Fel trigolyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gallwch ddweud eich dweud ar geisiadau cynllunio drwy...

Sut allaf i weld y cais cynllunio yr wyf eisiau lleisio barn arno?

Gallwch chwilio am gais cynllunio gan ddefnyddio ein cyfleuster chwilio ar-lein. Gallwch chwilio drwy roi cyfeiriad/ardal y mae’r cais yn gymwys (neu rif yr achos os yw’n hysbys). Trwy ddewis rhif yr achos, gallwch weld crynodeb o’r cais a gyflwynwyd. 

Gallwch ddewis y botwm “dogfennau” ar dop y tudalen gais i weld y ffurflen gais, lluniau manwl ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Mae holl gynlluniau a cheisiadau cynllunio hefyd ar gael i’w gweld yn ein swyddfa gynllunio lle gallwn ddarparu cyngor yn bersonol, neu egluro’r hyn sy’n cael ei gynnig yn fwy eglur. 

Sut i wneud sylw ar gais cynllunio ar-lein

Unwaith i chi ddod o hyd i’r cais cynllunio yr hoffech wneud sylw arno drwy ein cyfleuster chwilio, dewiswch y botwm “gwneud sylw” ar dudalen y cais. 

Bydd bocs sylwadau ar gael i chi ychwanegu eich sylwadau a bydd hefyd yn ofynnol i chi ddarparu enw a manylion cyswllt.

Gofynnir i chi os yw eich barn gyffredinol “o blaid” neu “yn erbyn” y cynnig.

Unwaith i chi gyflwyno eich sylwadau, bydd yn cael ei anfon i’r swyddog achos. Bydd y swyddog achos yn ystyried eich barn cyn i benderfyniad gael ei wneud. Pan fydd penderfyniad wedi’i wneud, bydd modd i chi weld copi o’r hysbysiad penderfyniad trwy’r cyfleuster chwilio ar-lein

Croesawir gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg ac ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Os ydych yn gwneud sylw ar-lein a fyddech gystal â nodi y bydd y cyfleuster hwn yn 'Terfynu/Dod i ben' wedi oddeutu 15 munud.

Mathau o faterion y gellir eu codi

Pa faterion allaf i godi?

Dylai unrhyw faterion neu bryderon rydych yn eu codi ymwneud â materion cynllunio yn unig, megis:

  • Effaith y datblygiad ar gymeriad ac ymddangosiad ardal (er enghraifft safle, maint, grŵp, uchder neu ddyluniad) 
  • Effaith ar amwynder preswyl (er enghraifft oriau defnyddio, colli preifatrwydd, gormodol, sŵn, traffig) 
  • Effaith ar ddiogelwch y priffyrdd (er enghraifft gwelededd gwael, diogelwch cerddwyr, parcio) 
  • polisïau cynllunio a chynigion a ysgrifennwyd yng Nghynllun Datblygu Unedol Wrecsam (‘CDU’) sy’n nodi lle gall ddatblygiadau ddigwydd 
  • Cyngor cynllunio’r Llywodraeth (er enghraifft Nodiadau Cyngor Technegol) a phenderfyniadau apêl blaenorol

Ni allwn ni (y cyngor) wrthod caniatâd cynllunio ar y sail bod pobl yn erbyn y cais yn unig, neu ei gymeradwyo gan fod llawer o gefnogaeth/dim gwrthwynebiad.  Bydd ein penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol. 

Pa faterion nad ellir eu cyflwyno?

chynllunio neu fuddion preifat, megis: 

  • Priodoleddau personol yr ymgeisydd 
  • Anghydfodau dros berchnogaeth y tir, hawliau tramwy preifat, draeniau preifat a hawddfreintiau preifat eraill neu gyfamodau cyfreithiol 
  • Effaith y cynnig ar werth eiddo neu gystadleuaeth rhwng cwmnïau, siopau, bwytai ac ati. 
  • Sefydlogrwydd strwythurol, draenio, rhagofalon tân, hylendid a gofod mewnol – delir â’r rhain o dan ddeddfwriaethau eraill megis rheoliadau adeiladu 

Ni roir ystyriaeth i sylwadau o natur hiliol,a gellir eu pasio ymlaen at yr heddlu i’w harchwilio.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi anfon fy sylwadau?

Ystyriaethau gan y Swyddog Achos Cynllunio

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan dderbyniwn eich sylwadau a byddwn yn eu hanfon ymlaen i’r Swyddog Cynllunio sy’n delio â’r cais. 

