Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol (ADY) os oes ganddi neu ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p’un ai yw’r anhawster dysgu neu anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu beidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY).

Beth rydym yn ei wneud

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae gwella canlyniadau a chodi dyheadau ein plant a’n pobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig (AAA)/ anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn flaenoriaeth uchel gennym.

Fel awdurdod lleol rydym yn gweithio gyda’n lleoliadau, ysgolion a cholegau i gefnogi plant a phobl ifanc gydag ADY.

Ein hamcanion fel darparwr addysg

Mae pob person yn cael ei werthfawrogi fel unigolyn

Dylid delio gydag amrywiol anghenion plant a phobl ifanc yn sensitif ac yn effeithiol. Rydym yn credu os yw pob plentyn yn derbyn cwricwlwm eang, cytbwys a gwahaniaethol mae hyn yn gwneud yn siŵr bod:

  • hunan-barch a hyder yn cael eu datblygu 
  • agwedd gadarnhaol yn cael ei datblygu

Disgyblion gydag ADY yn cael eu cynnwys yn llwyddiannus

O fewn ein hysgolion, mae pob athro yn athro pob disgybl. Mae hyn yn cynnwys disgyblion gydag ADY, yn ogystal â’r sawl ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl.

Hybu a chynnal dull ysgol gyfan ar gyfer lles

Mae’r dull hwn yn cydnabod y cysylltiadau cryf rhwng lles a deilliannau i’n plant a phobl ifanc.

Mae pob plentyn yn gyfartal, yn cael ei werthfawrogi ac yn unigryw

Rydym yn anelu i ddarparu amgylchedd ble mae pob disgybl yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu ffynnu. Byddwn yn ymateb i unigolion mewn ffyrdd sy’n cymryd i ystyriaeth eu hamrywiol brofiadau bywyd ac anghenion penodol.

Pob disgybl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu gorau

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysg sy’n caniatáu i holl ddisgyblion wneud cynnydd, fel eu bod yn:

  • dod yn unigolion hyderus sy’n byw bywydau llawn 
  • trawsnewid yn llwyddiannus i fod yn oedolyn

Addysg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn 

Rydym wedi ymrwymo i roi sylw i’r hyn sy’n bwysig i bob plentyn.

Hybu a chefnogi hawliau plant

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau hawliau pob plentyn, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Codau perthnasol

Pryd mae pob cod yn berthnasol?

Cod AAA

Ar gyfer achosion presennol AAA sydd heb gael eu trosi i’r system ADY newydd eto. 

Cod ADY

Ar gyfer achosion newydd ble mae anghenion plentyn neu berson ifanc wedi eu hystyried ers Ionawr 2022 neu ble mae proses drosi wedi digwydd ar gyfer y sawl oedd yn cael eu nodi yn flaenorol drwy’r Cod Ymarfer AAA.

Y Gwasanaeth Cynhwysiant

Mae ein Gwasanaeth Cynhwysiant yn gweithio gyda theuluoedd, ysgolion/lleoliadau ac asiantaethau proffesiynol i gefnogi plant a phobl ifanc gydag AAA/ADY

Mae’r gwasanaeth yn dilyn y fframwaith cyfreithiol presennol yng Nghymru sy'n cynnwys:

  • Cod Ymarfer AAA Cymru (2002)
  • Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (2018)
  • Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (2021)

Os oes gan eich plentyn Ddatganiad o AAA, mae’r cod ymarfer AAA yn berthnasol. Os ystyrir fod gan eich plentyn ADY, gyda CDU neu’n trawsnewid i CDU, yna mae’r Cod ADY yn berthnasol.

Mae pob un o’n hysgolion prif ffrwd yn anelu i ddarparu amgylchedd dysgu cynhwysol i blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw pob plentyn yn ffynnu mewn amgylchedd cynhwysol, prif ffrwd. Gall penderfyniad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gael ei wneud y byddai darpariaeth arbenigol yn ateb eu hanghenion yn well. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau ag adnoddau, ysgolion arbennig a cholegau arbennig.

Pa gymorth gallwn ni ei ddarparu? 

Ar gyfer holl ymholiadau sy’n ymwneud â’r gwasanaethau canlynol, cysylltwch ag ysgol eich plentyn i ddechrau.

