Mae eich hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym yn cydnabod eich bod yn ymddiried ynom i weithredu mewn ffordd gyfrifol, pan fyddwch yn dewis rhoi gwybodaeth amdanoch i ni.
Credwn y dylai'r wybodaeth hon gael ei defnyddio i'n helpu i roi gwasanaeth gwell i chi yn unig. Dyma pam mae gennym bolisi i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.
Ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol a geir drwy'r wefan i gwmnïau nac unigolion eraill oni bai y gofynnir i ni wneud hynny dan y gyfraith.
Pryd bynnag byddwch yn darparu gwybodaeth sensitif (er enghraifft, rhif cerdyn credyd i dalu am rywbeth), byddwn yn sicrhau'r holl gamau rhesymol i'w diogelu, megis amgodio rhif eich cerdyn. Byddwn yn cymryd mesurau diogelwch hefyd i ddiogelu y wybodaeth bersonol a gedwir. Defnyddir rhifau cardiau credyd ar gyfer prosesu taliadau yn unig ac nid ydynt yn cael eu cadw at ddibenion marchnata.
Gallai ein gwefannau ddarparu cysylltiadau i wefannau eraill. Gan nad ydym yn rheoli'r gwefannau hyn, rydym yn eich annog i arolygu polisïau preifatrwydd y gwefannau hyn.
Bydd gwybodaeth a gesglir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael ei chadw a'i phrosesu mewn cronfeydd data dan berchnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn unig.
Cwci yw neges fach a roddir i'ch porwr gwe gan ein gwasanaethwr gwe. Mae'r porwr yn storio'r neges mewn ffeil testun ac anfonir y neges yn ôl i'r gwasanaethwr bob tro y mae'r porwr yn gofyn am dudalen gan y gwasanaethwr.
Defnyddiwn cwcis i roi gwybodaeth gyfansymiol ddienw i ni ar sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan ac i'n helpu i wybod beth sy'n ddiddorol a defnyddiol ar ein gwefan. Nid ydym yn cadw gwybodaeth bersonol megis cyfeiriadau ebost na manylion eraill mewn cwci.
Sefydlwyd y rhan fwyaf o borwyr i dderbyn cwcis. Os na ddymunwch dderbyn cwcis, mae'n bosibl y gallwch newid y gosodiadau ar eich porwr i wrthod pob cwci neu i'ch hysbysu bob tro yr anfonir cwci at eich cyfrifiadur, gan roi dewis i chi ei dderbyn neu beidio.
Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddiwygio'r termau hyn ar unrhyw adeg drwy ddiweddaru'r dudalen hon. Fe'ch cynghorir i ymweld â'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i arolygu'r termau, oherwydd maent yn eich rhwymo. Gall darpariaethau penodol yn y termau hyn cael eu disodli gan hysbysiadau neu dermau cyfreithiol ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.