Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol (ADY) os oes ganddi neu ganddo anhawster neu anabledd dysgu (boed yr anhawster neu anabledd dysgu’n deillio o gyflwr meddygol neu beidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Newidiadau i’r system

Mae’r system i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig wedi dechrau newid.

Trosolwg o’r newidiadau

  • Mae newidiadau’n cael eu gwneud dros dair blynedd
  • Ers mis Medi 2021, mae’r term ‘anghenion dysgu ychwanegol’ (ADY) wedi disodli’r term ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) a’r term ‘anawsterau ac anableddau dysgu’ (AAD).
  • Mae pwyslais ar uchelgeisiau mawr a gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc sydd ag ADY
  • Bydd y system ADY yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag anghenion sy’n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut a phryd y bydd plant nad oeddent wedi’u cynnwys yn y trefniadau yn ystod blwyddyn gyntaf ei gweithredu, yn symud i’r system ADY newydd:

I rieni a theuluoedd: 

Llywodraeth Cymru: Gweithredu’r system anghenion dysgu ychwanegol rhwng Medi 2021 ac Awst 2024: canllaw i rieni a theuluoedd (dolen gyswllt allanol)

I blant a phobl ifanc:

Llywodraeth Cymru: Symud i’r system anghenion dysgu ychwanegol: gwybodaeth i blant (dolen gyswllt allanol)
Llywodraeth Cymru: Gwybodaeth ynghylch pa bryd y bydd pobl ifanc yn symud i’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) (dolen gyswllt allanol)

Mae’r canllaw hwn yn cefnogi rhieni a theuluoedd i ddeall eu hawliau dan y system ADY:

Llywodraeth Cymru: Canllaw i rieni am hawliau o dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) (dolen gyswllt allanol)

Mae mwy o wybodaeth am ADY ar gael yn:

Llywodraeth Cymru: Anghenion Dysgu Ychwanegol (dolen gyswllt allanol)

Lle cyfeirir atom ‘ni’ ar y dudalen hon, mae’n sôn am Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei rôl fel awdurdod lleol.

Pennu ADY ar wahanol gamau

Y Blynyddoedd Cynnar

Os yw'n cael ei bennu bod gan blentyn nad yw o oedran ysgol gorfodol eto ADY, rydym ni (fel yr awdurdod lleol) yn gyfrifol am drefnu darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) ac ysgrifennu eu Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae gennym ni Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar ac mae modd cysylltu â nhw am gyngor a chefnogaeth.

Disgyblion o oedran ysgol

Ar gyfer plant sydd o oedran ysgol gorfodol, yr athro/athrawes dosbarth neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yw’r pwynt cyswllt cyntaf. Byddant yn gallu gwrando ar eich pryderon ac, ar gais, yn dechrau ystyried a oes gan eich plentyn ADY

Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud o fewn 35 diwrnod ysgol, oni bai fod yr ysgol angen asesiad arbenigol pellach drwyddo ni neu wasanaethau iechyd. Os oes angen asesiad arbenigol pellach, efallai y bydd angen 12 wythnos arall.

Sefydliadau addysg bellach (SAB)

Bydd anghenion pobl ifanc sydd ag ADY sy’n mynd i SAB yn cael eu dynodi gan ddarparwr y SAB yn y lle cyntaf. Mewn nifer bach o achosion cymhleth iawn, efallai bydd y SAB yn atgyfeirio person ifanc (gyda’u caniatâd nhw) atom ni am fwy o gyngor a chefnogaeth.

Eglurhad o dermau sy’n gysylltiedig ag ADY

Darpariaeth gyffredinol

I’r mwyafrif o blant a phobl ifanc, mae modd diwallu eu hanghenion drwy addysg o safon. Dylai pob sefydliad addysgol gynnig addysgu gwahaniaethol neu gefnogaeth arall wedi’i thargedu i helpu disgyblion i wneud cynnydd, lle bo hynny'n briodol. 

Mae darpariaeth gyffredinol ar gael yn arferol i bob plentyn a pherson ifanc. Efallai y bydd yn cael ei darparu i ddosbarth cyfan, grŵp bach neu unigolion. Mae’n cael ei monitro a’i goruchwylio yn unol â gweithdrefnau’r ysgol a gallai fod yn ddarpariaeth tymor byr neu hirdymor.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)

Bydd gan nifer bach o blant a phobl ifanc ADY, sy’n gofyn am DDdY. Mae DDdY yn ychwanegol at neu’n wahanol i ddarpariaeth addysgol neu hyfforddiant, sydd ar gael yn gyffredinol i bawb. 