Mae gan y Gwasanaeth Cynhwysiant amrywiaeth o dimau i helpu plant a phobl ifanc gydag AAA/ADY. Mae hyn yn cynnwys:

Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Beth ydym ni’n ei wneud? 

Rydym yn cefnogi’r system addysg gynhwysol llawn ble mae holl ddysgwyr yn cael cyfle i lwyddo. Yn y system hon mae gan ddysgwyr fynediad i addysg sy’n bodloni eu hanghenion ac yn caniatáu iddynt gymryd rhan, cael budd, a mwynhau dysgu.

Rydym yn rheoli ac yn cydlynu’r system ADY i blant a phobl ifanc rhwng 0 – 25 oed.

Rydym yn gweithio ag asiantaethau eraill i gefnogi ymarfer cynhwysol mewn ysgolion, ynghyd â chynnig cyngor a hyfforddiant mewn perthynas â phob agwedd ar gynhwysiant a’r ymateb graddedig i gefnogi dysgwyr gydag Anghenion Addysgol Arbennig.

Rydym yn gyfrifol am weinyddu a chydlynu’r dyletswyddau a roddir ar awdurdodau lleol yn unol â deddfwriaeth ADY

Mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau am ADY, sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol priodol (DDdP) a pharatoi a chynnal Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU).

Rydym yn cefnogi dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn annog cyfranogiad. Mae hyn yn cynnwys gwrando ar y plentyn, pobl ifanc a’u rhieni a chymryd eu barn i ystyriaeth. 

Pam fyddai fy mhlentyn yn cael ei atgyfeirio at y Gwasanaeth ADY

I nifer fechan o ddisgyblion, efallai na fydd y cymorth y maent yn ei gael yn yr ysgol yn ddigon i’w galluogi i wneud cynnydd digonol. Os yw cyfradd y datblygiad yn parhau i fod yn achos pryder sylweddol, er gwaethaf y ffaith fod yr ysgol wedi rhoi pob un o argymhellion asiantaethau allanol ar waith am gyfnod rhesymol o amser, mae’n bosibl y bydd yr ysgol yn penderfynu cyfeirio’r achos i ni (fel yr awdurdod lleol).  

Gyda phwy y byddwn ni’n gweithio? 
Rhieni a gofalwyr 

I gynnig cyngor ar yr ymateb graddedig i ADY a’r ddarpariaeth sydd ar gael mewn ysgolion. Rydym yn cefnogi rhieni drwy brosesau ystyried neu ailystyried yr awdurdod lleol a sicrhau eu bod wedi eu hysbysu’n llwyr, a’u bod yn:

  • deall unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud
  • deall eu hawliau i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC) 
  • yn ymwybodol o asiantaethau cymorth perthnasol
Disgyblion 

I sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael yn yr ysgolion i ddiwallu AAA disgyblion, a sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried drwy hyrwyddo arferion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Ysgolion 

I sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth, cyfathrebu’n effeithiol, yn gyson yn eu darpariaeth ac i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a staff ysgol.

Partneriaethau 

I gyfathrebu a chydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau addysg, gofal cymdeithasol, iechyd ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill er mwyn diwallu anghenion disgyblion unigol.

Y Gwasanaeth Seicoleg Addysg

Beth ydym ni’n ei wneud?

Rydym yn darparu gwasanaethau i ysgolion ac i blant/pobl ifanc rhwng 0-25 oed. 

Rydym yn defnyddio seicoleg ar gyfer:

  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc i hyrwyddo eu lles er mwyn eu galluogi i fod yn ddysgwyr llwyddiannus ochr yn ochr â’u cyfoedion.
  • Gweithio gydag athrawon, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i ganfod anghenion emosiynol, dysgu neu ddatblygiadol plentyn/ person ifanc, a sut i’w cefnogi nhw
  • Helpu i ddeall sut mae plant yn datblygu, pwysigrwydd eu lles emosiynol/cymdeithasol a chanfod sut y maent yn dysgu orau
Pam fyddai ysgol/rhiant yn gwneud cais i gynnwys seicolegydd addysg?

Gall plant a phobl ifanc dderbyn cymorth gan y gwasanaeth am lawer o wahanol resymau. Cyn cynnwys seicolegydd addysg, bydd yr ysgol yn trafod unrhyw bryderon gyda datblygiad, dysgu ac/neu les plentyn gyda’i rieni.

