Os ydych ar incwm isel, gallwch gael Budd-Dal Tai i’ch helpu i dalu eich rhent.

Mae’r swm a gewch yn ddibynnol ar eich incwm ac amgylchiadau. Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau'r (dolen gyswllt allanol) llywodraeth i ganfod beth allwch ei gael.

Os ydych yn cael Budd-Dal Tai neu’r elfen Costau Tai Credyd Cynhwysol, gallwch hefyd wneud cais am Daliad Tai Dewisol.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol eisoes, ni chewch wneud cais am Fudd-dal Tai.

Sut i wneud cais

Os ydych chi eisiau gwneud cais am Fudd-daliadau Tai a gostyngiad Treth y Cyngor, anfonwch e-bost at housingbenefits@wrexham.gov.uk i gael ffurflen gais.