Nod trwydded bersonol yw sicrhau fod unrhyw un sy’n rhedeg neu’n rheoli busnes sy’n gwerthu neu’n cyflenwi alcohol yn gwneud hynny mewn dull proffesiynol. 

Mae’n rhaid i bob eiddo sy’n gwerthu alcohol gael unigolyn penodol sy’n ddeiliad trwydded.  Caiff ei adnabod fel y goruchwyliwr eiddo dynodedig. 

Nid oes angen trwydded bersonol arnoch i werthu alcohol o dan hysbysiad digwyddiad dros dro ond os oes gennych chi drwydded bersonol fe fydd y nifer o hysbysiadau digwyddiadau dros dro y gallwch eu gweithredu mewn blwyddyn yn cynyddu o 5 i 50.

Cymhwysedd

I fod yn gymwys am drwydded bersonol mae’n rhaid i chi:

  • fod yn 18 oed neu’n hŷn
  • feddu ar gymhwyster trwyddedu perthnasol (er enghraifft, Dyfarniad BIIAB Lefel 2 i Ddeiliaid Trwydded Bersonol neu gymhwyster achrededig tebyg).
  • darparu ffurflen datgelu euogfarnau troseddol sylfaenol (gall unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol effeithio p’run ai y canfyddir eich bod yn addas fel trwyddedai ai peidio)

Gwneud cais am drwydded bersonol

Bydd rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais, dogfennau ategol, a thalu ffi.

Dogfennau ategol

  • ffurflen ddatgelu sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, sydd wedi ei chyhoeddi ddim cynt nag un mis calendr cyn i chi gyflwyno’r cais hwn (mae’r rhestr wirio ar y ffurflen gais yn rhestru dogfennau derbyniol eraill)
  • cymhwyster trwyddedu perthnasol
  • tystiolaeth o’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
  • dau ffotograff (gweler y rhestr wirio ar y ffurflen gais).

Mae’r ffurflen gais yn cynnwys nodiadau gyda mwy o wybodaeth am yr uchod.

Cyflwyno’r ffurflen / dogfennau ategol eich hun

Bydd rhaid i chi ddangos eich dogfennau ategol gwreiddiol yn bersonol yn Galw Wrecsam oni bai y gellwch ddarparu copïau dilys (gweler yr oriau agor a’r cyfeiriad yn yr adran ‘Ymweld â ni’ ar ein tudalen Cysylltu).

E-bostiwch licensingservice@wrexham.gov.uk i drefnu apwyntiad i ddod i gyflwyno eich cais, a gallwn sganio copïau o’ch dogfennau i chi. 

Cyflwyno’r ffurflen / dogfennau ategol drwy gyfreithiwr neu gwmni trwyddedu

Os yw eich dogfennau ategol wedi eu sganio a’u dilysu fel copi gwirioneddol o’r gwreiddiol, gellir eu cyflwyno ynghyd â’r ffurflen gais:

  • Drwy eu e-bostio at licensingservice@wrexham.gov.uk  
  • Drwy eu postio i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cynllunio a Rheoleiddio, yr Adain Drwyddedu, Neuadd y Dref, Wrecsam LL11 1AY.

Efallai yr hoffech anfon eich dogfennau drwy’r post wedi eu cofnodi.

Yn ogystal, gall cyfreithiwr gyflwyno’r ffurflen a’r dogfennau ategol wedi eu llungopïo ar eich rhan yn bersonol yn Galw Wrecsam (gweler yr oriau agor a’r cyfeiriad yn yr adran ‘Ymweld â ni’ ar ein tudalen Cysylltu).

Ffioedd

£37

Gellwch dalu drwy ein e-siop, neu wyneb yn wyneb pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.

Nid ystyrir bod eich cais wedi ei dderbyn yn llawn hyd nes byddwch wedi cyflwyno eich dogfennau ategol a thalu’r ffi.

Mwy o ffurflenni trwydded bersonol

Os oes angen i chi gyflwyno un o’r ffurflenni canlynol yn y dyfodol fe allwch anfon e-bost at licensingservice@wrexham.gov.uk i ofyn am gopi o’r ffurflen berthnasol:

  • Rhybudd o newid enw neu gyfeiriad 
  • Gwneud cais am gopi o’ch trwydded bersonol