Os nad yw ysgolion neu golegau yn deall anghenion plentyn yn llawn, neu os oes pryder o ran cyfradd eu datblygiad neu gynnydd, gellir ystyried gwneud cais i gynnwys seicolegydd addysg – cyn belled â bod y rhieni wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig i wneud hynny.

Gyda phwy y byddwn ni’n gweithio? 

Mae Seicolegwyr Addysg yn gweithio gyda disgyblion, rhieni/gofalwyr, staff yr ysgol ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol. Mae eu gwaith yn cynnwys:

  • Casglu gwybodaeth gyda’r disgybl, ei rieni a’i athrawon gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys ymgynghori ac arsylwi. 
  • Gweithio’n uniongyrchol gyda’r disgyblion – gallai hyn gynnwys archwilio eu lles cymdeithasol ac emosiynol gyda nhw neu asesu eu hanghenion dysgu.
  • Gweithio’n uniongyrchol â Chydlynwyr ADY, athrawon a chymorthyddion addysgu.
  • Gweithio gydag ysgolion a cholegau i olrhain cynnydd disgybl neu grwpiau o ddisgyblion – gallai hyn gynnwys gweithio gydag unigolion, grwpiau, dosbarthiadau neu ddulliau ysgol gyfan.
  • Cydweithio ag asiantaethau eraill megis Swyddogion Cynhwysiant, y Tîm Cymorth Ymddygiad, Gweithwyr Cymdeithasol Addysg, Y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a Therapyddion Lleferydd ac Iaith. 
  • Darparu pecynnau hyfforddiant i staff ysgolion, megis Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (CCU), y Rhaglen Cefnogi Myfyrwyr (RhCM) neu hyfforddiant Cymhorthydd Cefnogi Llythrennedd Emosiynol (ELSA). 
  • Cyfrannu i ymgynghoriad wythnosol ynghyd â’r gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) a staff yr ysgol

Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar

Beth ydym ni’n ei wneud?

Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau i gefnogi plant yn y Blynyddoedd Cynnar. Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • gefnogi lleoliadau gofal plant ac addysg drwy ddarparu cyrsiau hyfforddi ar anghenion dysgu ychwanegol a gofynion tribiwnlys addysgol
  • gynnal ymweliadau i uwchsgilio ymarferwyr sy’n gweithio yn y maes blynyddoedd cynnar.
  • gefnogi trosglwyddiadau wrth i blant symud ymlaen i’r ysgol
  • ddarparu cefnogaeth unigol ar gyfer plant y blynyddoedd cynnar drwy ddarparu ymweliadau arsylwi, ac adroddiadau gydag awgrymiadau o strategaethau.
  • gefnogi rhieni a gofalwyr gyda chyngor a chyfarwyddyd

Ein nod bob amser yw cefnogi adnabod anghenion dysgu ychwanegol drwy hyfforddiant ac ymweliadau. Rydym yn anelu i ymyrryd mewn ffordd gefnogol, sensitif a dargedwyd i gefnogi pob plentyn unigol i fodloni eu potensial a chael y siawns gorau o lwyddiant pan fyddant yn symud ysgol.  

Pam fyddai fy mhlentyn yn cael ei atgyfeirio i Wasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Y Blynyddoedd Cynnar?

Mae rhieni, gweithwyr iechyd proffesiynol neu ymarferwyr lleoliad yn gallu gwneud cais am atgyfeiriad os oes ganddynt bryderon am ddatblygiad plentyn. 

Cyn gwneud cais, bydd y maes sy’n peri pryder wedi cael ei drafod gyda rhiant/gofalwr y plentyn a bydd wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig priodol. Bydd y pryder hefyd wedi’i godi gyda’r ymgynghorydd Tîm Gofal Plant neu Ddechrau’n Deg/addysg, yn y lle cyntaf.

Yn Wrecsam, rydym yn annog pob lleoliad addysgol a gofal plant i ddilyn Map Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar Wrecsam a dogfennau strategol cefnogol sydd ar gael i holl leoliadau ac ymarferwyr. 

Mae’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar hefyd yn darparu cymorth wedi’i dargedu i blant cyn-ysgol, eu teuluoedd ac ymarferwyr lleoliadau pan fo plentyn eisoes wedi dangos ADY.

Gyda phwy y byddwn ni’n gweithio? 