Os nad yw plentyn neu berson ifanc yn ymddangos fel eu bod yn gwneud cynnydd, efallai bod angen DDdY. Bydd hyn yn cynnwys dynodi anghenion y disgybl mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a gallai arwain at gynnig darpariaeth amgen a gwell i gefnogi’r disgybl i wneud cynnydd. Mae plant a phobl ifanc sy’n cael DDdY yn cael eu cyfrif fel rhai sydd ag ADY a bydd angen CDU ar eu cyfer.

Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)

Mae’r CDUau yn disodli’r datganiadau o AAA ac, mewn rhai achosion, Cynlluniau Addysg Unigol. Bydd y cynlluniau hyn yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac efallai'n cynnwys sawl asiantaeth, gan sicrhau bod y plentyn neu’r person ifanc wrth galon proses gynllunio eu darpariaeth.

Pwrpas y CDU

Mae plant a phobl ifanc yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd a gall eu hanghenion newid dros amser. Mae CDU yn darparu proses barhaus o: 

  • ddynodi anghenion a darparu gwahanol gefnogaeth yn ôl yr angen
  • rhannu gwybodaeth
  • cynllunio, gweithredu ac adolygu cynnydd

Yn dibynnu ar gynnydd unigol eich plentyn, mae modd cynyddu, lleihau neu newid y gefnogaeth maent yn ei chael dros amser. Mae hyn yn golygu gallu edrych eto ar benderfyniadau a chamau blaenorol, eu mireinio a'u hadolygu i helpu i gael gwell dealltwriaeth o’ch plentyn. Mae’n eu cefnogi hefyd i wneud cynnydd a'u helpu i wireddu eu gobeithion a'u dyheadau.

Cyflwyno CDUau

Bydd CDUau yn cael eu cyflwyno gam wrth gam, yn dilyn amserlen Llywodraeth Cymru, wrth adolygu datganiadau a Chynlluniau Addysg Unigol cyfredol. Bydd cynlluniau’n cael eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn, ac yn cael eu creu gyda’r plentyn neu’r person ifanc, a’u rhieni/gofalwyr neu eiriolwr. Mae posib’ eu hadolygu os yw'r wybodaeth neu'r anghenion yn newid hefyd, ar gais y plentyn, person ifanc neu riant/gofalwr.
    
Dyluniwyd y CDUau hyn i amlinellu ADY plentyn neu berson ifanc, eu dyheadau a thargedau i gyflawni’r rhain. Mae angen CDU ar unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn DDdY

Penderfyniadau y gallwch ofyn iddynt gael eu hailystyried

Gall rhieni a phobl ifanc wneud cais i ailystyried rhai penderfyniadau maent yn anghytuno â nhw:
1.    ailystyried a oes gan blentyn ADY ai peidio
2.    ailystyried CDU ysgol gyda’r bwriad o’i adolygu
3.    pennu a ddylem ni gymryd cyfrifoldeb dros gynnal CDU
4.    ailystyried penderfyniad ysgol i orffen cynnal CDU

Cyfrifoldebau dros gynnal CDU

Bydd y rhan fwyaf o’r CDUau yn cael eu hysgrifennu a’u cynnal gan ysgolion. Fodd bynnag, mewn rhai achosion cymhleth, gall ysgolion ofyn i ni ystyried anghenion y plentyn neu’r person ifanc. Os daw i’r amlwg bod yr anghenion yn rhai cymhleth ac angen sylw arbenigol, efallai y byddwn yn ysgrifennu ac yna'n cyfarwyddo’r ysgol i gynnal y cynllun, neu’n ei gynnal ein hunain.

Fe fyddwn ni’n ysgrifennu ac yn cynnal CDUau i blant nad ydynt o oedran ysgol gorfodol, ac nad ydynt yn mynd i ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol, sydd ag ADY ac angen CDU (drwy Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar). 

Mewn achosion o ADY ôl-16, bydd y darparwr addysg ôl-16 yn ysgrifennu ac yn cynnal y CDU yn y mwyafrif o achosion, ond yn atgyfeirio rhai atom ni os oes ADY cymhleth neu luosog. Dim ond pan na fyddai’n rhesymol i ddarparwr addysg ôl-16 gynnig y ddarpariaeth y byddai hyn yn digwydd. 

