Os bydd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam a’r Heddlu yn penderfynu bod trosedd yn ddigon difrifol, gall fynd i’r Llys.

Cyngor ac arweiniad

Os ydych chi’n berson ifanc (dan 18 oed) o Wrecsam sy’n ymddangos gerbron y Llys oherwydd eich bod wedi cyflawni trosedd, neu wedi’ch cyhuddo o gyflawni trosedd, gallwch gysylltu â ni ar 01978 298739. Gallwn drafod unrhyw bryderon neu gwestiynau a allai fod gennych chi.

Cyrraedd y Llys

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn mynychu'r Llys ar y diwrnod a’r amser cywir, fel arall byddwch yn cyflawni trosedd ddifrifol. Os na fyddwch yn mynd i’r Llys efallai y bydd warant yn cael ei chyflwyno a gallech gael eich arestio.

  • Os oes rheswm da iawn dros fethu â mynychu, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Llys ar unwaith a byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud (er enghraifft, os ydych chi’n sâl, efallai bydd angen i chi anfon nodyn doctor).
  • Mae’r Llys yn disgwyl i’ch rhieni / gofalwyr fynychu ac mae’n bosibl y byddant yn cael gorchymyn i fynychu os ydych yn cyrraedd yno ar eich pen eich hun.
  • Os nad oes gennych gyfreithiwr gallwch ofyn i weld y Cyfreithiwr ar Ddyletswydd wrth gyrraedd y Llys. 
  • Bydd rhywun o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yno ar eich diwrnod yn y Llys ac yn sicrhau eich bod yn deall beth sy’n digwydd ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

Canlyniadau posibl yn y Llys

Bydd gofyn i chi bledio’n ‘euog’ neu’n ‘ddi-euog’ ar gyfer y troseddau (bydd eich cyfreithiwr yn trafod hyn gyda chi ymlaen llaw). 

Gorchymyn Atgyfeirio

Os ydych chi’n berson ifanc (10 – 17 oed) yn ymddangos mewn Llys am y tro cyntaf ac wedi pledio’n euog i’r drosedd (troseddau), efallai y byddwch yn derbyn Gorchymyn Atgyfeirio.

Gall Gorchymyn Atgyfeirio bara rhwng 3 a 12 mis. Y Llys fydd yn penderfynu ar hyd y Gorchymyn, ar sail pa mor ddifrifol yw’r drosedd.

Unwaith y bydd y Llys wedi gwneud Gorchymyn Atgyfeirio, bydd aelod o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cysylltu â chi a’ch rhiant/gofalwr sawl tro. Yna byddant yn cwblhau asesiad a chynhyrchu adroddiad ar gyfer Panel y Gorchymyn Atgyfeirio.

Panel y Gorchymyn Atgyfeirio

Cynhelir Panel Gorchymyn Atgyfeirio o fewn 20 diwrnod o’r diwrnod yn y Llys, ac mae’n rhaid i chi a’ch rhiant / gofalwr fod yn bresennol. 

Mae’r Panel yn gyfarfod gyda:

  • gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i gymryd rhan yn y paneli hyn
  • ymarferydd o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid 
  • chi a’ch rhiant/gofalwr 

Weithiau bydd dioddefwr y drosedd yn ymuno â’r Panel hefyd.

Yn ystod Panel y Gorchymyn Atgyfeirio, caiff cynllun ei greu ar gyfer beth fydd angen i chi ei wneud ar eich gorchymyn. Gallai’r cynllun hwn gynnwys: 

  • gwaith gwneud iawn (rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a/neu’r dioddefwr)
  • gwaith i fynd i’r afael â’r ymddygiad troseddol
  • sut i wneud iawn â’r dioddefwr (os yw hynny’n briodol a gyda chaniatâd y dioddefwr) 
  • sicrhau eich bod yn cael help a chefnogaeth i’ch atal rhag troseddu eto.

Ar ôl y Panel, byddwch yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid dros gyfnod eich Gorchymyn. Bydd y Panel yn cwrdd â chi’n rheolaidd i adolygu sut hwyl ydych chi’n ei gael.

Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid

Gellir rhoi Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid (YRO) os ydych chi naill ai:

  • wedi’ch canfod yn euog mewn achos Llys ar ôl pledio’n ‘ddi-euog’ i’ch troseddau 
  • wedi bod gerbron y Llys o’r blaen ac wedi cael Gorchmynion Llys o’r blaen.  

Gall Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid bara hyd at 3 blynedd.  Mae’n ddedfryd yn y gymuned a gall gynnwys un neu fwy (o restr o 18 o ddewisiadau posibl) o ofynion ynghlwm ag ef.  Mae hyn yn golygu cyfarfod gyda'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn eithaf aml i gwblhau gwahanol weithgareddau a thasgau. 

Mae’r mathau o weithgareddau a allai fod yn ofynnol i gwblhau rhaglen Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid yn cynnwys: 
 

  • Goruchwyliaeth (cyfarfod gyda’ch gweithiwr yn rheolaidd) 
  • Addysg/hyfforddiant 
  • Gwneud iawn (rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned)
  • Cymorth i deuluoedd
  • Cwblhau ymyraethau / sesiynau ar destunau a allai fod wrth wraidd i’r rheswm pam y bu i chi droseddu 
  • Rhaglen o weithgareddau
  • Gwaith di-dâl
  • Cyrffyw
  • Peidio ag ymwneud neu ‘weithgareddau gwaharddedig’ eraill (pethau nad ydych yn cael eu gwneud) 
  • Cyfiawnder adferol (dull i helpu pawb a effeithir gan y drosedd i symud ymlaen, er enghraifft, gall hyn gynnwys cyfathrebu uniongyrchol neu anuniongyrchol gyda’r dioddefwr ble mae’r dioddefwr wedi cytuno i gymryd rhan)

Mae hon yn Orchymyn a fydd yn sicrhau eich bod yn gwneud iawn am y niwed a achoswyd. Byddwch chi’n cael help a chefnogaeth i’ch atal rhag troseddu eto yn y dyfodol hefyd.

Canlyniadau / dedfrydau eraill

Yn ogystal â gorchmynion atgyfeirio a gorchmynion adsefydlu ieuenctid, mae canlyniadau / dedfrydau eraill y gall y llys eu cyflwyno, gan gynnwys:

  • Dirwy
  • Rhyddhad diamod / rhyddhad amodol
  • Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid gyda Goruchwyliaeth ac Arolygu Dwys - Gorchymyn a allai fod ar gael i rai sydd wedi cyflawni troseddau difrifol neu sydd yn parhau i aildroseddu (mae’n ddewis arall yn lle’r ddalfa, a gall gynnwys hyd at 25 awr yr wythnos o oruchwyliaeth a gweithgaredd yn ogystal â chyrffyw)
  • Gorchymyn Cadw a Hyfforddi (mae hyn yn golygu treulio cyfnod yn y ddalfa gyda’r gweddill yn y gymuned ar drwydded gydag amodau). 
  • Os ydych yn cael eich dwyn gerbron Llys y Goron (yn hytrach na’r Llys Ynadon) mae dewisiadau eraill ar gael o ran dedfryd.