gwneud cais am wiriad y GDG yn Wrecsam

Yn Wrecsam, mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn gwneud cais am wiriadau’r GDG ar ein rhan. I wneud cais am wiriad y GDG, e-bostiwch kate.davies@avow.org gyda’r wybodaeth ganlynol: 

  • Eich enw a’ch rhif ffôn
  • Enw’r unigolyn sydd angen gwiriad y GDG
  • Rôl yr unigolyn sydd angen gwiriad y GDG
  • Manylion cyswllt yr unigolyn sydd angen gwiriad y GDG
  • Cadarnhad ynghylch a yw’r swydd yn cynnwys plant a/neu oedolion
  • Cadarnhad ynghylch a yw’r unigolyn wedi cofrestru gyda’r gwasanaeth diweddaru

Gall ein Tîm Taliadau Uniongyrchol roi arweiniad i chi os oes arnoch angen unrhyw gymorth â’r broses recriwtio anfonwch e-bost at y tîm: directpayments@wrexham.gov.uk

Cyflogau

Os ydych chi’n cyflogi cynorthwy-ydd personol, dylech eu talu drwy ddefnyddio’r gwasanaeth cyflogau  - hyd yn oed os ydynt yn ffrind agos neu’n aelod o’r teulu.

Pam ddylwn i ddefnyddio gwasanaeth cyflogau?

Mae’n rhaid i’r arian sy’n cael ei wario wrth ddefnyddio gwasanaeth taliad uniongyrchol fod yn archwiliadwy. Mae taliadau i’ch cynorthwy-ydd personol yn destun deddfwriaethau a rheoliadau ariannol yn cynnwys: Yswiriant Gwladol, taliadau treth, Isafswm Cyflog Cenedlaethol. 

Mae darparwr cyflogau yn sicrhau y bydd eich cynorthwy-ydd personol yn derbyn eu cyflog ar amser gyda’r didyniadau cywir ac unrhyw dreth ataliedig. 

Os ydych yn ansicr ynglŷn â sut i ddewis gwasanaeth cyflogau, gallwch anfon e-bost at directpayments@wrexham.gov.uk yn gofyn am arweiniad.

Os ydw i yn y broses o sefydlu gwasanaeth cyflogau ond os nad yw fy nghynorthwy-ydd personol wedi cael ei dalu eto, alla i drosglwyddo’r taliad cyflog cyntaf iddynt?

Na. Mae’n rhaid gwneud pob taliad drwy eich darparwr cyflogau dewisol i wneud yn siŵr nad yw eich cynorthwy-ydd personol yn cael eu talu ddwywaith am yr un cyfnod o amser.

Pe baech yn talu eich cynorthwy-ydd personol yn uniongyrchol, ni fyddai unrhyw ddidyniadau angenrheidiol wedi cael eu hystyried ar y cam hwnnw.

Alla i dalu gydag arian mewn llaw?

Ni ddylech fyth dalu eich cynorthwy-ydd personol gydag arian mewn llaw am unrhyw ofal a chymorth a ddarperir.

Taflenni amser

Bydd disgwyl i chi gyflwyno taflen amser i’ch darparwr cyflogau er mwyn rhoi gwybod iddynt sawl awr mae eich cynorthwy-ydd personol wedi gweithio. Gall hyn fod am unrhyw gyfnod penodol o amser. 

Yna bydd eich darparwr cyflogau yn cwblhau’r cyfrifiadau angenrheidiol ac yn gwneud y taliad.