Mae’n bosibl y bydd plant sy’n ymwneud â’r mathau canlynol o adloniant angen trwydded perfformiad a hebryngwr trwyddedig: 

  • Teledu
  • ffilm
  • theatr
  • modelu
  • sioeau dawns
  • panto
  • dramâu amatur 
  • grwpiau cerddoriaeth  
  • chwaraeon am dâl (proffesiynol neu amatur)  

Os bydd plentyn yn ymwneud â pherfformiad neu ddigwyddiad sydd angen trwydded perfformio yna mae’n rhaid iddynt gael eu goruchwylio gan warchodwr a gymeradwyir gan y cyngor - oni bai eu bod yng ngofal eu rhiant, gwarchodwr cyfreithiol neu mewn rhai amgylchiadau, athro/athrawes.

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i chi gael trwydded pan fydd angen un ac mae’n rhaid i chi ymgeisio am drwydded hebryngwr o leiaf 6 wythnos cyn dyddiad y perfformiad. 

Gall unrhyw un sy’n achosi neu’n trefnu i unrhyw blentyn wneud unrhyw beth sy’n torri deddfwriaeth trwyddedu gael ei erlyn (pa un a yw plentyn yn perfformio o dan y drwydded ai peidio, mae’r un ddyletswydd gofal yn berthnasol).

Dyletswydd gyntaf hebryngwr yw’r plentyn yn ei ofal. Mae’n gyfrifol am ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo lles y plentyn, ac ni ddylai ymgymryd ag unrhyw weithgaredd a fyddai’n ymyrryd a’i ddyletswyddau.

Y broses gofrestru

Er mwyn cofrestru fel hebryngwr yn Wrecsam mae’n rhaid i chi: 

  • lenwi’r ffurflen gais
  • ddarparu un llun maint pasbort
  • fynd i gyfweliad
  • ddarparu argymhellion boddhaol gan ddau ganolwr
  • ddal tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd manwl a gyhoeddwyd o fewn y 3 blynedd ddiwethaf
  • mynychu cwrs hyfforddi a diogelu gorfodol ar gyfer hebryngwr 

Ymgeisio am drwydded hebryngwr

Dechrau rŵan

 

Gellir codi ffi am wneud cais, a bydd hyn yn cael ei drafod pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Canllawiau pellach

Cysylltu â’n tîm cyflogi plant

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon e-bost at child_employment@wrexham.gov.uk.