Mae'r cynllun llety â chefnogaeth yn cynnig cyfle i bobl ifanc 16 - 21 oed fyw mewn amgylchedd cefnogol, ond gyda mwy o annibyniaeth.

Fel gwesteiwr, rydych chi'n darparu ystafell wely i unigolyn ifanc yn eich cartref a chefnogaeth i'w helpu i baratoi ar gyfer byw'n annibynnol.

Fydda i’n gyfrifol am yr unigolyn ifanc? 

Ni fydd gofyn i chi gymryd cyfrifoldeb rhiant am yr unigolyn ifanc - bydd yn lletywr yn eich cartref. Nod gwesteiwr yw darparu llety sefydlog i'r rhai nad oes ganddynt gartref sefydlog.

Mewn llety â chefnogaeth, gall pobl ifanc ddysgu i gymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain a darganfod sut mae eu gweithredoedd yn effeithio nid yn unig ar eu hunain, ond ar eraill y maen nhw'n byw gyda nhw.

Helpu i baratoi rhywun ar gyfer annibyniaeth 

Gofynnwn i chi ddarparu arweiniad a chyngor i gynorthwyo’r unigolyn ifanc i fod yn oedolyn annibynnol a hyderus. 

Gallai hyn gynnwys eu hannog i ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol, ynghyd â'u helpu i ennill sgiliau ymarferol fel:

  • Derbyn mynediad i ysgol, coleg a phrentisiaethau neu waith
  • defnyddio cyfrif banc
  • cyllidebu ar gyfer y cartref
  • prynu a pharatoi bwyd
  • glanhau
  • garddio
  • cwblhau tasgau DIY syml
  • defnyddio cludiant cyhoeddus
  • trefnu amser hamdden 
  • darparu cefnogaeth emosiynol / bod yn glust i wrando 
  • cefnogi i wneud apwyntiadau dros y ffôn 

Mewn geiriau eraill, popeth sy’n rhan o fywyd bob dydd.

Pwy yw’r bobl ifanc?

Y bobl ifanc yw'r rhai sy'n gadael gofal neu rai na allant fyw gartref mwyach, ac nad ydynt yn barod i ymdopi â byw ar eu pennau eu hunain eto.

Mae gan bob un o'r bobl ifanc weithiwr cymdeithasol a / neu gynghorydd personol o'n Tîm Gadael Gofal, sy'n edrych ar eu cefndir ac yn helpu i ddod o hyd i'r lleoliad cywir ar eu cyfer. 

Rydym ni’n cymryd gofal i baru unigolyn ifanc gyda chi. Byddwn yn cymryd amser i ddod i'ch adnabod chi a'r math o lety y gallwch chi ei ddarparu, gan ystyried eich anghenion chi ac anghenion yr unigolyn ifanc.

Chi fydd yn cael y penderfyniad terfynol ar bwy fydd yn rhannu eich cartref. 

A alla i gynnig llety â chefnogaeth?

Rydym ni’n croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys y rhai sydd:

  • wedi priodi, gyda phartner neu’n sengl
  • yn gweithio neu heb waith
  • gyda phlant neu heb blant
  • yn berchen ar eu cartref neu’n denantiaid 
  • o unrhyw gefndir ethnig  

Yr unig gyfyngiadau yw: 

  • mae’n rhaid i chi gael ystafell wely sbâr yn eich cartref 
  • mae’n rhaid i’ch iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol fod yn dda
  • mae’n rhaid nad oes unrhyw beth yn eich cefndir a fyddai’n awgrymu y gallai unigolyn yn eich gofal fod mewn perygl o niwed neu gamdriniaeth 

A yw fy nghartref yn addas?

Gall eich cartref fod yn fawr neu’n fach, yn hen neu’n newydd, yn cael ei rentu neu yn eiddo i chi.

Mae gennym ni ddisgwyliadau o ran pa fath o gartref y dylai pobl ifanc ei gael. Er enghraifft, rydym ni’n disgwyl ystafell wely lân a diogel i’r unigolyn ifanc ei defnyddio.

Efallai y bydd angen i chi gadarnhau y gallwch ddarparu llety i unigolyn arall yn y sefyllfaoedd canlynol:

Os ydych chi'n denant y cyngor neu'n denant cymdeithas tai cofrestredig

Mae’n debyg y gallwch chi roi cartref i unigolyn ifanc heb unrhyw broblem. Os ydych chi’n ansicr, gofynnwch i’ch darparwr tai.

