Rydyn ni’n defnyddio Cynllun Bandio i flaenoriaethu ymgeiswyr am dai (ac eithrio ‘Rheoli Symudiadau’).

Y Cynllun Bandio

Mae'r Cynllun Bandio yn cynnwys pum band, o un i bump yn nhrefn blaenoriaeth ddisgynnol. Fe fyddwn yn eich gosod yn un o’r bandiau blaenoriaethu, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Yna byddwn yn dyrannu eiddo gwag i'r ymgeisydd yn y band uchaf sydd wedi bod yn aros hiraf am y math o eiddo sydd wedi dod ar gael yn yr ardal dan sylw.

Ni chewch ond eich rhoi ym Mandiau 1, 2 neu 3 os oes gennych gysylltiad lleol â Bwrdeistref Sirol Wrecsam (yn byw neu’n gweithio yma, neu gyda theulu agos yma).

Rheoli Symudiadau a’r Polisi Gosod Lleol

Gallai fod eithriadau i’r Cynllun Bandio mewn rhai amgylchiadau penodol, a gelwir hyn yn Rheoli Symudiadau.

Mewn rhai sefyllfaoedd lle mae yna faterion rheoli penodol, rydym yn ystyried gweithredu Polisïau Gosod Tai Lleol.

Defnyddiwn y polisïau ychwanegol hyn i flaenoriaethu aelwydydd penodol y gellir eu hystyried ar gyfer tai mewn ardaloedd penodol.

Ar hyn o bryd mae gennym bolisïau ar gyfer...

  • Cynllun cefnogi i bobl ag anableddau dysgu
  • Eiddo sy’n addas i ymgeiswyr 30 oed neu hŷn
  • Eiddo sy’n addas i ymgeiswyr 50 oed neu hŷn

Cynnwys cynghorwyr lleol

Gall cynghorwyr lleol gyfrannu at y broses gosod tai – drwy roi cyngor a chynrychioli eu cymunedau lleol, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu ein polisi gosod yn deg ac yn gyson.

Gall aelodau lleol...

  • Wneud sylwadau ar ran eu hetholwyr i sicrhau bod holl ffeithiau eu hachos yn cael eu hystyried.
  • Cael hysbysiad o dai gwag yn eu wardiau pan gânt eu dyrannu.
  • Cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ynglŷn â stoc tai’r Cyngor, gosodiadau a’r nifer o ymgeiswyr a gofrestrwyd am dŷ.
  • Cyfrannu at adolygiadau polisi yn y dyfodol i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion.

Ni all aelodau lleol...

  • Gymryd rhan uniongyrchol wrth ddyrannu eiddo i ymgeiswyr sy’n byw yn eu wardiau.
  • Gymryd rhan wrth ddyrannu eiddo yn eu wardiau.