Crynodeb o’r drwydded    

Os ydych yn dymuno cynnal digwyddiad ad-hoc yng Nghymru, mae’n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad digwyddiad dros dro i’r awdurdod trwyddedu lleol o leiaf ddeng diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Os yw’r eiddo lle rydych yn bwriadu cynnal y digwyddiad mewn ardal sy’n cael ei llywodraethu gan ddau neu fwy o awdurdodau lleol, mae’n rhaid i chi gyflwyno ceisiadau i bob un.

Oni bai eich bod yn cyflwyno cais yn electronig, mae’n rhaid i chi hefyd roi copi o’r hysbysiad i’r heddlu o leiaf ddeng diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.

Rhaid i chi fod yn 18 oed a throsodd i gyflwyno Hysbysiad digwyddiad dros dro ac ni allwch gyflwyno mwy na 5 Hysbysiad digwyddiad dros dro mewn blwyddyn. Os ydych yn ddeiliad trwydded bersonol, gallwch gyflwyno cais am hyd at 50 Hysbysiad digwyddiad dros dro mewn blwyddyn.

Ni chaniateir dim mwy na 499 o bobl yn y digwyddiad ar yr un pryd ar unrhyw adeg, ac ni ddylai bara mwy na 96 awr gan adael o leiaf 24 awr rhwng digwyddiadau. 

Meini prawf cymhwysedd    

Rhaid i’r gweithgaredd sy’n cael ei drwyddedu gael ei gynnal yn unol â’r manylion a roddir yn yr hysbysiad.

Rhaid i’r hysbysiad fod mewn fformat penodol a rhaid iddo gael ei gyflwyno gan rywun sydd dros 18 oed.

Dylai’r hysbysiad gynnwys y manylion canlynol:

  • os bydd alcohol yn cael ei gyflenwi, rhaid cyflwyno datganiad yn cadarnhau mai un o amodau defnyddio’r eiddo yw bod y cyflenwadau yn cael eu darparu o dan awdurdod defnyddiwr yr eiddo 
  • datganiad yn ymwneud â materion penodol 
  • unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol 

Y materion y cyfeirir atynt uchod yw:

  • manylion y gweithgareddau trwyddedadwy 
  • cyfnod y digwyddiad 
  • yr amseroedd yn ystod y cyfnod hwnnw pan fydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal 
  • uchafswm y bobl y bwriedir eu caniatáu ar yr eiddo 
  • unrhyw faterion eraill sy’n ofynnol 

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Rhaid cyflwyno’r Hysbysiad digwyddiad dros dro yn ysgrifenedig (gan gynnwys drwy ddulliau electronig) i’r awdurdod lleol o leiaf ddeng diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.

Rhaid talu ffi wrth gyflwyno’r hysbysiad.

Bydd yr awdurdod lleol yn cydnabod ei fod wedi derbyn yr hysbysiad drwy roi hysbysiad i ddefnyddiwr yr eiddo cyn diwedd y diwrnod gwaith cyntaf y derbyniwyd yr hysbysiad, neu cyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith os derbyniwyd yr hysbysiad ar ddiwrnod nad oedd yn ddiwrnod gwaith.

Oni bai fod cais yn cael ei gyflwyno’n electronig, mae’n rhaid i ddefnyddiwr yr eiddo hefyd gyflwyno hysbysiad i brif swyddog yr adran heddlu lleol o leiaf deng diwrnod gwaith cyn dyddiad cynnal y digwyddiad.

Os yw’r prif swyddog yr heddlu sy’n derbyn yr hysbysiad yn credu y byddai’r digwyddiad yn tanseilio amcanion atal troseddu, gall gyflwyno hysbysiad gwrthwynebu i’r awdurdod trwyddedu a defnyddiwr yr eiddo. Rhaid cyflwyno’r hysbysiad hwn cyn pen 48 awr ar ôl derbyn yr hysbysiad digwyddiad dros dro.

Mae’n rhaid i’r awdurdod trwyddedu lleol gynnal gwrandawiad os cyflwynir hysbysiad o wrthwynebiad. Gall hefyd gyflwyno gwrth-hysbysiad os yw’n ystyried bod angen gwneud hynny i annog amcanion atal troseddu. Rhaid dod i benderfyniad o leiaf 24 awr cyn dechrau’r digwyddiad.

Gall prif swyddog yr heddlu addasu’r Hysbysiad digwyddiad dros dro gyda chaniatâd defnyddiwr yr eiddo. Yn yr achos hwn, ystyrir bod yr hysbysiad o wrthwynebiad wedi cael ei dynnu’n ôl.

Gall yr awdurdod trwyddedu ddarparu gwrth-hysbysiadau os bydd ymgeisydd wedi cyflwyno mwy o Hysbysiadau digwyddiadau dros dro na’r hyn a ganiateir.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed oni bai fod yr heddlu yn gwrthwynebu.

Cyfnod cwblhau targed

14 diwrnod calendr 

Ffioedd

£21.

Manylion cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR.

E-bost: licensingservice@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Os cyflwynir gwrth-hysbysiad mewn perthynas â hysbysiad gwrthwynebu gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid cyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod. Ni cheir cyflwyno apêl fwy na phum diwrnod gwaith ar ôl diwrnod y digwyddiad a drefnwyd.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Os bydd awdurdod trwyddedu yn penderfynu peidio â chyflwyno gwrth-hysbysiad mewn perthynas â hysbysiad gwrthwynebu, gall prif swyddog yr heddlu apelio yn erbyn y penderfyniad. Gellir cyflwyno apêl i’r Llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod. Ni cheir cyflwyno apêl fwy na phum diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y digwyddiad a drefnwyd.