Rydym yn gweithio gyda phlant, rhieni/gofalwyr, ymarferwyr lleoliad ac ystod o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithio gyda gweithwyr addysgol proffesiynol i ganfod strategaethau i helpu’r plentyn yn y lleoliad
  • rhannu sgiliau a hyfforddiant gydag ymarferwyr i annog nodi anghenion ychwanegol yn fuan ac atal datblygiad pellach.
  • ymweliadau cartref sy’n defnyddio ‘egwyddorion Portage’ i gefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd yn eu cartrefi 
  • ymyrraeth ar sail chwarae unigol
  • meddwl sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i ganfod angen y plentyn a chynllunio’r camau nesaf gyda rhieni ac ymarferwyr 
  • arsylwi lleoliadau i ganfod beth sy’n gweithio a’r ffyrdd gorau o helpu’r plentyn
  • mwy o gymorth pontio o’r cartref/lleoliad i addysg
  • gwaith amlasiantaeth i gefnogi’r plentyn, y teulu a’r lleoliad addysg

ANEW (Tîm Cymorth Ymddygiad)

Beth ydym ni’n ei wneud?

Rydym yn anelu i gynyddu gallu o fewn ysgolion i helpu plant ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol cymhleth, hyrwyddo eu lles a chael gwared ar rwystrau i ddysgu.

Rydym yn gweithio gyda phlant o oed derbyn hyd at Flwyddyn 7 (tan ddiwedd tymor yr hydref). Mae cymorth ar gael i ddisgyblion Blwyddyn 7 os oes angen (bydd rhaid iddynt fod wedi cael cysylltiad blaenorol â’r tîm).

Rydym yn cynnig cyngor i ysgolion ynglŷn â: strategaethau ymyrraeth gynnar, yr Ymateb Graddedig, creu targedau Cynlluniau Addysg Unigol ‘CAMPUS’ (penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, perthnasol ac amserol) a chynlluniau ailintegreiddio yn dilyn gwaharddiadau cyfnod penodol.

Pam fyddai fy mhlentyn yn cael ei atgyfeirio at y Tîm Cymorth Ymddygiad ANEW?

Mae rhai plant angen cymorth ychwanegol gyda materion fel hunan-barch, dicter, rheoli emosiynau, gorbryder, galar/colled, pontio, sgiliau cymdeithasol, empathi ac ymddygiad peryglus.

Os oes gan ysgolion bryderon am anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol plentyn, gallant wneud cais i gynnwys y Tîm Cymorth Ymddygiad ANEW. Bydd hyn ond yn cael ei wneud os bydd rhieni wedi rhoi cydsyniad priodol. Os bydd angen, gall y tîm gynnal arsylwadau a llunio adroddiad sy’n amlinellu’r camau nesaf/argymhellion.

Gyda phwy y byddwn ni’n gweithio? 
Staff ysgolion

I ddatblygu strategaethau effeithiol a chyson i reoli anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol cymhleth.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda staff yr ysgol i hwyluso ymyriadau a chefnogi rhaglenni sy’n gwella llythrennedd emosiynol plant (fel y Rhaglen Cefnogi Myfyrwyr neu Fun Friends).

Staff cefnogi 

I’w helpu i ddatblygu strategaethau cyson i reoli ymddygiadau heriol drwy fodelu, mentora a hyfforddi.

Plant 

Darparu rhaglenni penodol wedi eu teilwra ar gyfer anghenion unigol. Rydym hefyd yn gweithio gyda grwpiau o blant, mewn grwpiau trawsnewid fel enghraifft.

Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Beth ydym ni’n ei wneud?

Rydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, ysgolion ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol i hyrwyddo safonau uchel o bresenoldeb, ymgysylltiad a chyrhaeddiad mewn addysg. 

Rydym yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i wella gallu ysgolion i ateb anghenion disgyblion o’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Rydym yn gwneud hyn i fwyhau eu potensial dysgu i sicrhau deilliannau da, tra’n ystyried eu hanghenion diwylliannol. 

Mae dadansoddi data presenoldeb yn llunio sylfaen ar gyfer system agored a theg o gymorth i ddisgyblion ac ysgolion yn Wrecsam, er mwyn gwella cyrhaeddiad. 

Rydym hefyd yn darparu cyngor a hyfforddiant arbenigol, hyddysg a chyfredol. 