Rydym ni’n gyfrifol am ysgrifennu a chynnal CDU ar gyfer disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref, plant sy'n derbyn gofal, a disgyblion sydd wedi'u cofrestru mewn dau le sydd wedi’u dynodi ag ADY.

Dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ganolog i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru. Maent yn canolbwyntio ar roi’r plentyn neu'r person ifanc wrth galon y broses o ddynodi eu hanghenion, cynllunio eu darpariaeth ac adolygu hyn.

Ethos cyffredinol ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn rhan o:

  • ddynodi beth sy’n bwysig iddyn nhw
  • cynllunio eu darpariaeth ac amlinellu eu gobeithion a’u dyheadau
  • egluro sut maent yn dymuno gwireddu eu gobeithion a’u dyheadau

Dylai adolygiadau CDU gael eu cynnal mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a gall ysgol eich plentyn ddarparu gwybodaeth neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch hyn.

Beth i’w wneud os nad ydych chi'n hapus â phenderfyniad

Gofyn am ei ailystyried

Os nad ydych yn hapus â phenderfyniad ysgol wrth ystyried ADY, gallwch ofyn i ni ailystyried y penderfyniad hwn. 

Cyn cysylltu â ni, byddem yn argymell eich bod yn trafod eich pryderon gydag ysgol eich plentyn. Ar ôl trafod, os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch gysylltu â ni i ofyn am ailystyried y penderfyniad drwy anfon e-bost at ALN@wrexham.gov.uk

Gall y cyfnod ailystyried gymryd hyd at saith wythnos. Wrth ailystyried, byddwn yn adolygu’r wybodaeth a ddefnyddiwyd gan yr ysgol i wneud eu penderfyniad. Byddwn wedyn yn pennu a ydym yn cytuno neu’n anghytuno â phenderfyniad yr ysgol. Os ydym yn anghytuno, gallwn gyfarwyddo’r ysgol i un ai ysgrifennu a chynnal CDU ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, neu ddiwygio’r fersiwn gyfredol.

Apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru

Os nad ydych chi’n fodlon â phenderfyniad rydym ni wedi’i wneud am ADY, mae gennych hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru. 

Mae’n rhaid gwneud unrhyw apêl erbyn y diwrnod gwaith cyntaf o fewn wyth wythnos i’n penderfyniad ni. Os byddwch yn defnyddio’r gwasanaethau datrys anghydfod sydd wedi’u nodi isod, mae’r amserlen apelio’n cael ei hymestyn wyth wythnos arall.

Datrys anghydfod

Os ydych eisiau cyngor, arweiniad a chymorth annibynnol, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol gan SNAP Cymru. 

Mae Gwasanaeth Datrys Anghytundebau hefyd ar gael gan SNAP Cymru. Gallwch gael gwybodaeth gan eich cydlynydd dynodedig neu drwy gysylltu â SNAP Cymru yn uniongyrchol ar DRS@snapcymru.org.

Cwestiynau cyffredin am ADY

Beth yw ADY?

Mae hyn yn golygu bod un o’r canlynol yn berthnasol i blentyn neu berson ifanc:

  • yn ei chael yn llawer anoddach dysgu na mwyafrif y plant neu’r bobl ifanc eraill o'r un oedran
  • ag anabledd dysgu sy'n eu hatal neu'n eu rhwystro rhag gwneud defnydd o gyfleusterau addysgol sydd fel arfer yn cael eu darparu ar gyfer plant neu bobl ifanc o'r un oedran mewn ysgolion
  • yn iau nag oedran ysgol gorfodol ac yn disgyn o fewn y categorïau uchod, neu fe fyddent yn gwneud hynny pe na fyddai DDdY ar gael iddynt.

Beth ddylwn ei wneud os wyf yn meddwl bod gan fy mhlentyn ADY?

Os ydych chi’n meddwl bod gan eich plentyn ADY, cysylltwch ag ysgol eich plentyn i gael sgwrs â’r athro dosbarth, y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY) neu’r Pennaeth. Fe fyddant yn gwrando ar eich pryderon gyda chydymdeimlad ac yn trafod y materion y byddwch chi’n eu codi.

Gallwch ofyn sut mae’r ysgol yn cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY a bydd y wybodaeth hon hefyd ar gael ym Mholisi AAA neu ADY yr ysgol. Os ydych chi’n teimlo nad yw Polisi AAA neu ADY yr ysgol yn effeithiol ar gyfer eich plentyn chi, gallwch godi’r pryderon hyn gyda Phennaeth eich plentyn.
 

