Microsglodynnu

Prynwyr cŵn bach

Mae’n rhaid i chi sicrhau fod y bridiwr wedi microsglodynnu’r ci bach ac wedi ei gofrestru gyda chronfa ddata microsglodyn a gymeradwywyd, cyn i chi fynd â’r ci bach adref. Gofynnwch am waith papur i brofi eu bod wedi gwneud hyn, gan y gallai camau gorfodi gael eu cymryd yn eich erbyn os y canfyddir yn ddiweddarach nad yw eich ci wedi ei ficrosglodynnu. 

Perchnogion cŵn

Fel perchennog ci mae’n rhaid i chi sicrhau fod:

  • eich ci wedi ei ficrosglodynnu gan filfeddyg proffesiynol neu gan fewnblannwr sydd wedi derbyn hyfforddiant sydd wedi ei gymeradwyo gan y llywodraeth.
  • eich bod wedi cofrestru gyda chronfa ddata microsglodyn a gymeradwywyd
  • eich bod yn sicrhau fod y manylion yn gyfredol gyda darparwr cronfa ddata a gymeradwywyd.

Mae’n rhaid i gŵn bach fod wedi’u microsglodynnu a’u cofrestru gyda chronfa ddata microsglodyn a gymeradwywyd cyn eu bod yn 8 wythnos oed.

Os canfyddir nad ydych chi wedi microsglodynnu eich ci yna fe fyddwch yn cael rhybudd a bydd gennych 21 diwrnod i ficrosglodynnu’r ci. Gall methu â gwneud hyn arwain at erlyn a dirwy gan lys.

Hefyd mae’n rhaid i chi sicrhau fod eich manylion yn gyfredol, os nad ydych yn gwneud hyn yna fe allech fod yn agored i ddirwy o hyd at £5,000. 

Coleri a thagiau

Fel perchennog ci mae’n rhaid i chi sicrhau fod eich ci yn gwisgo coler a thag adnabod gyda’ch manylion cyswllt cyfredol wedi eu hysgrifennu arno - pan fo ar briffordd neu mewn lle cyhoeddus.

Mae’n rhaid i fanylion cyswllt gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad (gan gynnwys cod post). Mae cynnwys rhif ffôn yn ddewisol.

Mae methu â gosod coler a thag ar eich ci heb esgus rhesymol yn drosedd, a gall hyn arwain at achos cyfreithiol yn eich erbyn.