Gwesteiwyr a phobl sydd wedi cael cefnogaeth drwy'r cynllun llety â chefnogaeth yn disgrifio eu profiadau.

Gadawr gofal 1 – merch ifanc 18 oed 

 ‘Dw i wedi tyfu gymaint mwy fel oedolyn ifanc. Dydw i erioed wedi bod mor hapus a phositif yn fy mywyd ers bod yma. Dw i’n meddwl bod llety â chefnogaeth yn hynod fuddiol i bobl ifanc, yn enwedig gyda’r gefnogaeth gywir o’ch cwmpas.’ 

Gadawr gofal 2 – merch ifanc 18 oed

 ‘Fy mhrofiad gyda llety â chefnogaeth oedd y cyfle mwyaf cofiadwy i mi erioed ei gael. Mae byw mewn cartref lle rydych chi’n teimlo eich bod wedi cael ail gyfle yn wych, ond i deimlo’r gefnogaeth gan eraill, mae hynny’n galonogol a dweud y lleiaf. Yn ystod y flwyddyn roeddwn wedi bod yn rhan o’r cynllun lletya, cefais fy atgoffa bob amser bod hyn ddechrau newydd. Fe wnes i wahanu fy hun oddi wrth broblemau’r gorffennol a dechrau gwneud atgofion newydd. Fe wnaeth y profiad hwn fy helpu i ennill digon o annibyniaeth, ac eto roedd y gefnogaeth yr oeddwn i ei hangen yno i mi o hyd. Mae'n rhoi boddhad mawr i’r unigolyn ifanc a'r gwesteiwr. Roedd yn wych i mi oherwydd roeddwn i’n teimlo fy hun yn dod yn fwy hyderus, ymrwymedig a hapus. Beth wnes i ei ddysgu, ar y cyfan, annibyniaeth mae’n debyg, ond mewn ffordd wahanol – fe wnes i ddysgu sut i siarad a chyflwyno fy hun mewn modd aeddfed. Dw i’n gallu cymryd galwadau ffôn yn hyderus a theithio ar gludiant cyhoeddus heb unrhyw bryderon. Dw i bellach yn gallu coginio!

Fel gwesteiwr, gallwch CHI helpu rhywun arall i helpu eu hunain. Gallwch eu gwylio nhw’n datblygu i’r unigolyn rydych chi’n gwybod y gallan nhw fod. Mae'r cyfan yn dechrau gyda rhoi ystafell sbâr, a dyma gynnig y bydda i’n ddiolchgar amdano bob amser.’ 

Gwesteiwr llety â chefnogaeth 1 – dyn sengl sy’n gweithio llawn amser

‘Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cefnogi pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal maeth a / neu lety â chefnogaeth, ac wedi gweld o lygad y ffynnon sut mae gofal a chefnogaeth gyson yn eu harwain at ddyfodol gwell. Fel gwesteiwr llety â chefnogaeth, rwy'n gallu cynnig cartref strwythuredig, cyson a sefydlog. Ar y cyfan, mae fy mhrofiad o fod yn westeiwr wedi bod yn un cadarnhaol. Mae gan yr unigolyn ifanc rwy'n ei gefnogi lefel dda o sgiliau byw'n annibynnol ac mae'r rhain wedi gwella gyda chefnogaeth barhaus. Oes mae heriau, ond mae’r pethau cadarnhaol yn gorbwyso hynny.

Mae bod yn westeiwr yn cynnwys rhywfaint o gyfrifoldeb ychwanegol. Fodd bynnag, rwy'n dal i allu parhau â fy mywyd o ddydd i ddydd.  Rwy'n gallu cydbwyso gwaith, bywyd cymdeithasol a datblygiadau pellach ynghyd â bod yn westeiwr llety â chefnogaeth. Mae gan Gyngor Wrecsam Gydlynydd Llety â Chefnogaeth sy'n cynnig cefnogaeth i westeion ac yn helpu i gael mynediad at wasanaethau i'r unigolyn ifanc a'r darparwr. Mae gwesteion yn cael eu paru'n dda â phobl ifanc gan y tîm llety â chefnogaeth, ac maen nhw'n gweithredu fel pont rhwng y gwesteiwr, yr unigolyn ifanc a'r tîm gadael gofal.  Ni fu angen i mi gysylltu â'r tîm dyletswydd brys i gael cefnogaeth ar frys erioed, ond rwy'n ymwybodol bod rhywun ar gael 24/7 i ddarparu cefnogaeth pe bai ei angen arnaf.