Os ydych chi’n denant preifat

Bydd yn rhaid i chi wirio telerau eich tenantiaeth.

Os oes gennych chi forgais

Bydd yn rhaid i chi wirio gyda’ch rhoddwr benthyciadau i weld a oes angen eu caniatâd arnoch. Gwnewch yn glir y byddwch chi'n byw yn y cartref tra’n ei rannu ag unigolyn ifanc, yn hytrach na chynnig tenantiaeth iddyn nhw.

Os ydych chi’n berchen ar eich cartref

Os ydych chi'n rhydd-ddeiliad, gallwch chi gael pwy bynnag y dymunwch yn byw gyda chi. 

Os ydych chi'n berchen ar brydles, gwiriwch delerau'r brydles rhag ofn y bydd angen caniatâd arnoch chi.

Os ydych chi ar fudd-daliadau

Bydd angen i chi drafod eich cysylltiad posibl â'r gwasanaeth hwn â'ch swyddfa fudd-daliadau. 

Cwestiynau am gyllid

Ydw i’n cael tâl?

Fel gwesteiwr llety â chefnogaeth, byddwch yn cael taliad o £255 yr wythnos am bob unigolyn ifanc.  Bydd y taliad hwn ar gyfer cwmpasu'r gefnogaeth rydych chi'n ei darparu a rhent ar gyfer yr ystafell a'u defnydd o gyfleustodau.

Ar ben hyn, mae'r unigolyn ifanc yn derbyn lwfans personol o £61.05 yr wythnos.  O'r arian hwn, bydd yr unigolyn ifanc yn talu rhent ychwanegol o £20 i chi (i dalu am rai prydau bwyd, ac eitemau fel powdr golchi a phapur toiled, er enghraifft). 

A fydd yn rhaid i mi dalu Treth y Cyngor ychwanegol ar gyfer yr unigolyn ifanc?

Nid yw pobl o dan 18 oed yn cyfri fel oedolion ar gyfer Treth y Cyngor.

Os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun ac yn hawlio gostyngiad person sengl, ni fydd hyn yn cael ei effeithio oherwydd cewch eich ad-dalu am unrhyw daliadau Treth y Cyngor a godir ar gyfer yr unigolyn ifanc.

A fydd yn rhaid i mi dalu treth incwm ar yr arian rwy'n ei ennill yn darparu llety â chefnogaeth?

Mae’n dibynnu ar gyfanswm eich incwm trethadwy. Dylid ychwanegu eich taliad at eich incwm trethadwy am y flwyddyn.

Mae'n rhaid i chi dalu treth incwm os yw cyfanswm eich incwm trethadwy yn fwy na'ch lwfansau treth.

Mae lwfansau treth yn amrywio yn ôl eich amgylchiadau. Os ydych chi'n ansicr beth yw'ch lwfans treth, cysylltwch â'ch swyddfa dreth leol.

O dan Gynllun Rhentu Ystafell Llywodraeth y DU, gallwch ennill hyd at drothwy o £7,500 y flwyddyn yn ddi-dreth drwy osod llety wedi'i ddodrefnu yn eich cartref.

A fydd yn rhaid i mi gynyddu fy yswiriant?

Bydd angen i chi hysbysu'ch cwmni yswiriant yn ysgrifenedig eich bod yn bwriadu darparu llety â chefnogaeth i bobl ifanc.

Y broses asesu 

Bydd gweithiwr cymdeithasol yn cael ei ddyrannu i chi o'r pwynt asesu a fydd yn eich cefnogi chi ar hyd y daith.

Byddwn yn ymweld â chi yn aml i gwblhau’r asesiad ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Byddwch chi'n gallu dod i adnabod y gweithiwr cymdeithasol a meithrin perthynas waith dda.

Rôl y gweithiwr cymdeithasol sy'n asesu

Mae’n gyfrifol am:

  • ddarganfod a ydych chi'n addas i ddarparu llety â chefnogaeth
  • trafod unrhyw bryderon a allai godi ar unrhyw adeg yn ystod yr asesiad, gan obeithio eu datrys
  • gwneud y penderfyniad terfynol i roi'r gorau i asesu, gyda chymeradwyaeth eu rheolwr

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y broses asesu a'n penderfyniadau yn deg, yn dryloyw ac nad ydyn nhw'n gwahaniaethu.

