Dysgwch fwy am sut y mae ceisiadau am dai cyngor yn cael eu prosesu ar ôl eu cyflwyno.

Cofrestru eich cais

Cewch eich hysbysu trwy lythyr, unwaith y bydd eich cais wedi’i gofrestru. Bydd y llythyr yn rhoi manylion o’ch:

  • Cyfeirnod cais
  • Dewis cyntaf o ardal ar gyfer ailgartrefu
  • Dyddiad y cais
  • Band Blaenoriaeth 

Byddwn hefyd yn cysylltu â chi yn ysgrifenedig os bydd unrhyw newidiadau i'r cais wedi iddo gael ei gofrestru.

Gwneud cynnig i chi

Cynigir llety fel arfer i’r ymgeiswyr yn y band uchaf sydd wedi bod yn aros hiraf am y math o eiddo sydd wedi dod yn wag, (cyn belled a’i fod yn yr ardal mae’r unigolyn yn gofyn i fyw yno a bod ganddynt gysylltiad (byw, gweithio neu gysylltiadau teulu agos) gyda’r gymuned a/neu Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Derbyn y cynnig

Os ydych yn derbyn y cynnig, byddwn yn anelu i roi syniad pryd fydd yr eiddo’n barod i chi. Cysylltwch â’r swyddfa dai leol sydd wedi gwneud y cynnig i chi am fanylion pellach.

Gwrthod y cynnig

Os byddwch yn penderfynu gwrthod y cynnig, mae’n rhaid i chi ysgrifennu atom gan roi’r union resymau pam (gellir gwneud hyn drwy lythyr neu e-bost).

Gwneir dau gynnig yn unig ar gyfer llety. Os gwrthodir y ddau ac nad ydym yn meddwl bod eich rhesymau dros wrthod yn rhesymol, byddwn yn lleihau eich ffafriaeth am dŷ. Gall fod yn amser maith cyn y byddwch yn derbyn cynnig arall ar ôl hynny.

Os ydych yn ymgeisydd yn band un, neu wedi cael cynnig o dan ddeddfwriaeth digartrefedd, byddwch ond yn derbyn un cynnig ar gyfer llety.

Mae gennych hawl gofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad ynglŷn â pha mor rhesymol yw cynnig.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i...

  • Cael gwybod a gofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad ynglŷn â chymhwysedd i ymuno â’r Gofrestr Tai a’r sail dros wneud y penderfyniad hwnnw.
  • Cael gwybod am gais a gofyn am adolygiad, o unrhyw ffeithiau rydym wedi eu defnyddio i wneud ein penderfyniad.
  • Derbyn gwybodaeth am sut y bydd eich cais yn cael ei brosesu a pha flaenoriaeth a roddwyd i’ch cais. 
  • Cael gwybodaeth ar argaeledd tebygol o lety addas.

Adolygiadau

Gallwch ofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch y ffordd mae eich cais wedi cael ei brosesu, gan gynnwys...

  • Y penderfyniad i leihau dewis 
  • Y band a ddyfarnwyd i gais 
  • Y penderfyniad i eithrio cais 

Mae’n rhaid gwneud unrhyw gais am adolygiad o fewn 28 diwrnod calendr o gael gwybod am y penderfyniad gwreiddiol.

Mae adolygiadau’n cael eu cynnal gan swyddog nad oedd yn ymwneud â'r broses wreiddiol o wneud penderfyniadau.

Dylid anfon ceisiadau am adolygiad at y ‘Pennaeth Tai a’r Economi, Gwasanaethau Tai, Ffordd Rhuthun, Wrecsam  LL13 7TU.'

Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn eich cais.

Apeliadau

Os byddwch yn anghytuno gyda chanlyniad unrhyw adolygiad, y modd y dilynwyd y polisi neu’r modd y dehonglwyd y gyfraith tai, gallwch apelio ymhellach.

Mae’n rhaid gwneud unrhyw gais am adolygiad o fewn 28 diwrnod calendr o gael gwybod am y penderfyniad gwreiddiol.

Dylid anfon ceisiadau am adolygiad at y ‘Pennaeth Tai a’r Economi, Gwasanaethau Tai, Ffordd Rhuthun, Wrecsam  LL13 7TU.'

Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad o fewn 14 diwrnod gwaith o dderbyn eich cais.