Mae pobl ifanc sy'n cyrchu llety â chefnogaeth yn aml wedi profi anghysondeb yn eu bywydau. Fel darparwr llety â chefnogaeth, gallwch chi ddarparu'r cysondeb a'r diogelwch hwnnw.  
Mae dod yn westeiwr ar gyfer Cyngor Wrecsam yn golygu y gallaf roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a sicrhau dyfodol i rai o'n pobl ifanc. Fel gwesteiwr, dyma fy nghyngor - os oes gennych gartref sefydlog, ystafell sbâr ac yn teimlo y gallwch gefnogi pobl i ddod yn hyderus ac yn annibynnol, cysylltwch â'r Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth - gallant darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Os hoffech chi siarad â gwesteiwr yn uniongyrchol hefyd, gellir trefnu hynny'.  

Gwesteiwr llety â chefnogaeth 2 – mam i blentyn 6 oed sy’n gweithio llawn amser

Trawsgrifiad testun fideo profiad darparwr llety â chefnogaeth

Helo, Leah ydw i. Rydw i wedi bod yn westywr Llety â Chefnogaeth am y 9 mis diwethaf, fe ddes i’n lletywr trwy ddamwain a dweud y gwir. Fe glywais i rywun yn rhoi araith am ofal maeth ac mi benderfynais fynd i ddarllen mwy, ac unwaith i mi fynd ar wefan y Cyngor, fe ddechreuais i ddarllen am Lety â Chefnogaeth. Wrth i mi bwyso a mesur y ddau, fe benderfynais mai Llety â Chefnogaeth fyddai’n gweithi’n well i’n teulu ni. Felly fe gysylltais â rhywun o’r Cyngor er mwyn mynegi diddordeb ac mae person ifanc wedi bod yn byw gyda ni ers yr haf diwethaf.  

Mae fy mhrofiad i o Lety â Chefnogaeth wedi bod yn gadarnhaol iawn, mae wedi bod yn wych cael person ifanc yn byw gyda ni a’u helpu nhw i ddod yn oedolyn,  i’w tywys trwy fywyd drwy ddysgu sgiliau newydd iddynt, sgiliau byw'n annibynnol, i fod yn eu cwmni’n gyffredinol a dysgu mwy amdanynt. Mae wedi bod yn brofiad da iawn.

Mae gen i blentyn chwe mlwydd oed sydd wrth ei bodd gyda’r profiad hefyd, mae hi wrth ei bodd yn dod i adnabod y person ifanc, treulio amser gyda nhw, ac mae hi wrth ei bodd yn dysgu ganddynt a bod yn eu cwmni. I ni, mae wedi bod yn brofiad da iawn.  

Mae yna heriau gyda Llety â Chefnogaeth wrth gwrs, mae yna emosiynau rydym wedi gorfod eu goresgyn fel teulu a gyda’r person ifanc wrth i bethau gwahanol godi.  Rydym wedi gorfod eu helpu i wneud dewisiadau da, rydym wedi gorfod eu helpu i feithrin perthnasau a dysgu sgiliau newydd, ac mae’r cyfan wedi bod yn heriol ar adegau, ond mae wedi bod werth gwneud hynny.  

Yr hyn y byddwn i yn ei ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried Llety â Chefnogaeth, os allwch chi agor eich cartref, os allwch chi ddarparu lle diogel i berson ifanc, person yn ei arddegau neu rywun sy’n gadael gofal, lle gallent ddysgu i fod yn annibynnol, lle gallent baratoi i fynd allan i’r byd, yna buaswn yn dweud ewch amdani, mae wedi bod yn wych i ni.