Dolenni at ystadegau sy’n gysylltiedig â’r chwe amcan lles a blaenoriaethau gwella a ddynodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2020-23 :

Datblygu’r economi

Mae’r economi yn brif ffactor ar gyfer gwella cymuned Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae’n cyd-fynd yn agos â nodau lles Cymru. Gallwch ddod o hyd i ystadegau am yr economi yn Wrecsam a Chymru drwy’r dolenni canlynol:

Sicrhau bod pawb yn ddiogel

Mae bod yn ddiogel a theimlo’n ddiogel ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn hanfodol i’n preswylwyr ac ymwelwyr. Mae diogelwch yn ffactor allweddol sy’n effeithio ar ansawdd bywyd pobl a’u gallu i ymgysylltu mewn bywyd cymunedol. Gallwch ddod o hyd i ystadegau am ansawdd bywyd yn Wrecsam drwy’r dolenni canlynol:

Sicrhau cyngor modern a chryf

Rydym yn canolbwyntio ar ddod yn gyngor mwy modern a chryf, a gyflawnir drwy ein rhaglen waith ‘Ffyrdd Modern o Weithio’. 

Gallwch ddod o hyd i ystadegau am ein pwyslais i ddod yn gyngor mwy modern a chryf drwy’r dolenni canlynol:

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn dal i ffynnu yn Wrecsam, mae’n hanfodol ein bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Gwella'r amgylchedd

Mae’r argyfwng hinsawdd yn un o bynciau pwysicaf ein cyfnod ac mae'n rhaid i ni wneud ein rhan drwy fynd i'r afael ag o yn gyflym. Dewch o hyd i ystadegau’n ymwneud â’r amgylchedd yn Wrecsam a Chymru drwy’r dolenni canlynol:

Gwella addysg uwchradd

Yn Wrecsam, mae arnom eisiau i’n dysgwyr deimlo eu bod yn cael eu cefnogi drwy greu’r amodau cywir ar gyfer gweithlu crefftus, sydd wedi eu haddysgu’n dda.  Dewch o hyd i ystadegau’n ymwneud ag addysg yn Wrecsam a Chymru drwy’r dolenni canlynol:

Hybu iechyd a lles da (gyda phwyslais ar wella gwasanaethau plant)

Mae iechyd (corfforol ac iechyd meddwl) a lles da yn un o’r pethau pwysicaf y gall unigolyn ei gael ac mae’n effeithio ar gymaint o rannau eraill o’u bywyd.   Dewch o hyd i ystadegau ar iechyd a lles yn Wrecsam a Chymru drwy’r dolenni canlynol: