Os ydych yn trefnu digwyddiad y bydd y Maer yn bresennol ynddo, mae’r canllaw hwn yn amlinellu’r defodau y dylid cadw atynt.

Mae’n rhoi manylion sylfaenol sy’n caniatáu i chi, eich gwesteion a’r Maer ymlacio a mwynhau’r digwyddiad heb ormod o ffurfioldeb a ffwdan.                          

Blaenoriaeth – gan gynnwys lle y dylai’r Maer eistedd

Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, dylai’r Maer gael blaenoriaeth o fewn y Fwrdeistref Sirol – ac eithrio pan fo aelod o’r teulu Brenhinol neu’r Arglwydd Raglaw, fel cynrychiolydd y Frenhines, yn y Fwrdeistref Sirol.

Dylai’r Maer gael eistedd ar ochr dde nesaf y Cadeirydd, neu unigolyn arall sy’n llywyddu dros y digwyddiad. Dylai’r Faeres eistedd ar yr ochr dde nesaf at y Maer, neu ar ochr chwith y Cadeirydd. Dylid cadw at y flaenoriaeth hon nid yn unig wrth eistedd, ond hefyd wrth groesawu gwahoddedigion a gwneud cyflwyniadau.

Dylid rhoi’r un flaenoriaeth i’r Dirprwy Faer pan fydd yn dirprwyo ar ran y Maer.

O fewn y Fwrdeistref Sirol, mae’r Maer yn cael blaenoriaeth dros Weinidogion y Llywodraeth, Aelodau Seneddol (ASau) ac Aelodau Cynulliad (ACau).

Gwahodd y Faeres i ddigwyddiadau

Dylid gwahodd y Faeres i bob digwyddiad gyda’r Maer, oni bai y gwneir cais penodol yn nodi’n wahanol. 

Teitl cywir y Maer

Wrth ysgrifennu at y Maer, dylid cyfeirio’r llythyr at ‘Anrhydeddus Faer Wrecsam, Y Cynghorydd (ei enw)’

Dylai’r llythyr ddechrau gydag ‘Annwyl Mr Faer’ a gorffen gydag ‘Yn gywir’. 

Wyneb yn wyneb, dylid galw’r Maer yn ‘Mr Faer’ a’r Faeres yn ‘Fadam Faeres’. 

Presenoldeb mewn digwyddiadau

Bydd y Maer yn mynychu digwyddiadau oddeutu 5 munud cyn yr amser a nodwyd.

Gofalwch fod uwch gynrychiolydd o’ch sefydliad yn cyfarfod â’r Maer ac yn ei hebrwng i’w leoliad/lleoliad priodol. 

Os oes gofyn i’r Maer roi araith, byddai angen darparu manylion cefndirol y digwyddiad.  Os oes gofyn i’r Maer ymateb i lwncdestun, neu gyfeirio at unrhyw fater penodol yn ei araith/haraith ac ati, dylid tynnu sylw at hyn cyn y digwyddiad.

Os oes rhaglen ar gyfer y digwyddiad, dylech ei darparu o leiaf 2 ddiwrnod cyn y digwyddiad.

Dylid hysbysu’r Maer a’r Faeres o unrhyw gôd gwisg y dylent gadw ato ar gyfer digwyddiad.

Bydd gan y Maer was gydag ef/hi sy’n ei gludo/chludo i ddigwyddiadau. Lle bo hynny’n bosibl, bydd y Maer yn cael ei ollwng/gollwng wrth brif fynedfa’r lleoliad, ac felly byddai o gymorth pe bai lle parcio yn cael ei gadw ar ei gyfer/chyfer mor agos ag sy’n bosibl at y brif fynedfa. 

Gall gwas y Maer adael y Maer a dychwelyd yn nes at ddiwedd y digwyddiad, neu bydd yn aros yn y lleoliad.

Trefnu i wahodd y Maer

Os hoffech wahodd y Maer i ddigwyddiad yr ydych yn ei drefnu, anfonwch e-bost at mayoralty@wrexham.gov.uk.