Ceisiwn roi dewis i chi o’r math a lleoliad y tŷ cyngor yr ydych yn dymuno cael eich ystyried ar ei gyfer. Fodd bynnag, oherwydd y galw, nid yw bob amser yn bosibl diwallu anghenion a dyheadau pawb.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol efallai y byddwch yn gallu ystyried dewisiadau tai eraill, fel...

Enwebiadau i Gymdeithasau Tai

Pan fyddwch yn gwneud cais am Dŷ Cyngor, gallwch hefyd ofyn i gael eich ystyried ar gyfer enwebiad i un o’r Cymdeithasau Tai sydd ag eiddo ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Rydym yn defnyddio’r un proses i ddewis ymgeiswyr ar gyfer enwebiad ag yr ydym yn ei ddefnyddio ar gyfer dyrannu eiddo’r Cyngor.

Mae enwebu yn golygu y byddwn yn argymell ymgeiswyr o'n rhestr aros i fod yn denantiaid newydd o eiddo gwag gan gymdeithasau tai.

Gan nad ydym yn gallu helpu pawb sy’n gwneud cais am dŷ, gall gwneud cais i gael eich enwebu ar gyfer Cymdeithas Tai gynyddu eich siawns o ailgartrefu.

Sut y mae enwebiadau yn gweithio? 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol i gymdeithasau tai ein helpu ni ddod o hyd i lety ar gyfer pobl mewn angen. 

Mae gennym gytundebau gyda llawer o gymdeithasau tai i ddarparu enwebeion ar gyfer canran benodol o’u heiddo sy’n dod yn wag (mae’r ganran yn amrywio yn dibynnu ar y gymdeithas dai).

Mae’r cymdeithasau yn cysylltu â ni pan fydda nhw'n gwybod bod eiddo ar fin dod yn wag ganddynt a bod angen i ni wneud enwebiadau.

Rydym yn eu darparu ag enwebiad ar gyfer pob llety/eiddo gwag, gan ddewis ymgeiswyr sydd wedi:

  • gofyn am y math, maint, lleoliad yr eiddo hynny
  • nodi ar eu ffurflen gais tai bod ganddynt ddiddordeb mewn cael eu henwebu
  • ateb prif flaenoriaeth ein polisi gosod tai

Os ydych yn cael eich dewis byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi ein bod wedi pasio eich manylion ymlaen i’r gymdeithas tai ac y byddan nhw’n cysylltu â chi’n fuan.

Mewn rhan fwyaf o achosion bydd y gymdeithas yn trefnu ymweld â chi cyn penderfynu cynnig yr eiddo i chi. Os ydych yn llwyddiannus byddwch yn derbyn cynnig o denantiaeth yn ysgrifenedig a gofynnir i chi os ydych yn dymuno derbyn y cynnig.

Unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig am lety cymdeithas tai byddwn yn tynnu eich cais oddi ar ein rhestr aros.

Os ydych wedi datgan eich bod yn ddigartref a bod dyletswydd gyfreithiol arnom i’ch helpu i sicrhau llety byddwn yn rhoi gwybod i chi bod y cynnig am denantiaeth gan y gymdeithas dai yn dod â’n dyletswydd i ben (bydd hynny’n digwydd gan ein bod yn credu bod yr eiddo yn addas ar gyfer eich anghenion).

Efallai y byddwch yn gofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwn.

Gwneud Cais i Gymdeithasau Tai

Gallwch hefyd wneud cais am dai yn uniongyrchol i’r gymdeithas tai.

Mae rhai cymdeithasau tai yn rheoli eu rhestrau aros eu hunain ac ni fydd gwneud cais yn uniongyrchol iddyn nhw yn effeithio ar eich cais am dŷ cyngor mewn unrhyw ffordd.

Cydgyfnewid

Ffordd arall o gynyddu eich siawns o symud i dŷ mwy addas yw gwneud cais am gydgyfnewid. Os oes gennych denantiaeth ddiogel â ni, mae gennych hefyd yr hawl i wneud cais i gyfnewid tŷ gyda thenant arall o unrhyw gyngor neu gymdeithas tai.

Rydym wedi ymuno â’r gwasanaeth cenedlaethol ‘Homeswapper’ lle gallwch chwilio ar-lein am denantiaid eraill sydd eisiau cyfnewid cartrefi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais cydgyfnewid, gallwch gofrestru neu ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Homeswapper (dolen gyswllt allanol).

 

Perchnogaeth Tai Fforddiadwy

Os ydych yn gweithio, ar incwm isel ac yn methu fforddio prynu neu rentu cartref yn breifat ar y farchnad agored, mae’n bosibl nad rhentu gennym ni yw eich unig ddewis.

Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu prynu eiddo trwy un o’n cynlluniau perchnogaeth tai fforddiadwy.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu’r cynlluniau canlynol...

  • Rhannu Ecwiti 
  • Rhannu Perchnogaeth
  • Cymorth Prynu 
  • Rhenti Fforddiadwy
  • Plotiau Ar Werth
  • Cyfradd Ostyngol

I wybod a ydych yn gymwys ar gyfer y cynlluniau hyn ac i gael manylion pellach rydych angen cofrestru ar wefan Tai Teg (dolen gyswllt allanol)

Rhentu’n breifat

Gallwch hefyd ystyried rhentu eiddo’n breifat gan landlord preifat.

Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Fudd-Dal Tai i gael help i dalu eich rhent, ond os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol bydd unrhyw arian y byddwch yn ei dderbyn i helpu talu eich rhent yn cael ei dalu yn uniongyrchol i chi. Yna, eich cyfrifoldeb chi yw trefnu i dalu’r arian yma i’ch landlord.

Fel arfer bydd llety rhent preifat yn cael ei hysbysebu mewn papurau newydd lleol neu drwy asiant gosod tai.

Asiantaeth Gosod Tai Lleol

Mae ein hasiantaeth gosod tai lleol yn darparu gwasanaeth i aelwydydd sydd methu cael gafael ar lety rhent preifat heb gymorth.

Rydym yn gweithio’n agos gyda gwasanaeth dewisiadau tai y cyngor a dim ond ganddyn nhw y gallwn dderbyn atgyfeiriadau. Os ydych chi’n gymwys yna efallai y gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i lety yn y sector rhentu preifat.