Os yw ci heb ei berchennog mewn lle cyhoeddus (neu le preifat lle nad oes ganddo ganiatâd i fod yno) yna caiff ei ddosbarthu fel ci strae.

Beth i’w wneud os ydych yn dod o hyd i gi strae

Os ydych yn dod o hyd i gi strae yna fe ddylech edrych am goler/tag ac os oes yna un yna cysylltwch â’r perchennog. Os nad ydynt yn gwisgo coler/tag yna fe ddylech gyflwyno adroddiad ci sydd ar goll neu gi strae.

Peidiwch â chysylltu neu fynd â chi strae i'r cytiau cŵn heb gyflwyno adroddiad i’n gwasanaeth warden cŵn yn gyntaf gan y byddwch yn cael eich gwrthod.

Cŵn peryglus

Nid yw’n gwasanaeth warden cŵn yn ymdrin â chŵn peryglus.

Os yw’r ci wedi anafu rhywun, neu’n ymddwyn mewn ffordd sy’n gwneud i chi boeni y gallai anafu rhywun, yna ffoniwch rif yr heddlu nad yw ar gyfer galwadau brys sef 101.

Rhoi gwybod am gi sydd ar goll neu gi strae

Mae gennym gofrestr o’r holl gŵn sydd ar goll neu gŵn strae y rhoddwyd gwybod i ni amdanynt neu sydd wedi eu casglu gennym ni. Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i roi ci ar y gofrestr hon.

Dechrau rŵan

Hefyd gallwch ein ffonio ni yn ystod oriau swyddfa arferol (8.30am – 5pm) ar 01978 298989.

Y tu allan i oriau arferol (dyddiau’r wythnos 5pm – 10pm neu yn ystod penwythnosau a gwyliau banc 8.30am – 10pm) ffoniwch 01978 292055.

Os ydych wedi rhoi gwybod yn flaenorol fod eich ci ar goll ond y daethpwyd o hyd iddo fe ddylech hefyd roi gwybod i ni, fel y gallwn ddiweddaru ein cofrestr.

Beth sy’n digwydd wedi i chi roi gwybod i ni am gi strae

Yn ystod oriau gwaith arferol

Fe fyddwn yn casglu’r ci gennych chi, cyn belled â’n bod yn fodlon nad chi sydd yn berchen y ci. 

Os mai hwn yw’r tro cyntaf y rhoddwyd gwybod i ni fod y ci yn un strae yna fe fyddwn yn gwneud pob ymdrech rhesymol i gysylltu â’r perchennog a dychwelyd y ci i’w gartref.  Os na allwn wneud hyn yna fe fydd y ci yn cael ei gludo i’n cytiau cŵn sydd dan gontract.

Y tu allan i oriau

Rydym yn cynnal gwasanaeth casglu ar gyfer cŵn sy’n cael eu cadw mewn eiddo tan 10pm, yna ar ôl 10pm mae gwasanaeth derbyn yn y cytiau cŵn (ni ddarperir gwasanaeth casglu ar ôl 10pm).

Cytiau cŵn dan gontract

Caiff yr holl gŵn strae a gaiff eu casglu eu cludo i’n cytiau cŵn dan gontract:

Acorn Kennels Ltd
Heath Road
Yr Eglwys Wen
Swydd Amwythig
SY13 2AA

Rhif ffôn: 01948 662931

Oriau agor Dydd Llun i Ddydd Sul 9am tan 6pm.

Perchnogion cŵn sydd ar goll

Fe gysylltir â chi y diwrnod y caiff eich ci ei gludo i’r cytiau cŵn os oes ganddo dag adnabod gyda manylion cyswllt arno, neu os y rhoddwyd gwybod i ni/y cytiau cŵn ei fod ar goll.

Os yw eich ci wedi ei gasglu y tu allan i oriau arferol yna fe gysylltir â chi ar y diwrnod gwaith nesaf.

Ffioedd a thaliadau cŵn sydd ar goll

Wrth hawlio eich ci fe fydd rhaid i chi dalu ffi i dalu am gostau’r gwasanaeth cŵn strae a ddarparwyd i chi gennym ni. Mae’r ffi statudol hefyd yn cynnwys swm rhagnodedig a osodwyd gan y llywodraeth.

Hefyd fe godir ffi ddyddiol cytiau cŵn.

Ffioedd sefydlog 

Math o ffi Cyfanswm
Ffi statudol (gan gynnwys casglu) £60
Ffi cytiau cŵn dyddiol £13

Fe godir unrhyw ffioedd milfeddygol angenrheidiol fel ffioedd ychwanegol ar ben y ffioedd hyn.

Gwybod beth yw eich cyfrifoldebau 

Fel perchennog ci mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau fod eich ci yn cael ei ficrosglodynnu yn gywir a bod ganddo goler/tag - ewch i ddarganfod mwy am ficrosglodynnu a chyfrifoldebau coler ci