Cyffredinol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwneud pob ymdrech i sicrhau
bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon (http://www.wrecsam.gov.uk)
yn ddiweddaredig a chywir ond ni all dderbyn unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol
am unrhyw gamgymeriadau neu hepgoriadau. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam yn cadw'r hawl i wneud newidiadau heb rybudd. Os gwelwch rywbeth
sy'n eich poeni, e-bostiwch: webmaster@wrexham.gov.uk
Hawlfraint
Hawlfraint © Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Diogelir y tudalennau hyn gan hawlfraint oni ddatganir i'r gwrthwyneb.
Ni chaniateir atgynhyrchu'r deunydd hwn mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd
ysgrifenedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae cyfraith Cymru a Lloegr
yn gymwys i gynnwys y wefan hon. Mae'n bosibl bod hawliau eiddo deallusol
mewn rhai o'r deunyddiau yn cael eu dal gan awduron unigol. Ni ellir defnyddio
logo Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd
ysgrifenedig. Dylid gwneud ceisiadau am ddefnyddio'r logo i Swyddfa'r
Prif Weithredwr, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.
Feirysau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwneud pob ymdrech i feirws-wirio
gwybodaeth sydd ar gael i'w dadlwytho ar y wefan hon. Ni all Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai
ddigwydd wrth ddadlwytho deunydd. Argymhellwn fod defnyddwyr yn ailwirio'r
holl ddeunydd a ddadlwythir gyda'u meddalwedd gwirio feirysau eu hunain.
Gwefannau Trydydd Parti
Er eich cyfleuster chi, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddarparu
cysylltiadau i wefannau eraill a weithredir gan gyrff eraill. Os defnyddiwch
y gwefannau hyn, byddwch yn gadael y wefan hon. Os penderfynwch ymweld
â gwefan gysylltiedig, rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich
hun a'ch cyfrifoldeb chi yw cymryd yr holl fesurau posibl i ddiogelu yn
erbyn feirysau neu elfennau dinistriol eraill.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwarantu nac yn gwneud sylwadau
nac yn cefnogi unrhyw wefannau cysylltiedig na'r wybodaeth sy'n ymddangos
arnynt na'r cynnyrch neu'r gwasanaethau a ddisgrifir arnynt. Nid yw cysylltiadau'n
golygu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cefnogi, yn aelod na'n
gysylltiedig nac â'r awdurdod cyfreithiol i ddefnyddio unrhyw farc
masnach, enw masnachol, logo neu symbol hawlfraint a arddangosir neu y
gellir mynd atynt drwy'r cysylltiadau na bod gan unrhyw wefan gysylltiedig
hawl i ddefnyddio unrhyw farc masnach, enw masnachol, logo neu symbol
hawlfraint gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Deddf Gwarchod Data 1998
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ei gofrestru gyda Swyddfa'r
Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd yr holl ddata a gyflwynir gan ymwelwyr i'r
wefan hon yn cael ei brosesu yn unol ag egwyddorion Deddf Gwarchod Data
1998.
|