Bydd y swyddog yn ymweld â safle’r cais i weld pa effaith a gaiff y cynnig ar yr ardal leol.

Gall y swyddog negodi newidiadau er mwyn gwella’r cynnig gyda’r datblygwr. Os yw’r rhain yn bwysig, byddwn yn hysbysu unrhyw gymdogion eto, ac yn eu gwahodd i weld y cynlluniau a gwneud sylwadau pellach. Bydd y sylwadau gwreiddiol yn dal i gael eu hystyried, ond yng ngoleuni’r newidiadau a wnaethpwyd.

Bydd y swyddog yn paratoi adroddiad gan ystyried y safbwyntiau gan ymgyngoreion (fel yr Awdurdod Priffyrdd neu gyngor cymuned lleol) a’r sylwadau a wneir gan yr ymgeisydd a chymdogion. Fel arfer, caiff yr adroddiad hwn ei baratoi rhwng pedwar i wyth wythnos o ddyddiad cafodd y cais ei gyflwyno a phan gafodd y cymdogion eu hysbysu gyntaf. 

Ystyriaethau gan Bennaeth yr Amgylchedd a Chynllunio

Bydd Pennaeth yr Amgylchedd a Chynllunio yn ystyried y cais ynghyd ag unrhyw sylwadau a wneir ac argymhelliad y swyddog. Gwneir penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod y cais, neu bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar gyfer ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio. 

Fel arfer, bydd cais ond yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor pan fydd rhywun wedi cysylltu â ni yn ystod y cyfnod cyhoeddusrwydd tair wythnos gyda safbwyntiau sy’n gwrthwynebu argymhelliad y swyddog. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth cynllunio tuag at ddiwedd y cyfnod tair wythnos i weld os yw’r cais yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor am benderfyniad.

Ystyriaethau gan gynghorwyr yn y Pwyllgor Cynllunio

Os caiff y cais ei gyfeirio at y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer penderfyniad, bydd rhaglen yn cael ei gyhoeddi, a bydd y rhai sydd wedi gofyn cael siarad yn cael eu hysbysu. 

Eich hysbysu am apêl yn erbyn achos a wrthodir

Os gwneir y penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio, gall yr ymgeisydd apelio i Lywodraeth Cymru (o fewn 6 mis fel arfer). Os ydych wedi cysylltu â ni eisoes am y cais drwy roi eich sylwadau, cewch eich hysbysu am apêl o’r fath. 

Siarad mewn Pwyllgor Cynllunio

Sut allaf i wneud cais i siarad mewn Pwyllgor Cynllunio?

Nid oes gennych hawl rhydd i siarad yn y Pwyllgor. Mae gwahoddiad i siarad ar ddisgresiwn Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio. 
Cynhelir y Pwyllgor Cynllunio yn Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY (LL13 8BG ar gyfer Llywio Lloeren) ac fel arfer yn dechrau am 4pm ar ddydd Llun bob 4 wythnos. 
Gallwch ond siarad os yw’r cais cynllunio ar raglen y Pwyllgor Cynllunio ac yn amodol ar y pwyntiau a nodir isod: 

  • Rhaid i chi fod wedi hysbysu ein gwasanaeth cynllunio o’ch cais i siarad un ai drwy e-bost, ar y ffôn neu yn ysgrifenedig. Rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl, ond cyn 4.30pm ar ddydd Gwener cyn dyddiad y cyfarfod Cynllunio ar yr hwyraf. Rhaid i chi adael cyfeiriad e-bost neu rif ffôn yn ystod y dydd er mwyn i ni gysylltu â chi. 
  • Dim ond un siaradwr all siarad o blaid neu yn erbyn bob cais. Gall Gadeirydd y Pwyllgor ganiatáu ail siaradwr mewn achosion eithriadol lle mae cais sylweddol yn codi safbwyntiau gwahanol o fewn un ‘ochr’ i’r ddadl (er enghraifft cais archfarchnad lle mae un siaradwr yn cynrychioli trigolion a’r llall yn cynrychioli masnachwyr lleol, ond mae’r ddau yn gwrthwynebu’r cynllun). 

Ni chaniateir siarad cyhoeddus mewn: 

  • Cyfarfodydd Pwyllgor os yw’r cais wedi’i drafod mewn cyfarfod blaenorol, ond wedi’i ohirio. 
  • Archwiliadau safle gan y Pwyllgor, oni bai y gofynnir am hynny gan y Cadeirydd er mwyn egluro materion ffeithiol. 
  • Cyfarfodydd Pwyllgor a gynhelir i benderfynu ar geisiadau yn dilyn archwiliadau safle.

