1 Ebrill 2019

Rydym wedi gosod systemau Teledu Cylch Caeëdig yn rhai o’n safleoedd a ddefnyddir gan aelodau o’r cyhoedd, i bwrpasau diogelwch y cyhoedd a'r staff ac atal a chanfod trosedd. Mae Teledu Cylch Caeëdig hefyd wedi ei osod ar du allan rhai o'n hadeiladau i bwrpasau monitro diogelwch yr adeilad ac atal a chanfod trosedd.

Maent wedi eu gosod yn ein safleoedd ailgylchu i bwrpasau diogelwch y cyhoedd a staff, atal a chanfod trosedd a chanfod os caiff polisïau'r cyngor eu cam-drin. Maent wedi eu gosod ar briffyrdd er mwyn monitro traffig yn barhaol neu dros dro. Ymhob lleoliad caiff arwyddion eu harddangos yn eich hysbysu fod Teledu Cylch Caeëdig yn weithredol gan ddarparu manylion ynglŷn â phwy i gysylltu â nhw am wybodaeth bellach am y cynllun.

Ni fydd lluniau sydd wedi eu dal gan y Teledu Cylch Caeëdig yn cael eu cadw’n hwy na'r hyn sy'n angenrheidiol. Ond ar rai achlysuron fe allai fod angen cadw’r lluniau am gyfnod hwy, er enghraifft lle ymchwilir i drosedd.

Mae gennych hawl i weld lluniau Teledu Cylch Caeëdig ohonoch eich hun a chael copi o’r lluniau.

Caiff Camerâu a Wisgir ar y Corff ac a all recordio sain eu defnyddio gan Swyddogion Gorfodi Sifil pan fo angen i bwrpasau gweithredol.

Bwriad y dechnoleg yw i:

  • hybu diogelwch y Swyddogion
  • gostwng potensial y nifer o sefyllfaoedd dadleuol a brofir gan Swyddogion
  • gostwng y potensial o ddigwyddiadau’n gwaethygu
  • cynyddu cyfleoedd ar gyfer casglu tystiolaeth

Mae gennych hawl i weld lluniau/recordiadau sain ohonoch eich hun yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a chael copi o’r lluniau.

Dim ond ar gyfer y pwrpasau a nodir uchod y byddwn yn datgelu lluniau a sain i gyrff awdurdodedig eraill sydd am eu defnyddio i’r pwrpasau hynny. Ni fydd lluniau a sain yn cael eu rhyddhau i'r cyfryngau i bwrpasau adloniant na'u rhoi ar y rhyngrwyd i'w gwylio gan y cyhoedd.

Rydym yn gweithredu Teledu Cylch Caeëdig ac yn datgelu yn unol â’r codau ymarfer sydd wedi eu cyhoeddi gan y Comisiynydd Gwybodaeth a’r Swyddfa Gartref.

Lle alla’ i gael cyngor?

I gael cyngor annibynnol ynglŷn â Chod Ymarfer Camera Gwyliadwriaeth cysylltwch â Chomisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth:

Surveillance Camera Commissioner
2 Marsham Street 1st Floor, Peel
London
SW1P 4DF

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynglŷn â sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data DPO@wrexham.gov.uk neu drwy ffonio 01978 292000.

I gael cyngor annibynnol am ddiogelu data, preifatrwydd a materion yn ymwneud â rhannu data, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth : 

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 745 os oes well gennych chi ddefnyddio rhif cyfradd genedlaethol. 

Fel arall ewch i ico.org.uk neu e-bostiwch casework@ico.org.uk.