Unwaith y bydd eich cais am ddinasyddiaeth Brydeinig wedi cael ei gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref, byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu seremoni.  Yn Wrecsam, cynhelir seremonïau yn Neuadd y Dref, yn ein swyddfa gofrestru. Dyma’r cam olaf ar eich taith i fod yn ddinesydd Prydeinig. 

Nod y seremoni ddinasyddiaeth yw galluogi ymgeiswyr i gael dealltwriaeth lwyr o’r hawliau a chyfrifoldebau â ddaw gyda dinasyddiaeth Brydeinig, a hefyd i sicrhau eu bod yn cael eu croesawu’n iawn i’r gymuned. 

Fel dinesydd newydd fe fyddwch chi’n cael e-bost gan y Swyddfa Gartref yn rhoi gwybod i chi fod eich cais wedi cael ei gwblhau, ac ar yr un pryd bydd y Swyddfa Gartref yn anfon eich tystysgrif atom ni.

Trefnu a mynychu eich seremoni

Pan fyddwch chi’n derbyn eich e-bost cymeradwyo gan y Swyddfa Gartref, cysylltwch â ni er mwyn trefnu dyddiad ar gyfer eich seremoni.  

E-bost: citizenshipceremonies@wrexham.gov.uk

Nodwch rif ffôn ac fe gysylltwn ni â chi i drefnu eich seremoni.  Yna byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gyda dyddiad ac amser eich seremoni. 

Mae’n rhaid i chi fynychu seremoni os ydych chi dros 18 mlwydd oed ac yn y byw yn y DU.  Nid oes yn rhaid i blant o dan 18 mlwydd oed fynychu seremoni, ond mae croeso iddynt fynychu gyda chi os ydych chi eisiau nhw ddod gyda chi.  

Ni allwn archebu lle i chi mewn seremoni nes ein bod wedi derbyn eich tystysgrif gan y swyddfa gartref. 

Ynglŷn â seremonïau dinasyddiaeth

Beth sy’n digwydd mewn seremoni?

Mae’r seremoni yn dechrau gydag anerchiad i groesawu pawb. Yna byddwch yn cael eich gwahodd i dyngu llw neu gadarnhau eich teyrngarwch i’w Fawrhydi’r Brenin. 

Byddwch hefyd yn tyngu llw o ffyddlondeb i’r Deyrnas Unedig cyn cael eich cyflwyno gyda thystysgrif dinasyddiaeth a rhodd gan urddasolyn lleol.

Sut ydw i’n gwneud cais am ddinasyddiaeth?

Byddwch angen gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig trwy’r Swyddfa Gartref (adran o Lywodraeth y DU). Gallwch ddarganfod mwy am ddinasyddiaeth Brydeinig, yn ogystal â gwybod sut i wneud cais os ydych yn gymwys i wneud hynny, ar wefan Llywodraeth y DU.

Gall unrhyw ymgeisydd ddod i seremoni yn Wrecsam?

Gall. Mae unrhyw berson sy’n byw yn y DU yn gallu dewis i gael eu seremoni gyda ni. I wneud hynny, nodwch ‘Wrecsam’ fel eich lleoliad seremoni o ddewis ar eich ffurflen gais Swyddfa Gartref.

Mae’n rhaid i chi fynychu seremoni o fewn 90 diwrnod ar ôl derbyn cymeradwyaeth, neu fel arall fe fydd yn rhaid i chi wneud cais newydd.

Ffioedd

Seremoni ddinasyddiaeth grŵp

Nid oes unrhyw daliad ychwanegol am gymryd rhan mewn seremoni ddinasyddiaeth grŵp – mae’r gost wedi’i gynnwys yn y ffi i Swyddfa’r Gartref wrth wneud cais am ddinasyddiaeth.

Seremoni ddinasyddiaeth breifat

Os nad ydych chi’n gallu dod i seremoni grŵp ac yr hoffech chi drefnu seremoni breifat, codir ffi o £190.