Os oes gan fy mhlentyn ADY, ydy hynny’n golygu bod arnynt angen datganiad neu Gynllun Datblygu Unigol?

Dim ond canran fechan o blant a phobl ifanc sydd ag ADY fydd angen CDU.

Mae Cod CDU Cymru’n cynnwys dull a chamau i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd ag ADY. Ymateb graddedig yw’r enw ar y dull o egluro sut rydym yn diwallu anghenion eich plentyn.

Mae gofyn i ysgolion fabwysiadu ymateb graddedig i ADY, sy’n cynnwys amrywiaeth o strategaethau a gwahanol lefelau o ymyrraeth. 

Yn rhan o’r ymateb graddedig i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd ag ADY, dim ond y rhai sy’n cael darpariaeth ADY sy’n cael eu cyfrif fel rhai sydd ag ADY ac angen CDU.

Cyfrifoldebau’r ysgol

Fel rhiant, dylech chi gael gwybod gan yr ysgol os oes gan eich plentyn ADY a sut y mae’r anghenion hyn yn cael eu diwallu. Ysgolion sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth gyffredinol a’r ddarpariaeth gyffredinol wedi’i thargedu a hefyd y ddarpariaeth ADY mewn sawl achos. Mae cyfrifoldeb ar yr ysgol i roi gwybod i rieni/gofalwyr a’u cynnwys wrth gynllunio ar gyfer ADY eu plentyn a’u diwallu.

Creu CDU

Ar ôl dynodi bod gan eich plentyn ADY, bydd cyfarfod yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei gynnal i drafod eu hanghenion a bydd CDU yn cael ei greu. Bydd hwn yn cynnwys targedau i’w cyflawni a sut y byddant yn cael eu cyflawni.

Fel rhiant, fe gewch gopi o’r CDU a dylech chi gyfrannu iddo. Dylai cynnydd eich plentyn gael ei fonitro a’r CDU gael ei adolygu’n rheolaidd; mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn eu hadolygu unwaith y flwyddyn yn ffurfiol, ond yn aml yn fwy cyson. Bydd yr ysgol bob amser yn gofyn i chi am eich barn ac yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr adolygiadau.

Gofyn i ni ystyried ADY eich plentyn (os oes angen)

Os yw’r ysgol yn teimlo na allant ddiwallu anghenion eich plentyn gyda’u hadnoddau eu hunain a’r adnoddau sydd ar gael iddynt gan y gwasanaethau cynnal, byddant yn siarad â chi ynglŷn â gwneud cais i ni ystyried ADY eich plentyn. 

Pan fyddwn ni’n ystyried ADY plentyn, efallai y byddwn yn gweithio gydag asiantaethau eraill ac yna gyda’r ysgol i ailddatblygu’r CDU ar sail pethau newydd sydd wedi’u dysgu drwy’r broses hon. 

Cynnal CDU

Mae’r rhan fwyaf o’r CDUau yn cael eu cynnal gan ysgolion. Er hynny, efallai fod gan nifer bach o ddisgyblion ADY cymhleth neu ddwys iawn. Os felly, efallai y bydd gofyn i ni ystyried cynnal y CDU ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

Os oes gan fy mhlentyn ADY, fydd angen iddynt fynd i ysgol arbennig?

Dim ond canran fach o blant ag ADY fydd angen mynd i ysgol arbennig. Mewn nifer o achosion, gall plant barhau mewn ysgolion prif ffrwd, lle byddant yn cael y cymorth ychwanegol mae arnynt ei angen i ddiwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Beth yw adolygiad blynyddol?

Bydd CDU eich plentyn yn cael ei adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn. Diben yr adolygiad yw edrych ar y cynnydd a wnaed dros y deuddeng mis blaenorol mewn perthynas â’r amcanion yn y CDU.

Bydd yr adolygiadau hyn yn cael eu dwyn ynghyd gan yr ysgol a gall gwasanaethau eraill gael eu gwahodd iddynt os yw hynny’n briodol (gwasanaethau iechyd neu wasanaethau ein hawdurdod lleol, er enghraifft). 

Pan fydd yr adolygiad blynyddol wedi’i gwblhau, bydd priodoldeb y CDU yn cael ei ystyried yn sgil cyflawniadau eich plentyn. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud wedyn i newid, cynnal neu roi terfyn ar y CDU.

Cysylltu â’n Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg

E-bost: ALN@wrexham.gov.uk 

Neu, gallwch ysgrifennu at:
Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Goron 
Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG