Eich prif ddyletswydd yw'r plentyn yn eich gofal. Tra'n gweithredu fel hebryngwr rhaid i chi beidio ag ymgymryd ag unrhyw weithgaredd a fyddai'n amharu ar berfformiad y plentyn.

Fel hebryngwr trwyddedig, bydd disgwyl i chi:

  • Oruchwylio’r plentyn 
  • Negodi lle bo angen gyda’r staff cynhyrchu i sicrhau bod lles a diogelwch y plentyn yn cael ei ddiogelu
  • Ochr yn ochr â deiliad y drwydded perfformiad, gwirio bod rheoliadau ac unrhyw ofynion ychwanegol a gyhoeddir gan awdurdod trwyddedu’r plentyn yn cael eu cynnal bob amser.
  • Gwirio’r drwydded i wneud yn siŵr bod y plentyn wedi’i drwyddedu’n benodol ar gyfer y perfformiad, oni bai ei fod yn dod o fewn cyfnod eithrio’r rheol 4 diwrnod
  • Bod yn wyliadwrus bob amser er mwyn sicrhau nad yw'r plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiadau peryglus
  • Cadw cofnodion ar berfformiadau, ymarferion, egwyliau, prydau bwyd a’r amser a dreulir yn aros rhwng perfformiadau’r plentyn
  • Cadw cofnodion o unrhyw anafiadau neu ddamweiniau i’r plentyn tra bydd yn eich gofal
  • Gwneud yn siŵr nad yw’r plentyn yn cael ei ecsbloetio drwy weithio gormod o oriau (a allai arwain at les cyffredinol neu addysg y plentyn yn dioddef yn yr hirdymor)
  • Sicrhau bod y plentyn yn cael addysg ar bob diwrnod ysgol
  • Monitro’r cyfnodau rhwng perfformiadau a’r amseroedd dechrau a gorffen, gan gyfeirio at y terfynau amser gwaith perthnasol ar gyfer oedran y plentyn
  • Sicrhau bod trefniadau teithio priodol wedi'u gwneud
  • Cynrychioli’r awdurdod lleol
  • Cadw rhestr o’r holl gysylltiadau pwysig gan gynnwys eich awdurdod trwyddedu, awdurdod trwyddedu’r plentyn, yr awdurdod lleol lle mae’r perfformiad yn digwydd, asiant y plentyn a rhiant/gwarcheidwad