Y ffordd fwyaf cyfleus a chost effeithiol o dalu Treth y Cyngor yw drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae talu drwy Ddebyd Uniongyrchol hefyd yn saff, gyda’r Gwarant Debyd Uniongyrchol yn diogelu taliadau, felly pe bai camgymeriad yn digwydd gyda’ch taliad, sydd yn annhebygol iawn, byddech yn cael ad-daliad ar unwaith.

Gallwch sefydlu taliadau Debyd Uniongyrchol ar gyfer Treth Gyngor ar-lein trwy FyNghyfrif.

Sefydlwch Debyd Uniongyrchol

Nodwch os ydych eisoes gyda Debyd Uniongyrchol yna bydd angen i chi cysylltu â'r tîm Dreth y Cyngor er mwyn ei diweddaru / addasu trwy counciltax@wrexham.gov.uk

Rydw i’n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn barod, oes angen i mi wneud unrhyw beth?

Os ydych yn talu eich Treth y Cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol yn barod, ‘does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Unwaith y mae taliad Debyd Uniongyrchol wedi ei drefnu, wnawn ni ddim ei ganslo oni bai fod eich banc yn dweud wrthym am wneud hynny.