Enwebu siaradwr

Os yw nifer o bobl yn dymuno siarad, rhaid iddynt ddod ynghyd i gytuno pwy fydd yn siarad a rhoi gwybod i ni. Un amod yn y cynllun hwn yw eich bod yn ein caniatáu ni i roi eich manylion cyswllt i eraill (o’r un safbwynt â chi) sy’n gwneud cais i siarad, er mwyn eich cynorthwyo i ddewis siaradwr.

Os nad oes cytundeb, dim ond y person a’n hysbysodd ni gyntaf fydd yn cael siarad. 

Byddwn yn rhoi gwybod i chi (ar e-bost, dros y ffôn neu lythyr) am y rhai sydd wedi gwneud cais i siarad, dyddiad y cyfarfod lle bydd y cais yn cael ei ystyried, dim hwyrach na 3 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Os nad ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost neu rif ffôn, gall hyn ddigwydd mor hwyr â diwrnod y cyfarfod. Gallwch archwilio’r adroddiadau ar raglen y Pwyllgor 3 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. 

Os mai chi yw’r siaradwr dewisol, dylech gyflwyno eich hun i Swyddog y Pwyllgor rhwng 3.30pm a 3.45pm. 

Pan fydd y cais yn cael ei ystyried, cewch eich gwahodd gan Gadeirydd y Pwyllgor i siarad (unwaith am hyd at 3 munud). Nid oes angen i chi ailadrodd y pwyntiau a gyflwynwyd i ni gan y bydd rhain eisoes wedi eu crynhoi yn Adroddiad y Pwyllgor. Cynghorir chi i ganolbwyntio ar y pwyntiau allweddol sy’n eich pryderu chi. 

Ar ôl siarad rhaid i chi adael i’r Pwyllgor drafod y mater ond gall Gadeirydd y Pwyllgor ofyn cwestiynau i chi er mwyn egluro unrhyw bwyntiau.

Darlledu cyfarfodydd

Bydd y cyfarfod cynllunio yn cael ei ffilmio ar gyfer darlledu ar ein gwefan ac fe ellir ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddi (o fewn y Cyngor). Os nad ydych yn dymuno cael eich ffilmio, gallwch gysylltu â Swyddog y Pwyllgor drwy ffonio 01978 292242. Ni fyddwn yn ffilmio unrhyw siaradwr os nad ydynt wedi rhoi cydsyniad i ymddangos. 

Ar ôl gwneud penderfyniad ar gymeradwyo caniatâd cynllunio ai peidio

Byddwn yn cyhoeddi hysbysiad o benderfyniad i’r ymgeisydd (neu eu hasiant) a byddwn yn hysbysu pobl sydd wedi cyflwyno sylwadau. Bydd y wasg fel arfer yn adrodd am benderfyniadau ar gynigion sylweddol.  

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Os gwneir y penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio, gall yr ymgeisydd apelio i Lywodraeth Cymru (o fewn 6 mis fel arfer). Bydd Arolygydd Cynllunio yn adolygu’r achos a gall gefnogi penderfyniad y cyngor neu roi cymeradwyaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i’r bobl hynny a gysylltodd â ni ynghylch y cais os fydd apêl o’r fath. 

Os fydd y cais yn cael ei gymeradwyo, bydd yr hysbysiad o benderfyniad fel arfer yn cynnwys amodau cynllunio, er enghraifft, y defnydd o ddeunyddiau adeiladu sy’n cyd-fynd, tirlunio, parcio, oriau penodol i ddefnyddio eiddo masnachol. 

Beth yw fy hawliau os fydd caniatâd cynllunio yn cael ei gymeradwyo?

Nid oes gan gymdogion hawl i apelio yn erbyn cymeradwyo caniatâd cynllunio oni bai ar sail gyfreithiol a bydd angen i chi ymgynghori â chyfreithiwr i gael cyngor. 

Nid yw cymeradwyo caniatâd cynllunio yn gwrthwneud unrhyw hawliau sifil neu hawliau eiddo sydd gennych dros dir yr effeithir arno, ond byddwch angen ymgynghori â chyfreithiwr i gael cyngor. 

Os yw’r datblygiad yn effeithio neu yn agos at eich eiddo chi neu gymydog, efallai bydd angen i’r datblygwr eich hysbysu chi/nhw o unrhyw waith arfaethedig o dan y Ddeddf Waliau Cydrannol.