Rydym yn codi premiwm ychwanegol o 50% ar eiddo gwag hirdymor ac eiddo a ddosberthir yn ail gartrefi, er mwyn dod a thai gwag yn ôl i ddefnydd a chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.
Eiddo gwag hirdymor yw:
Eiddo sydd yn wag a heb fawr ddim dodrefn ynddo am gyfnod parhaus o leiaf blwyddyn.
Ail gartref yw:
Annedd sydd ddim yn unig neu’n brif breswylfa i rywun ac sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol.
Eithriadau:
Ar 1 Ebrill 2017 penderfynodd y Cyngor godi premiwm o 50% ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Mae nifer o eithriadau:
- Anheddau sy’n cael eu marchnata i’w gwerthu (cyfyngiad amser o flwyddyn)
- Anheddau sy’n cael eu marchnata i’w gosod (cyfyngiad amser o flwyddyn)
- Rhandai (anecs) sy’n ffurfio rhan o, neu’n cael eu trin fel rhan o’r brif annedd
- Annedd a fyddai’n brif breswylfa rhywun pe na baent yn byw mewn llety o eiddo’r lluoedd arfog
- Lleiniau carafanau/angorfeydd cychod sy’n cael eu defnyddio
- Tai tymhorol nad oes gan bobl hawl i fyw ynddynt drwy gydol y flwyddyn
- Anheddau cysylltiedig â swyddi .
Mewn rhai amgylchiadau eithriadol efallai na chodir premiwm arnoch.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y meini prawf i fod yn gymwys ar gyfer yr eithriadau uchod, ar gael ar dudalennau premiymau Treth y Cyngor Llywodraeth Cymru (dolen gyswllt allanol).