Os yw plentyn rhwng 10 a 17 oed yn cyflawni trosedd, bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’r Heddlu yn penderfynu a fydd modd ymdrin â’r drosedd y tu allan i’r Llys. Gelwir y broses hon yn ‘Biwro’.

Mae’r Biwro yn gyfle i wyro plant oddi wrth brosesau cyfiawnder troseddol ffurfiol fel y Llys.

Gall plentyn sydd wedi cyflawni trosedd gymryd rhan mewn gweithgareddau atgyweiriol wrth gael cefnogaeth sy’n benodol i’w hamgylchiadau. Mae gweithgaredd atgyweiriol yn golygu gwneud pethau’n iawn i’r dioddefwr neu’r gymuned trwy roi rhywbeth yn ôl.

Er mwyn i blentyn fod yn gymwys ar gyfer gwasanaeth y Biwro: 

  • Mae’n rhaid i’r Heddlu benderfynu nad yw’r drosedd yn rhy ddifrifol. 
  • Mae’n rhaid i’r plentyn gyfaddef yn llwyr ac yn glir eu bod wedi cyflawni’r drosedd a’u bod yn barod i weithio gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.  

Os yw’r meini prawf uchod wedi’u bodloni, gellir cyflwyno enw’r plentyn ar gyfer y Biwro.  

Beth fydd yn digwydd os caiff enw’r plentyn ei gyflwyno ar gyfer y Biwro?

Bydd aelod o staff y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cysylltu â’r plentyn.  Dros yr wythnosau dilynol, bydd yr aelod hwn o staff yn gweithio’n agos gyda’r plentyn a’u rhieni/gofalwyr. Byddant yn dod i’w hadnabod fel bod modd iddynt gwblhau asesiad ac adroddiad.

Yna bydd yr asesiad a’r adroddiad yn cael eu cyflwyno i banel y Biwro. 

Beth yw Panel y Biwro? 

Mae Panel y Biwro’n cynnwys rheolwr o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Swyddog Heddlu o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a gwirfoddolwr cymunedol.

Eu rôl yw ystyried y wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno yn asesiad ac adroddiad y plentyn ond hefyd unrhyw asesiad a wnaed gyda’r dioddefwyr hefyd.  

Bydd y panel yn trafod yr holl wybodaeth a chytuno ar y canlyniad mwyaf priodol ar gyfer y plentyn.  

Canlyniadau posibl (datrysiadau y tu allan i’r Llys)

Mae’r dewisiadau y gall y panel eu dewis o ran canlyniadau yn cynnwys:

Dim camau pellach (NFA)

Dyma pan fydd y panel yn cytuno nad oes angen unrhyw gamau pellach ac ni fydd gofyn i’r plentyn gyflawni unrhyw waith gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid neu’r Heddlu. 

Datrysiad Cymunedol + (CR+)

Dyma pan fydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithio gyda’r plentyn ar sail un i un er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad a arweiniodd at atgyfeirio’r plentyn. 

Gallai’r plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau atgyweiriol (lle bo’n briodol) i wneud iawn am unrhyw niwed a achoswyd o ganlyniad i’w hymddygiad. 

Nod yr ymyrraeth yw helpu’r plentyn i:

  • adeiladu ar eu cryfderau a’u dyheadau
  • paratoi ar gyfer unrhyw brosesau trosglwyddo

Mae'r rhaglen gymorth a ddarperir yn dilyn CR+ fel arfer yn para am hyd at 16 wythnos a byddai gofyn i’r plentyn weithio gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar sail wirfoddol.

Rhybudd Ieuenctid (YC)

Mae hwn yn ddatrysiad ffurfiol y tu allan i’r Llys sy’n cael ei gofnodi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC). 

Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn darparu rhaglen ymyrraeth wedi’i thargedu ar sail un i un i fynd i’r afael â’r ymddygiad a arweiniodd at atgyfeirio’r plentyn. 

Mae'r rhaglen gymorth a ddarperir yn dilyn Rhybudd Amodol Ieuenctid fel arfer yn para am hyd at 16 wythnos a byddai gofyn i’r plentyn weithio gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar sail wirfoddol.

Rhybudd Amodol Ieuenctid (YCC)

Mae hwn yn ddatrysiad ffurfiol y tu allan i’r Llys sy’n cael ei gofnodi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC). 

Mae’r Rhybudd yn cynnig cefnogaeth ond mae amodau’n gysylltiedig â hyn y mae’n rhaid i’r plentyn gydymffurfio â nhw.  Gall y math o amodau fod yn adferol, adsefydlol neu gosbol. Os na fydd y plentyn yn cydymffurfio â’r amodau, gellir eu herlyn am y drosedd wreiddiol a’u hanfon i’r Llys.

Mae'r ymyriadau a'r amodau ar gyfer Rhybudd Amodol Ieuenctid fel arfer yn para hyd at 16 wythnos. Rhaid i'r plentyn weithio gyda'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid neu gellir anfon y troseddau gwreiddiol i'r llys yn lle hynny.

Gellir rhoi mwy nag un canlyniad Biwro i blentyn, ond bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ystyried a yw hyn yn addas i’r amgylchiadau.

Os yw panel y Biwro yn teimlo bod yr achos sy’n cael ei drafod yn rhy ddifrifol, gallai fynd i’r Llys yn lle hynny (dysgwch fwy am broses y Llys). 

Ar ôl i’r panel wneud eu penderfyniad, bydd y plentyn yn cyfarfod gyda Swyddog Heddlu o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i gyflwyno’r datrysiad a gytunwyd. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno yng nghwmni oedolyn priodol (rhiant / gofalwr y plentyn fel arfer).  

Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ceisio cyflwyno datrysiad y Biwro yr un diwrnod â chyfarfod y panel i gytuno ar ganlyniad.