Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ethol Maer i wasanaethu am flwyddyn. Mae blwyddyn y Maer bob amser yn brysur ac mae’n cynnwys pum digwyddiad dinesig ffurfiol: Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, Ymweliad Dinesig â’r Eglwys, Penwythnos Aduniad Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, Dawns a Chinio Elusennol, a’r Gwasanaeth Coffa Blynyddol.

Bydd y Maer yn bresennol mewn hyd at 400 o ddigwyddiadau yn ystod y Flwyddyn Faerol, a bydd yn derbyn llawer mwy o wahoddiadau – y bydd y Dirprwy Faer yn mynychu sawl un ohonynt. 

Y Maer ar gyfer 2019/2020 yw’r Cynghorydd Rob Walsh, yng nghwmni ei Faeres, Ms Sharon Pope.

Bydd y Maer yn enwi elusen neu elusennau a fydd yn derbyn arian a godir yn ystod y flwyddyn. Elusennau'r Maer eleni yw:

  • Bowel Cancer UK
  • Lloches Geffylau H.A.C.K.
  • Sands (y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion) 

Yn ogystal â’r elusennau a enwebir, mae’r Maer yn ystyried pob cais am roddion a wneir gan achosion teilwng eraill.

Trefnu i wahodd y Maer

Os hoffech wahodd y Maer i ddigwyddiad sy’n cael ei drefnu gennych, anfonwch e-bost at mayoralty@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292279.

 

Rolau a swyddogaethau’r Maer

Rolau

  • fel Prif Ddinesydd, cyflawni rôl arweiniol yn enw’r cyngor a Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • cynrychioli ardal y cyngor bwrdeistref cyfan a gweithredu fel symbol o barhad
  • gweithredu fel cyswllt rhwng y cyngor a dinasyddion y fwrdeistref sirol, fel arwydd o gydlyniad cymdeithasol 
  • fel rhywun a etholwyd beth bynnag fo’i ddosbarth, ei rywedd a’i gefndir ethnig, mae’r Maer yn symbol o gymdeithas agored
  • gweithredu fel canolbwynt mewn achosion o argyfwng, trasiedi neu fuddugoliaeth

Swyddogaethau

  • llywyddu yng nghyfarfodydd y Cyngor a bwrw pleidlais pan fo nifer y pleidleisiau yn gyfartal 
  • ac eithrio ym mhresenoldeb Ei Mawrhydi'r Frenhines ac aelodau o'r teulu brenhinol (gan gynnwys yr Arglwydd Raglaw yn rhinwedd ei swydd), cael blaenoriaeth mewn unrhyw ddigwyddiad yn y Fwrdeistref Sirol 
  • llywyddu mewn digwyddiadau dinesig

Meiri Wrecsam – cefndir hanesyddol

Cyn 1857, cyflawnwyd gweinyddiaeth Wrecsam yn bennaf gan lysoedd maenorol y bonedd mwyaf blaenllaw a Festri'r plwyf. Nid allai'r llysoedd ymdopi â dyletswyddau llywodraeth leol mwyfwy cymhleth, ac ychwanegodd Festri’r Eglwys faterion seciwlar i fusnes gwreiddiol yr eglwys.

Roedd yr anawsterau o weinyddu llywodraeth leol yn parhau, hyd nes penderfynodd y bobl leol ddeisebu i roi Siarter Gorffori i Fwrdeistref Wrecsam, a ddaeth i rym ar 23 Medi 1857.

Dyma oedd sail llywodraeth leol fodern yn Wrecsam, a chrëwyd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam gyda maer cyntaf Wrecsam, Thomas Edgworth.

Arfbeisiau a blesawnt swyddogol

Mae arfbais y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn deillio'n bennaf o arfbais y ddau gyn awdurdod yn Wrecsam. Mae'r darian yn cyfuno eu ‘cae’ gwyrdd, smotiau carlwm a bugeilffyn aur gyda'r llew glas ar aur Hanmeriaid Maelor, ynghyd ag Afon Dyfrdwy, mewn map o'r ardal newydd.

Mae'r arflun yn seiliedig ar goron furol goch sy'n arwydd o'r diwydiant gwneud brics a chastell Madog ap Meredydd yn Owrtyn. Mae'r Ddraig Goch yn gorffwys ei throed ar ddiemwnt du ag ymylon aur - sy'n arwydd o lo a chyfoeth mwynau eraill - ac mae'r goeden yn arwydd o goedwigaeth a'r ardaloedd gwledig. 

Dreigiau Cymreig yw'r cynhalwyr sy'n dal baner werdd fel arwydd o amaethyddiaeth; mae un ddraig yn dal symbol aur o'r blaned Mawrth fel arwydd o'r ffowndrïau haearn, ac mae'r llall yn dal olwyn gocos aur fel arwydd o beirianyddiaeth.

Ystyr yr arwyddair, LABOR OMNIA VINCIT, gan Virgil yw ‘Mae gwaith caled yn goresgyn popeth’. 

Dyluniwyd yr arfbeisiau gan H Ellis Tomlinson MAFHS.

Image