Datblygu Chwarae Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Wrecsam yn cydnabod rôl allweddol chwarae yn natblygiad plant, a bod chwarae yn digwydd y tu mewn, yn yr awyr agored ac mewn cyfleusterau dan oruchwyliaeth a heb oruchwyliaeth.
Mae Wrecsam hefyd yn deall bod angen i blant ddefnyddio ystod o gyfleoedd chwarae, ac yn cydnabod bod gan blant hawl i chwarae, a bod angen hyrwyddo, parchu a diogelu'r hawl hwn. Mae Wrecsam yn ymroddedig i hawl plant i chwarae a bydd yn rhoi'r ymroddiad hwn ar waith drwy ei Strategaeth Chwarae. Strategaeth Chwarae i Wrecsam 2002 - 2007.
Nod
Gwella ystod a safon y cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc ledled y Fwrdeistref.
Amcanion
- Datblygu ymagwedd gyd-drefnedig tuag at chwarae
- Hybu proffil a chydnabod pwysigrwydd chwarae yn natblygiad iach plant a phobl ifanc
- Datblygu gwasanaeth chwarae sy'n hygyrch i bob plentyn
- Datblygu cyfleoedd chwarae newydd a rhai sy'n bodoli eisoes
- Datblygu safon y cyfleoedd chwarae i blant
Am fwy o wybodaeth
Swyddog Datblygu Chwarae
Salvation Army Building
Garden Road
Rhosddu
Wrecsam
LL11 2NU
Ffôn: 01978 340740
Ebost: play@wrexham.gov.uk







