Systemau gwresogi gwael

Os ydych yn rhentu’n breifat, eich landlord sy’n gyfrifol am sicrhau bod y gosodiadau sy’n darparu gwres i’r eiddo yn gweithio (yn cynnwys sicrhau bod atgyweiriadau’n cael eu gwneud os oes angen).

Gall eich landlord ddarparu gwres yn defnyddio tanwydd o unrhyw fath, ond dylai ystyried effeithlonrwydd a chost y tanwydd.

Dylid sicrhau bod y systemau / offer gwresogi a ddarperir yn yr eiddo:

  • Yn gallu cael eu rheoli gan bob meddiannydd
  • Yn ddiogel ac wedi’u gosod a’u cynnal yn gywir  
  • Yn briodol ar gyfer adeiladwaith, dyluniad a chynllun yr annedd

Argymhellir y dylai’r system wresogi mewn eiddo allu cynhesu ystafelloedd i isafswm o 18°C (neu 21°C ar gyfer y brif ystafell fyw) pan fo’r tymheredd y tu allan yn -1°C.

Dylai eich landlord hefyd ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni cyfredol ar gais.  Mae’r Dystysgrif yn nodi pa mor effeithlon yw eich eiddo o ran ynni – caiff eiddo ei sgorio rhwng ‘A’ (mwyaf effeithlon) a ‘G’ (lleiaf effeithlon). Mae rheoliadau ar waith o ran y lleiafswm safonau a ganiateir mewn eiddo.

Beth allaf ei wneud os yw’r system wresogi yn yr eiddo yr wyf yn ei rentu yn wael?

Dylech gysylltu â’ch landlord i roi gwybod iddo yn y lle cyntaf a gofyn iddo ddatrys y broblem. 

Os ydych wedi cysylltu â’ch landlord i roi gwybod bod y system wresogi yn eich cartref yn annigonol yn eich barn chi ac nid yw’n gweithredu, gallwch gysylltu â ni (yr awdurdod lleol). Fe allwn gynnal asesiad System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai. Mae ein tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai yn defnyddio’r asesiad i bennu a yw’r diffyg gwres yn achosi perygl i iechyd.

Beth yw tlodi tanwydd?

Pan fo aelwyd angen gwario mwy na 10% o’i hincwm ar danwydd (a elwir yn aml yn ynni) ystyrir ei bod mewn tlodi tanwydd.

Gallai newid i ddarparwr ynni rhatach helpu i leihau cost biliau tanwydd. Os ydych yn talu eich costau gwresogi i’ch landlord efallai ei bod yn werth gofyn a fyddai’n ystyried edrych am ddarparwr ynni rhatach. Mae yna hefyd grantiau a budd-daliadau amrywiol ar gael i’ch helpu chi i dalu cost eich biliau ynni os ydych yn gymwys.

A allaf wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r eiddo fy hun?

Fel tenant, mae’n bosib y gallech gael mynediad i grantiau ar gyfer gwneud gwelliannau i’r system wresogi ac inswleiddio heb unrhyw gost i chi drwy gynlluniau grant y llywodraeth (gweler y dolenni defnyddiol isod).

Os hoffech chi dalu am welliannau effeithlonrwydd ynni yn yr eiddo yr ydych yn ei rentu, mae’n bosib y gallech ofyn am ganiatâd gan eich landlord.

Dolenni defnyddiol