Crynodeb o’r drwydded        

Os ydych yn gweithredu maes chwaraeon yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban, sy’n dal mwy na 10,000 o gefnogwyr, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gael tystysgrif diogelwch.

Gall tystysgrif diogelwch fod yn un ai:

  • tystysgrif diogelwch cyffredinol ar gyfer defnyddio’r eisteddle i wylio gweithgaredd, neu nifer o weithgareddau, wedi’u nodi yn y dystysgrif ar gyfer cyfnod amhenodol sy’n dechrau ar ddyddiad penodol
  • tystysgrif diogelwch arbennig ar gyfer defnyddio’r eisteddle i wylio gweithgaredd penodol neu weithgareddau ar achlysur neu achlysuron penodol 

Mae’n rhaid i chi gyflwyno cais am dystysgrif i’ch awdurdod lleol.

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm â thystysgrif.

Mae gwybodaeth am dystysgrif diogelwch eisteddle chwaraeon hefyd ar gael ar y wefan hon.

Meini prawf cymhwyster        

Er mwyn bod yn gymwys am dystysgrif diogelwch cyffredinol, mae’n rhaid mai chi yw’r unigolyn â chyfrifoldeb dros reoli’r maes chwaraeon.

Er mwyn bod yn gymwys am dystysgrif diogelwch arbennig, mae’n rhaid mai chi yw’r unigolyn â chyfrifoldeb dros y gweithgaredd y bydd pobl yn ei wylio o’r eisteddle ar yr achlysur hwnnw.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Mae’n rhaid i ymgeiswyr roi’r wybodaeth a’r cynlluniau y gofynnir amdanynt i’r awdurdod lleol yn yr amser a nodir. Os na fydd y manylion hyn yn cael eu darparu yn ystod y cyfnod amser a ganiateir, tybir bod y cais wedi cael ei dynnu’n ôl.

Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a yw unrhyw eisteddle yn ei ardal yn eisteddle a reoleiddir. Os penderfynir ei fod yn eisteddle o’r fath, bydd hysbysiad yn cael ei roi i’r unigolyn y tybir y byddai’n gymwys iddo gael tystysgrif diogelwch cyffredinol. Bydd yr hysbysiad yn cynnwys manylion y penderfyniad ac effaith y penderfyniad.

Pan fydd awdurdod lleol yn derbyn cais am dystysgrif diogelwch cyffredinol ar gyfer eisteddle a reoleiddir mewn maes chwaraeon, mae’n rhaid iddo benderfynu a yw’r eisteddle yn un a reoleiddir, ac os felly, ai’r ymgeisydd yw’r unigolyn cymwys i gael y dystysgrif. Os yw’r awdurdod lleol eisoes wedi penderfynu bod yr eisteddle yn un a reoleiddir ac nid yw wedi dirymu’r penderfyniad hwn, mae’n rhaid iddo benderfynu ai’r ymgeisydd yw’r unigolyn cymwys i gael tystysgrif diogelwch cyffredinol.

Os bydd yr awdurdod lleol yn derbyn cais am dystysgrif diogelwch arbennig ar gyfer eisteddle a reoleiddir, bydd yn rhaid iddo benderfynu a yw’r ymgeisydd yn gymwys i gael tystysgrif.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o gais am dystysgrif diogelwch i brif swyddog yr heddlu yn yr ardal, yr awdurdod tân ac achub os nad hwnnw yw’r awdurdod cymwys, a’r awdurdod adeiladu os nad hwnnw yw’r awdurdod. Mae’n rhaid ymgynghori â phob un o’r cyrff hyn ynghylch y telerau ac amodau i’w cynnwys yn y dystysgrif.

Os gwneir cais i drosglwyddo tystysgrif, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a fyddai’r unigolyn y bwriedir trosglwyddo’r dystysgrif iddo, petai’n gwneud cais, yn gymwys i gael tystysgrif. Gall yr ymgeisydd fod yn ddeilydd presennol y dystysgrif neu’r unigolyn y bwriedir trosglwyddo’r dystysgrif iddo.

Bydd yr awdurdod lleol yn anfon copi o’r cais i brif swyddog yr heddlu yn yr ardal, yr awdurdod tân ac achub os nad hwnnw yw’r awdurdod cymwys a’r awdurdod adeiladu os nad hwnnw yw’r awdurdod, a bydd yn ymgynghori â nhw ynglŷn ag unrhyw newid, adnewyddu neu drosglwyddo arfaethedig.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd, mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. 

Dylech gysylltu â ni os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Cyfnod cwblhau targed

56 diwrnod calendr.

Ffioedd

Dim ffi wedi’i gosod – yn unol â’r gost.

Cyswllt

Tîm Bwyd a Ffermio, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR.

E-bost: healthandsafety@wrexham.gov.uk.

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall ymgeisydd y gwrthodwyd ei gais am dystysgrif diogelwch cyffredinol gan nad yw’n cael ei ystyried yn unigolyn cymwys gyflwyno apêl i’r llys ynadon.

Hefyd, gall ymgeisydd y gwrthodwyd ei gais am dystysgrif diogelwch arbennig gyflwyno apêl i’r llys yn erbyn penderfyniad i wrthod yn seiliedig ar faterion yn ymwneud â’r maes yn hytrach na’r ffaith nad yw’n unigolyn cymwys.
 

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw ddeilydd trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm â’i dystysgrif diogelwch, neu unrhyw beth sydd wedi’i hepgor o’r dystysgrif, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod newid neu adnewyddu tystysgrif diogelwch, gyflwyno apêl i lys yr ynadon.
 

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Gall unrhyw un sy’n gysylltiedig â sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau’r dystysgrif diogelwch apelio i’r llys ynadon yn erbyn unrhyw amod ynghlwm â’i dystysgrif, neu unrhyw beth sydd wedi’i hepgor o’r dystysgrif, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod newid neu adnewyddu tystysgrif diogelwch.