Arddangos canlyniadau 11 - 20 o 29

Defnyddiwch yr hidlyddion ar y chwith i wella canlyniad eich chwiliad.

Mae’r grŵp galw heibio hwn yn agored i rieni/ gofalwyr a’u plant 0-3 oed.  

Mae pob sesiwn yn llawn gweithgareddau hwyliog i chi a’ch plentyn, ac yn canolbwyntio ar gael hwyl â’ch plentyn trwy chwarae, archwilio iaith trwy ganeuon, hwiangerddi a straeon a chefnogi datblygiad cymdeithasol eich plentyn. 
 
Yn ystod y tymor yn unig.

Dyma grŵp 6 wythnos ar gyfer rhieni/  gofalwyr a’u babanod o enedigaeth.   Dewch draw i ddysgu rhywfaint o ddulliau tylino syml i helpu i gefnogi’r berthynas rhyngoch chi a’ch babi ac i brofi rhai o’r manteision posibl gan gynnwys:

  • cefnogi rhyngweithio rhyngoch chi a’ch babi,  
  • helpu eich babi i ymlacio a chysgu,  
  • effeithio’n gadarnhaol ar hormonau baban sy’n rheoli straen a lleihau crio. 

Dyma grŵp 6 wythnos hwyliog a difyr ar gyfer rhieni/ gofalwyr a’u plant 3-12 mis oed.

Mae’r sesiynau yn cynnig cyfleoedd i ymgysylltu a chwarae gyda’i gilydd, yn ogystal â chael awgrymiadau gwych ar gefnogi datblygiad sgiliau iaith a lleferydd babanod nawr ac yn y dyfodol.  

Bydd y sesiynau’n canolbwyntio ar: 

  • Gyswllt llygad
  • Sylw
  • Archwilio defnyddiau
  • Canu a mwynhau cerddoriaeth
  • Chwarae â dŵr
  • Cymryd tro
  • Archwilio a symud

Dyma grŵp 6 wythnos ar gyfer rhieni/  gofalwyr a’u babanod o enedigaeth.   Dewch draw i ddysgu rhywfaint o ddulliau tylino syml i helpu i gefnogi’r berthynas rhyngoch chi a’ch babi ac i brofi rhai o’r manteision posibl gan gynnwys:

  • cefnogi rhyngweithio rhyngoch chi a’ch babi,  
  • helpu eich babi i ymlacio a chysgu,  
  • effeithio’n gadarnhaol ar hormonau baban sy’n rheoli straen a lleihau crio. 

Mae’r cwrs hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr plant 1- 3 oed ac yn cynnwys pum sesiwn lle bydd y pynciau canlynol yn cael eu harchwilio:

  • Datblygiad ymennydd plant bach
  • Ymlyniad a datblygiad emosiynol
  • Helpu plant bach i reoli eu hymddygiad a Chyfathrebu
  • Chwarae a bod yn barod ar gyfer yr ysgol

Mae’r sesiynau hyn yn helpu i roi cipolwg ar ymddygiad plant bach er mwyn eich helpu chi fel rhieni/gofalwyr i sefydlu seiliau cryf ar gyfer lles emosiynol eich plentyn.

Dyma raglen 7 wythnos ar gyfer rhieni/ gofalwyr plant rhwng 3 mis a 4 oed. Mae nofio babanod a chyn-ysgol yn ymwneud â datblygu cariad plentyn tuag at y dŵr, sgiliau echddygol a gallu, yn ogystal â hybu hyder yn y dŵr.

Gall nofio gyda’i gilydd roi cyfle i’r oedolyn a’r plentyn ymlacio gyda’i gilydd, helpu i feithrin ymddiriedaeth, darparu cyswllt croen a rhoi amser i’r oedolyn ganolbwyntio ar eu plentyn, archwilio iaith trwy ganeuon a hwiangerddi, yn ogystal â chael hwyl gyda’i gilydd! 

Mae’r cwrs 8 wythnos hwn i rieni/ gofalwyr yn archwilio hwyliau isel, straen a gwytnwch. Dros y sesiynau, byddwch yn dysgu sgiliau ar gyfer deall y rhesymau am sut rydych yn teimlo, sut i fynd i’r afael â phroblemau, magu hyder, ailafael ym mhethau eto, teimlo’n hapusach, cadw eich pwyll, mynd i’r afael â meddyliau sy’n peri gofid a llawer mwy. 

Mae’r sesiynau gweithdy 2 awr hyn dros 2 wythnos yn anelu i wella perthnasoedd a chefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol plant trwy:

  • Ddatblygu eich dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae a datblygu ymlyniad trwy chwarae
  • Cynyddu eich dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn, yr ymennydd, ymlyniad a sut mae chwarae yn cefnogi datblygiad iach
  • Cynyddu eich hyder wrth ddefnyddio sgiliau chwarae sy’n canolbwyntio ar y plentyn i gefnogi datblygiad a defnyddio adnoddau rhad/am ddim i greu cyfleoedd chwarae o ansawdd 
  • Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o ddisgyblu a gosod ffiniau

Ebost: flying.start@wrexham.gov.uk