Gyda phwy y byddwn ni’n gweithio? 
  • Plant a phobl ifanc
  • Rhieni a gofalwyr
  • Staff mewn lleoliadau addysgol
  • Staff o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiant a gwasanaethau addysg eraill 
  • Staff o adrannau eraill o fewn yr awdurdod lleol (fel cludiant)
  • Staff o asiantaethau cymorth eraill (gan gynnwys asiantaethau iechyd)
  • Staff o asiantaethau’r trydydd sector

Gwasanaeth Cymorth Llythrennedd

Beth ydym ni’n ei wneud?

Rydym yn wasanaeth allgymorth sy’n cynnig cymorth i blant sydd i’w gweld yn cael trafferth benodol gydag ennill sgiliau llythrennedd gweithredol, o’i gymharu â’u gallu mewn meysydd gwybyddol eraill. Rydym yn gweithio gyda phlant oed cynradd o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6.

Rhaid i'r disgyblion ddiwallu’r meini prawf atgyfeirio er mwyn cael eu derbyn i gael cymorth drwy’r gwasanaeth hwn. Yn dilyn atgyfeiriad llwyddiannus, bydd disgyblion yn cael eu hasesu. Os yw’n briodol, byddant yn derbyn ymyrraeth ddysgu a dargedwyd. Bydd rhai disgyblion hefyd yn cael eu monitro am gyfnod o dymor.

Yn ogystal â chynnig cymorth a chyngor i ddisgyblion unigol, rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i rannu sgiliau a hyfforddiant i staff ysgolion. 

Pam fyddai fy mhlentyn yn cael ei atgyfeirio at y Gwasanaeth Cymorth Llythrennedd?

Mae rhai plant yn dangos gallu yn y mwyafrif o feysydd dysgu, ond fod eu sgoriau asesu darllen ac/neu sillafu yn araf iawn yn datblygu mewn perthynas â'u gallu gwybyddol cyffredinol. 

Byddai disgyblion sy’n cael eu derbyn gan y gwasanaeth yn dangos sgoriau cywirdeb darllen ac/neu sillafu sydd ymhell o dan y lefel gyfartalog.

Cyn cyflwyno atgyfeiriad (gyda chydsyniad rhieni) mae’n rhaid i ysgolion ddangos sut maent wedi ymdrechu i wella cynnydd y disgybl. Mae’n rhaid iddynt fod wedi gwneud hyn drwy ddefnyddio ystod o adnoddau ac ymyrraeth briodol yn yr ysgol dros o leiaf dau dymor. Mae’n ofynnol iddynt gyflwyno data dysgu a chynnydd perthnasol, wedi’i fonitro dros gyfnod o leiaf dau dymor. Mae’n rhaid i’r monitro hwn gynnwys targedau penodol, mesuradwy, cyfiawnadwy, perthnasol ac amserol (CAMPUS). 

Gyda phwy y byddwn ni’n gweithio? 
Staff ysgolion

Mae hyn yn cynnwys y Cydlynydd ADY, athro dosbarth a gweithiwr allweddol a nodwyd. Trafodir adroddiad asesu’r plentyn a bydd rhaglen waith briodol yn cael ei sefydlu.

Rhieni/Gofalwyr 

Byddwn yn sicrhau bod yr ysgol yn gwahodd rhieni i unrhyw adolygiadau dros dro a therfynol, er mwyn rhoi'r holl wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gynnydd y plentyn. Gellir darparu rhaglenni gwaith ac adnoddau i rieni ar gais.

Asiantaethau eraill ble bo’n briodol 

Gallai rhai disgyblion sy’n cael cymorth gan y gwasanaeth hefyd fod â chysylltiad ag asiantaethau eraill (fel y gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol, y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Gwasanaeth Cymorth Synhwyrol Gogledd Ddwyrain Cymru). 

Lle bo angen, byddwn yn cymryd rhan mewn adolygiadau amlasiantaeth neu’n cynnal ymweliadau ar y cyd (os ystyrir fod hynny’n briodol). 

Gwasanaeth Allgymorth Iaith a Lleferydd

Mae’r gwasanaeth Allgymorth Iaith a Lleferydd yn wasanaeth ar y cyd rhyngom ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n wasanaeth sy’n seiliedig yn yr ysgol a ddarperir gan therapyddion lleferydd ac iaith a chydlynwyr allgymorth iaith.

Beth ydym ni’n ei wneud?

