Mae gan bobl sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yr hawl i ofyn am adolygiad achos mewn amgylchiadau arbennig.

Mae’r broses ‘Sbardun Cymunedol’ (a elwir hefyd yn adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol) yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Defnyddir y Sbardun Cymunedol i adolygu achosion arbennig. Mae panel adolygu yn ystyried y camau a gymerwyd yn sgil adroddiad am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y nod yw sicrhau bod lefelau priodol o orfodaeth a chefnogaeth naill ai ar waith, neu wedi cael eu hystyried.

Pryd gellir defnyddio’r Sbardun Cymunedol?

Gellir defnyddio’r Sbardun Cymunedol os ydych (fel y dioddefwr) wedi gwneud y canlynol:

  • Cwyno i ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Heddlu Gogledd Cymru, landlord cofrestredig neu’r bwrdd iechyd, am o leiaf tri achos o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn cyfnod o chwe mis. 
  • Rhoi gwybod am bob un o’r achosion hyn o fewn mis i’r digwyddiad. 

Dylid defnyddio’r sbardun os ydych yn credu na ymdriniwyd â’ch cwyn yn briodol neu os ydych yn credu nad yw’r camau cywir wedi cael eu cymryd. Ni ellir defnyddio’r sbardun i roi gwybod am droseddau cyffredinol, gan gynnwys trosedd casineb neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Nid gweithdrefn gwyno yw adolygiad achos Sbardun Cymunedol. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am ymddygiad unigolyn, mae’n rhaid i chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno sefydliad arbennig yr unigolyn hwnnw. Mae gennym dudalen gwynion a chanmol os hoffech chi wneud cwyn yn ymwneud â’r cyngor.

Pwy sy’n gallu gwneud cais am Sbardun Cymunedol?

Gall unrhyw ddioddefwr sydd wedi rhoi gwybod am dri achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn cyfnod o chwe mis wneud cais am adolygiad achos.

Gall trydydd bartïon hefyd wneud cais am adolygiadau achos, megis:

  • Aelod San Steffan, Aelod y Senedd neu gynghorydd lleol 
  • Grŵp Cymunedol 
  • rhywun sy’n gofalu am unigolyn diamddiffyn neu unigolyn ag anableddau a fyddai’n eu hatal rhag gwneud y cais eu hunain.

Bydd yn rhaid i’r dioddefwr ddarparu caniatâd ysgrifenedig ar gyfer y trydydd parti i wneud hyn ar eu rhan.

Sut i wneud cais am Sbardun Cymunedol?

Gallwch wneud cais am adolygiad achos drwy lenwi ein ffurflen ar-lein a darparu’r manylion canlynol:

  • Dyddiadau’r cwynion yr ydych chi wedi’u gwneud i’r awdurdodau a restrir, neu ddyddiadau cwynion y dioddefwr os ydych yn gwneud cais fel trydydd parti
  • Manylion am ble/i bwy rydych wedi cwyno (enw, sefydliad, cyfeirnod), neu fanylion cwynion y dioddefwyr os ydych yn gwneud cais fel trydydd parti
  • Gwybodaeth am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol

Gwneud cais am adolygiad achos Sbardun Cymunedol

Gwneud cais am adolygiad achos Sbardun Cymunedol

Dechrau rŵan

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi wneud cais am Sbardun Cymunedol?

Bydd aelod o’n tîm diogelwch cymunedol yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais. Mae’n bosibl y byddant yn gofyn i chi am fanylion pellach lle bo angen, ac yn rhoi gwybod i chi p’un a fydd y cais yn mynd gerbron panel adolygu neu ddim.

Bydd panel o swyddogion o sefydliadau perthnasol yn adolygu eich achos, cyn belled â’i fod yn bodloni’r meini prawf a amlinellwyd. Bydd y panel yn ystyried y materion yr ydych wedi rhoi gwybod amdanynt a’r camau a gymerwyd. Byddant yn penderfynu p’un a oedd y camau a gymerwyd yn ddigonol neu ddim yn seiliedig ar ddisgwyliadau ac amserlenni rhesymol. Yn olaf, mae’n bosibl y byddant yn argymell y dylid cymryd camau pellach i geisio mynd i’r afael â’r broblem.  Bydd y panel adolygu yn cyfarfod ddim hwyrach na 28 diwrnod o’ch cais Sbardun Cymunedol.

Byddwn yn anfon ymateb atoch yn egluro’r cam a gymerwyd ac awgrymiadau ar sut i fynd i’r afael â’r ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Os, am unrhyw reswm, na fydd eich achos yn mynd gerbron panel adolygu, mae’n bosibl y bydd y materion yn cael eu hatgyfeirio at y sefydliad mwyaf priodol ar gyfer ystyriaeth bellach. Ni allwch wneud cais arall am adolygiad achos oni bai bod achosion newydd wedi dod i’r amlwg ers y rhoddwyd gwybod i chi na fyddai’r achos yn cael ei ystyried gan banel adolygu.

Cysylltwch â ni

Os nad ydych chi’n siŵr os yw eich achos yn briodol ar gyfer Sbardun Cymunedol, gallwch anfon e-bost at  communitysafety@wrexham.gov.uk am gyngor.