Gellir gwneud cais am gefnogaeth tenantiaeth gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymgeisiwch rŵan

 

Os ydych chi’n byw mewn llety’r cyngor ac os oes arnoch chi angen cymorth â rheoli eich tenantiaeth, efallai y gallwn ni eich helpu.

Efallai eich bod chi’n cael trafferth â’ch tenantiaeth gan eich bod chi’n denant am y tro cyntaf, neu efallai eich bod chi’n cael trafferth ymdopi fel tenant presennol.

Beth yw’r gwasanaeth cefnogi tenantiaeth?

Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth tai am ddim i unrhyw un o’n tenantiaid sydd angen cymorth i gadw eu tenantiaeth yn llwyddiannus.

Gellir cynnig cymorth yn eich cartref i sicrhau nad ydych chi’n teimlo’n unig ac yn teimlo nad ydych yn gallu ymdopi â phroblemau a wynebir, ac i’ch helpu i osgoi’r perygl o gael eich troi allan.

Caiff y gwasanaeth ei deilwra i fodloni eich anghenion unigol.

Ydw i’n gymwys am y gefnogaeth?

Gallwch dderbyn cefnogaeth tenantiaeth os ydych chi’n denant â ni ac yn bodloni un o'r canlynol...

  • Tenant rhagarweiniol
  • Gweithiwr mudol, neu statws ffoadur
  • Tenant presennol sy’n cael trafferth cyflawni eu rhwymedigaethau tenantiaeth, a allai arwain at ddigartrefedd

Pa fath o gymorth ydw i'n gallu ei gael?

Gallwn eich helpu i ymgartrefu drwy gynnig cyngor ynglŷn â sut i ddod o hyd i gyflenwyr yn ogystal â’ch helpu i ddod o hyd i ddodrefn.

Gallwn roi cymorth ariannol i chi, gan gynnwys cyngor mewn perthynas â sut i ymdrin â rhent a biliau. Gallwch hefyd dderbyn cyngor ar yswiriant a gwybodaeth am ddiogelwch, a sut i gadw eich cytundeb tenantiaeth.

Os ydych chi’n bryderus am deimlo’n ynysig, gallwn eich cefnogi i gymryd rhan mewn addysg/dysgu neu gyflogaeth/gwaith gwirfoddol er mwyn eich helpu i deimlo’n rhan o’ch cymuned.

Gallwch hefyd dderbyn cyngor os ydych chi'n bryderus am eich lles (iechyd meddwl yn ogystal ag iechyd corfforol).

Nid yw gweithwyr cefnogi tenantiaeth yn gallu rhoi cymorth arbenigol uniongyrchol i chi â materion megis problemau iechyd, iechyd meddwl, dyledion neu ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol. Fodd bynnag, gallant eich cyfeirio at sefydliadau cefnogi sy'n gallu darparu cyngor arbenigol am y materion hyn. Gallant hefyd gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol neu unrhyw sefydliadau cefnogi eraill i chi lle bo angen.

Sut i Ymgeisio

Gellir gwneud cais drwy gwblhau’r ffurflen hunanatgyfeiriad ar-lein, neu gellir cysylltu â’ch swyddfa dai leol.

Beth fydd yn digwydd unwaith y byddaf wedi gwneud cais?

Bydd swyddog cefnogi tenantiaeth yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad â chi.

Byddant yn trafod unrhyw broblemau â chi ac yn penderfynu ar gynllun cefnogi sy'n egluro beth y gallwch ei ddisgwyl, a pha mor aml y byddant yn ymweld â chi. 

Bydd eich swyddog cefnogi tenantiaeth yn adolygu eich cynnydd yn ystod pob ymweliad, ac yn gweld a oes yna unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i’ch cefnogi chi. 

Ein nod yw eich helpu chi i ymgartrefu a’ch cefnogi i fyw’n annibynnol.

Am ba hyd y bydd y gefnogaeth yn para?

Gan ein bod ni’n wasanaeth cefnogi lefel isel a pharhau, gallwn gynnig cefnogaeth i bobl am hyd at ddwy flynedd, fodd bynnag, rhoir cefnogaeth dros gyfnod llawr byrrach na hynny gan amlaf.

Y cyfartaledd ar gyfer ein cyfnod cefnogi yw ychydig fisoedd – hyd nes y byddwch yn barod i reoli.

Mae’r lefel o annibyniaeth yr ydym ni yn eich helpu i’w chyrraedd yn llawer pwysicach na’r cyfnod yr ydym ni’n ei dreulio yn darparu cefnogaeth tenantiaeth i chi. Ein nod yw eich helpu i ymgartrefu a’ch cefnogi i fyw’n annibynnol.

Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau pob un o'ch nodau cefnogaeth, byddwn yn dod i gytundeb o ran pryd i ddod â'r gefnogaeth i ben.

Sut caiff y gwasanaeth ei ariannu?

Y Grant Refeniw Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru sy’n ariannu’r gefnogaeth tenantiaeth. Mae’r grant yn talu am holl gostau’r gwasanaeth gan y tîm Cefnogi Pobl yn Wrecsam.

Mae safonau a chanllawiau y mae’n rhaid i ni eu dilyn, mae hyn yn cynnwys adolygiad blynyddol ac archwiliadau rheolaidd.

Prif nod y gwasanaeth yw atal digartrefedd.