Mae Llyfrgelloedd Wrecsam yn awr yn cynnig gwasanaeth argraffu o unrhyw le. 

Gallwch argraffu ffeiliau PDF a ffeiliau Microsoft Office o unrhyw le a’u casglu yn eich llyfrgell leol

Mae arnoch angen cerdyn llyfrgell a rhif pin i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Gallwch gofrestru ar-lein am gerdyn aelodaeth os nad oes gennych un yn barod.

Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth

  • Agorwch y ddolen ganlynol:
  • Bydd blwch mewngofnodi’n ymddangos ar y sgrin:
""
  • Teipiwch eich rhif aelodaeth (ar gyfer yr ‘enw defnyddiwr’) a’ch rhif PIN a dewiswch o ba lyfrgell rydych eisiau casglu eich dogfennau
  • Bydd blwch uwchlwytho yn ymddangos ar y sgrin:
""
  • Cliciwch ar y botwm ‘Choose File’
  • Chwiliwch am y ddogfen rydych eisiau ei hargraffu a dewiswch ‘Agor’
  • Cliciwch ar y botwm ‘Uwchlwytho Ffeil’. Unwaith y bydd y ffeil wedi’i llwytho fe welwch neges ‘Llwyddiant’ ar y sgrin:
""
  • ​Mae eich dogfen yn awr yn y ciw argraffu yn barod i chi dalu a’i chasglu wrth gownter y llyfrgell pan fyddwch yn ymweld â’r llyfrgell a ddewiswch. Casglwch eich dogfen o fewn 48 awr. 

Ar ôl 48 awr, bydd y ddogfen yn cael ei dileu o’r system yn awtomatig.

Priso

  • 20c fesul tudalen A4 mewn du a gwyn
  • 40c fesul tudalen A4 mewn lliw

Ni allwn argraffu unrhyw faint arall drwy’r system hon.