Crynodeb o’r drwydded        

Os ydych yn gweithredu maes chwaraeon yng Nghymru lle nad yw’n ofynnol i gael tystysgrif diogelwch ar ei gyfer, bydd yn rhaid i chi gael tystysgrif diogelwch ar gyfer unrhyw eisteddle wedi’i orchuddio sy’n dal 500 neu ragor o gefnogwyr.

Gall tystysgrif diogelwch fod yn un ai:

  • tystysgrif diogelwch cyffredinol ar gyfer defnyddio’r maes chwaraeon ar gyfer gweithgaredd, neu weithgareddau, penodol yn ystod cyfnod amhenodol
  • tystysgrif diogelwch arbennig ar gyfer defnyddio’r maes chwaraeon ar gyfer gweithgaredd, neu weithgareddau, penodol ar achlysur neu achlysuron penodol

Gall un dystysgrif fod yn berthnasol fwy nag un eisteddle.

Eich awdurdod lleol sy’n darparu’r tystysgrifau diogelwch.

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau neu amodau sydd ynghlwm â thystysgrif.

Mae gwybodaeth am dystysgrif diogelwch maes chwaraeon hefyd ar gael ar y wefan hon.

Meini prawf cymhwyster        

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer tystysgrif diogelwch, mae’n rhaid i chi fod mewn sefyllfa debygol i atal unrhyw achos o dorri telerau ac amodau tystysgrif.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r gwybodaeth a’r cynlluniau y gofynnwyd amdanynt i’r awdurdod lleol yn yr amser a nodir. Os na fydd yr ymgeisydd yn darparu’r manylion hyn yn ystod y cyfnod amser a ganiateir, tybir bod y cais wedi cael ei dynnu’n ôl.

Bydd yr awdurdod lleol yn ystyried a yw’r ymgeisydd mewn sefyllfa i atal unrhyw achos o dorri telerau ac amodau tystysgrif.

Yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o gais am dystysgrif diogelwch i brif swyddog yr heddlu yn yr ardal, yr awdurdod tân ac achub os nad hwnnw yw’r awdurdod cymwys a’r awdurdod adeiladu os nad hwnnw yw’r awdurdod. Yn yr Alban, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol anfon cais i brif swyddog yr heddlu a naill ai’r awdurdod tân ac achub neu’r awdurdod adeiladu.

Mae’n rhaid ymgynghori â phob un o’r cyrff hyn ynghylch y telerau ac amodau sydd i’w cynnwys ar dystysgrif.

Os gwneir cais i drosglwyddo tystysgrif, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a fyddai’r unigolyn y bwriedir trosglwyddo’r dystysgrif iddo, petai’n gwneud cais, yn gymwys i gael tystysgrif. Gall yr ymgeisydd fod yn ddeilydd presennol y dystysgrif neu’r unigolyn y bwriedir trosglwyddo’r dystysgrif iddo.

Yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o’r cais trosglwyddo i brif swyddog yr heddlu yn yr ardal, yr awdurdod tân ac achub os nad hwnnw yw’r awdurdod cymwys a’r awdurdod adeiladu os nad hwnnw yw’r awdurdod. Yn yr Alban, bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol anfon y cais i’r prif swyddog heddlu a naill ai’r awdurdod tân neu’r awdurdod adeiladu. Mae’n rhaid ymgynghori â nhw am unrhyw gais i newid, adnewyddu neu drosglwyddo tystysgrif.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd, mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. 

Dylech gysylltu â ni os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Cyfnod cwblhau targed

56 diwrnod calendr.

Ffioedd

Dim wedi’u gosod – yn unol â’r gost.

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR.

E-bost: public_protection_service@wrexham.gov.uk.

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir ei gais am dystysgrif diogelwch oherwydd nad yw’n cael ei ystyried yn unigolyn cymwys gyflwyno apêl i’r llys ynadon.

Gall ymgeisydd y gwrthodir ei gais am dystysgrif diogelwch arbennig gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol hefyd yn erbyn penderfyniad i wrthod ei gais ar sail arall heblaw ‘r ffaith nad yw’n unigolyn cymwys.
 

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw ddeilydd trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm â’i dystysgrif, neu unrhyw beth sydd wedi’i hepgor o’r dystysgrif diogelwch, neu yn erbyn penderfyniad i newid neu adnewyddu tystysgrif diogelwch, gyflwyno apêl i’r llys ynadon. Gall hefyd apelio i Lys y Goron yn erbyn gorchymyn y llys ynadon.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Gall unrhyw un sy’n ymwneud â sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau’r dystysgrif diogelwch apelio i’r llys ynadon yn erbyn unrhyw amod sydd ynghlwm â’r dystysgrif, neu unrhyw beth sydd wedi’i hepgor o’r dystysgrif diogelwch, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod newid neu adnewyddu tystysgrif diogelwch.