Rydym yn helpu plant a phobl ifanc gydag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu penodol, drwy gydweithio â’r gwasanaethau iechyd (therapi lleferydd ac iaith). 

Gallwn gynnig ymyrraeth wedi’i thargedu i blant ag anghenion lleferydd, iaith ac/neu gyfathrebu pan gânt eu hatgyfeirio atom. 

Rydym hefyd yn cynnig cyngor, cymorth a chyfleoedd hyfforddi a rhannu sgiliau i ysgolion a lleoliadau.

Pam fyddai fy mhlentyn yn cael ei atgyfeirio at y Gwasanaeth Allgymorth Iaith a Lleferydd?

Efallai eich bod chi neu athro dosbarth eich plentyn wedi codi pryderon am agweddau allweddol ar ddatblygiad lleferydd ac iaith eich plentyn gydag adran therapi lleferydd ac iaith GIG Wrecsam. 

Byddai therapydd lleferydd wedi cynghori bod angen cefnogaeth bellach (o bosibl yn dilyn asesiad). Byddai therapydd arbenigol lleferydd ac iaith wedi cynnal asesiad iaith a lleferydd arbenigol gyda’ch plentyn. 

Byddai’r asesiad hwn wedi nodi y byddai'ch plentyn chi'n elwa ar ddull arbenigol dwys o therapi lleferydd ac iaith, (a hynny yn eu lleoliad ysgol brif ffrwd).  

Gyda phwy y byddwn ni’n gweithio? 
Plant  

Plant sydd wedi cael cyngor gan y Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith yn nodi eu bod yn dod o fewn y categori o ddisgyblion sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith penodol sydd angen dull dwys o therapi lleferydd ac iaith yn eu lleoliad ysgol arferol.

Rydym hefyd yn gweithio gydag athro dosbarth y plentyn, gweithiwr allweddol yr ysgol ac/neu’r Cydlynydd ADY a’r rhieni i drafod cynnydd/camau nesaf.

Gwasanaeth Cymraeg/Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL)

Beth ydym ni’n ei wneud?

Rydym yn dîm o athrawon a chymorthyddion addysgu arbenigol, sy’n cynnwys aelodau tîm dwyieithog, all gynnig cymorth i ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig nad yw Saesneg  na Chymraeg yn iaith gyntaf iddynt.

Rydym yn cydweithio ag ysgolion i gynnig cymorth i ddatblygu iaith y disgyblion a mynediad i’r cwricwlwm.

Rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant i ddatblygu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gallu ysgolion i ddarparu ar gyfer y disgyblion.

Gyda phwy y byddwn ni’n gweithio? 

Rydym yn gweithio gydag ysgolion a disgyblion i:

  • asesu a chymedroli gallu iaith y disgyblion gan ddefnyddio Arolwg Asesiad o Anghenion, model 5 cam Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael iaith a drwy fonitro cynnydd.
  • nodi targedau priodol gyda’r athro dosbarth/pwnc
  • darparu hyfforddiant a chyngor i ysgolion a gwasanaethau ac asiantaethau eraill ar arferion da a strategaethau dosbarth
  • cynnig cyfleoedd a chymorth gydag arholiadau TGAU iaith gyntaf
  • helpu ysgolion a gwasanaethau eraill mewn cyfarfodydd â theuluoedd lle bo hynny'n bosib
  • darparu ymyriadau tymor byr ar gyfer disgyblion y nodwyd eu bod yn diwallu’r meini prawf am gymorth

Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWSSS)

Beth ydym ni’n ei wneud?

Mae Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWSSS) yn wasanaeth rhanbarthol sy’n helpu plant/pobl ifanc sydd â nam ar eu clyw neu eu golwg, yn ogystal â’u teuluoedd a’u hysgolion. Arweinir y gwasanaeth ar y cyd hwn gan Gyngor Sir y Fflint a chaiff ei ddarparu ar hyd a lled Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.  

Gyda phwy y byddwn ni’n gweithio? 

Mae’r tîm yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc (rhwng 0 a 19 oed) â nam sylweddol ar y synhwyrau.

Mae’r tîm hefyd yn:

  • darparu cymorth i deuluoedd y plant a phobl ifanc hyn.
  • helpu ysgolion ac asiantaethau eraill i ddiwallu anghenion unigol y plant a phobl ifanc hyn. 

Dolenni perthnasol