Yr ymweliad cartref cychwynnol

Bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi. Yn ystod yr ymweliad, bydd yn: 

  • rhoi cyflwyniad i lety â chefnogaeth
  • dweud wrthych chi'r hyn sy’n rhan o’r broses 
  • gwirio bod y manylion sylfaenol sydd gennym amdanoch chi yn gywir

Gwiriad iechyd a diogelwch ar eich cartref

Ymweliad ar wahân i'r ymweliad cychwynnol yw hwn a bydd yn cael ei gwblhau yn ystod y sesiynau asesu.

Byddwn yn cynnal gwiriadau iechyd a diogelwch safonol ar eich cartref ac yn trafod diogelwch yn y cartref gyda chi. Byddwn am weld yr ystafell y bydd y person ifanc yn byw ynddi ar yr adeg hon.

Byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen gydsynio fel y gallwn ofyn am wybodaeth bellach am eich addasrwydd i ddarparu llety â chefnogaeth o ffynonellau eraill, megis y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) a geirdaon.

Os byddwch yn penderfynu parhau â'r broses, neu os hoffech chi siarad am bethau, byddwn yn ymweld â chi eto.

Asesiad manwl

Byddwn yn cwblhau asesiad manwl dros gyfnod o tua 12 wythnos.

Bydd yr asesiad yn dechrau gyda’r gwiriadau canlynol:

  • gwiriadau meddygol i sicrhau eich bod yn iach i ddarparu llety â chefnogaeth
  • gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), sy'n rhoi gwybodaeth i ni am bobl na allant weithio gyda phlant a/neu oedolion diamddiffyn
  • tri geirda 

Yr hyn y byddwn ni’n ei ofyn amdanoch chi

Byddwn yn gofyn llawer o gwestiynau amdanoch chi yn ystod yr asesiad, fel:

  • eich cefndir
  • eich teulu
  • eich addysg a’ch gyrfa
  • yr ardal rydych chi’n byw ynddi 
  • eich profiadau yn gofalu am bobl ifanc
  • eich dealltwriaeth o anghenion llety a chefnogaeth pobl ifanc

Ni fydd cael euogfarnau troseddol o reidrwydd yn eich atal rhag dod yn ddarparwr llety â chefnogaeth. Yr hyn sy'n bwysig yw'r math o drosedd ac a yw'n berthnasol i ddiogelwch y plant sy'n cael eu rhoi yn eich cartref – byddai troseddau treisgar neu droseddau yn erbyn plant, er enghraifft, yn achos pryder.

Rhaid i bob un dros 18 oed sy'n byw yn eich cartref ac ymwelwyr sy’n aros dros nos yn rheolaidd (am fwy nag 20 noson y flwyddyn) gael gwiriad GDG hefyd.

Gwiriadau awdurdod lleol Wrecsam

Byddwn ni’n gwirio cofnodion gofal cymdeithasol i weld a ydych yn hysbys.

Cyfrinachedd

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn parhau'n gyfrinachol. Dim ond pobl sydd angen edrych arni fel rhan o'r broses fydd yn edrych arni.

Hyfforddiant

Tra byddwch chi’n cael eich asesu ac os cewch eich cymeradwyo, byddwch yn cael cynnig hyfforddiant gan yr awdurdod lleol i'ch paratoi a'ch cefnogi yn eich rôl. 

Unwaith y byddwch wedi eich cymeradwyo

Goruchwyliaeth a chymorth parhaus

Byddwch yn cael eich goruchwylio’n rheolaidd. Mae angen i ni wneud hyn i gofnodi cynnydd yr unigolyn ifanc ac amlygu unrhyw hyfforddiant pellach rydych chi'n teimlo sydd ei angen arnoch chi.

Gallwn hefyd siarad am a ydych chi'n teimlo bod anghenion yr unigolyn ifanc wedi newid.

Gwasanaeth dyletswydd brys

Os na ellir datrys problem yn ystod y dydd, gallwch gysylltu â thîm dyletswydd brys y gwasanaethau cymdeithasol yn ystod yr amseroedd canlynol:

  • Dydd Llun i Ddydd Iau 5.30pm i 8.30am 
  • Dydd Gwener 4.30pm i ddydd Llun 8.30am 

Maen nhw hefyd yn cwmpasu gwyliau’r banc, y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. 
Cewch hyd i’r rhif ffôn ar gyfer y tîm o dan ein tudalen gyswllt.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn westeiwr llety â chefnogaeth, gallwch lenwi'r ffurflen ymholiadau ar-lein. Byddwn yn cysylltu â chi i drafod unrhyw gwestiynau cychwynnol a allai fod gennych cyn dechrau'r broses asesu.

Ffurflen ymholi llety â chefnogaeth

Dechrau rŵan