Crynodeb o’r drwydded

I gynnal seremoni sifil neu briodas mewn adeiladau yng Nghymru neu Loegr, rhaid iddynt gael cymeradwyaeth gan eich awdurdod lleol.

Meini prawf cymhwysedd    

Rhaid i chi fod yn berchennog neu'n ymddiriedolwr y safle i wneud cais am ganiatâd i gynnal seremonïau sifil neu briodasau.

Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig (yn cynnwys moddau electronig) ac yn cynnwys:

  • enw a chyfeiriad y ceisydd
  • unrhyw wybodaeth arall sydd ar yr Awdurdod Lleol ei angen
  • cynllun o'r adeilad sy'n nodi'n glir yr ystafell neu'r ystafelloedd y bydd y gweithrediadau'n digwydd

Gall fod ffi'n daladwy.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Fe archwilir eich adeilad.

Bydd eich cais a'ch cynllun ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio ynghyd â hysbyseb cyhoeddus o'r cais wedi ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor fel rhan o broses ymgynghoriad cyhoeddus.

Er mwyn ei ganiatáu rhaid i'ch cais fod yn y fformat cywir a'ch safle yn cael ei hystyried yn addas.

Fodd bynnag, gall eich cais yn dal i gael ei wrthod os teimlir bod gormod o safleoedd wedi eu cymeradwyo yn yr ardal i'r cofrestrydd allu eu mynychu.

Gall amodau gael eu gosod ar eich cymeradwyaeth.

Gall y Cofrestrydd Cyffredinol roi arweiniad i Awdurdodau Lleol i'w cynorthwyo i wneud eu penderfyniad.

Cyfnod targed ar gyfer cwblhau

6-8 wythnos 

Ffioedd

  • Trwydded 3 blynedd: £1,270
  • Adnewyddu: £1,035
  • Ffi Ail-archwilio Swyddog Priodol: £150
  • Trwyddedu ystafell ychwanegol mewn Safle a Gymeradwywyd (gan gynnwys archwiliad a ffi weinyddol): £170
  • Cymeradwyo newidiadau eraill i drwydded bresennol: £85
  • Ffi weinyddol - newid enw ac ati: £45

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Os gwrthodir unrhyw gais, gall y ceisydd ofyn am adolyiad.

Mae'n rhaid i chi ddanfon eich cais am adolygiad i' r swyddog priodol yn yr awdurdod lleol ynghyd â'r ffi.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Mae gennych y hawl i ofyn am adolygiad o'r amodau a roddwyd gan yr awdurdod lleol, gwrthod i adnewyddu neu diddymiad o gymeradwyaeth.

Mae'n rhaid i chi ddanfon eich cais am adolygiad i' r swyddfa yn yr awdurdod lleol ynghyd â'r ffi.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Os ydych yn gwrthwynebu cais am cymeradwyo adeilad rhowch hysbysiad i'ch awdurdod lleol o fewn 21 diwrnod o'r hysbysiad am gais yn ymddangos yn y papur lleol.