Canolfan Adnoddau Parc Llai yw canolbwynt y gymuned. Mae’n ganolfan brysur, fywiog, lwyddiannus a chyfeillgar. Mae yma amrywiaeth o weithgareddau i bawb, gan gynnwys: dysgu, hyfforddi, digwyddiadau, clybiau, addysg, coginio a chwaraeon. Mae yna hyd yn oed gaffi gwych ar y safle, sy'n cynnig bwffe yn ogystal â phrydau rheolaidd. Erbyn hyn mae gennym ein tudalen Facebook ein hunain, felly gallwch chwilio amdanom o dan Ganolfan Adnoddau Parc Llai.
Mae yna 4 ystafell ar gael i’w llogi yn y Ganolfan, i gyd yn unigryw ac wedi eu teilwra ar gyfer cwsmeriaid a gallwn ddarparu ystafelloedd o 4 i 70 o bobl i bob ystafell. Mae’r adeilad cyfan yn cynnig mynediad i gadeiriau olwyn ac mae gennym offer codi wedi eu gosod yn llawn mewn 2 o'n toiledau anabl. Rydym yn cynnig Wi-Fi am ddim drwy'r adeilad cyfan ac offer TGCh i’w ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd.
Mae gan Ganolfan Adnoddau Parc Llai ystafelloedd ar gael i’w llogi ar gyfer cyfarfodydd, partïon a hyfforddiant.
- 4 milltir o ganol tref Wrecsam
- Gellir cyrraedd yma ar Gludiant cyhoeddus
- Parcio am Ddim ar gael
- Sesiynau Bore, Prynhawn a Gyda’r Nos ar gael
- Mae Llyfrgell Llai wedi’i lleoli yn yr un adeilad
Ystafelloedd
Mae’r nifer y gall yr ystafelloedd eu dal yn dibynnu ar y math o weithgaredd rydych chi’n bwriadu ei gynnal a ffurf y byrddau a’r seddi sydd eu hangen. Gallwn ddarparu lluniaeth am gost o £1 y person. Rydym bob amser yn fodlon trefnu ymweliadau â’r safle a mynd â phobl o amgylch yr adeilad - cysylltwch â ni i drefnu.
Caffi
Mae gennym gaffi ardderchog ar y safle, gyda man eistedd mawr, i’w rannu gyda phawb sy’n defnyddio’r adeilad ar unrhyw adeg. Mae bwyd a diod ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm.
Unedau Busnes
Mae gennym 3 Uned Fusnes annibynnol yma i’w llogi fesul mis, ar gyfraddau rhesymol iawn.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ac i weld a yw’r ystafelloedd ar gael ar 01978 859020 neu ebost lprc@wrexham.gov.uk.